Erthgyl
-
Yr Atgyfodiad Mawr
Ar ddydd Gwener y Groglith y mae’n sicr bod nifer ohonom wedi bod mewn gorymdaith gyda chyd-Gristnogion o amgylch eglwysi lleol neu i leoliad priodol. Ar y gorymdeithiau hynny rydym yn canolbwyntio ar farwolaeth aberthol yr Iesu trosom ar groes Calfaria. Yna, ar ddydd Sul y Pasg byddwn yn dathlu atgyfodiad bendigedig yr Arglwydd a’i Continue reading
-
Gweddi 2
Beth mae’r Iesu yn dysgu am weddi? Mae treulio amser gyda Duw mewn gweddi yn y lle cyntaf yn rhoi clod i Dduw ond mae hefyd yn llesol i ni yn ysbrydol ac yn feddyliol. Y mae gweddïo a datblygu ein harfer o weddïo’n gyson cystal â gwell na’r holl therapi a chyngor a gawn Continue reading
-
Gŵyl Ddewi
Mae Gŵyl Ddewi yn gyfle inni gofio’r pethau gorau sy’n perthyn inni fel cenedl, gan ddiolch i Dduw am y bendithion yr ydym wedi eu derbyn ganddo fel treftadaeth. Ein tir a’n hanes, ein hiaith a’n llenyddiaeth, ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Y mae’n gyfle inni hefyd i gadarnhau ein hunaniaeth fel cenedl a’r hyn sy’n Continue reading
-
Gweddi 1
Yn y gyfres hon o erthyglau byddaf yn trafod gweddi. Mae gweddïo yn rhywbeth eithriadol o bwysig yn y ffydd Gristnogol. Hanfodol. Mae pob Cristion i weddïo yn gyson ond oherwydd nad oes gennym batrymau gweddi haearnaidd y mae perygl i ni fynd yn gwbl lac ac esgeulus. Mae’r Mwslemiaid yn gweddïo yn ddeddfol 5 Continue reading
-
Mr. Bates a’r Swyddfa Bost
Anaml iawn y byddai’n crio wrth wylio rhaglenni ar y teledu ond rhaid i mi gyfaddef bod gwylio drama ddogfen Mr. Bates v The Post Office wedi bod yn brofiad braidd yn emosiynol. Fwy nac unwaith yn ystod y pedair rhaglen a ddarlledwyd gan ITV roedd dagrau yn agos i’r wyneb. Rwy’n siŵr fod pawb Continue reading
-
Baban
Mae’r Nadolig yn ŵyl ryfedd o ran y gwrthgyferbyniadau sy’n perthyn iddi. Mae’n llawn o’r materol a’r ysbrydol, y tragwyddol a’r meidrol, goleuni a thywyllwch, rhialtwch bas a llawenydd dwfn. Yn y golygyddol hwn rwyf am ddilyn un edefyn ym mrodwaith goludog hanes geni ein Gwaredwr Iesu. Syfrdanol Yr hyn sy’n amlwg syfrdanol yn hanes Continue reading
-
Be Gythgam?
Rŵan, dwi’n gwneud yma yr union beth mae’r cwmni am i mi ei wneud sef cael myll am eu cynnyrch. Nid oes dim gwell gan rai na gwrthwynebiad i’r hyn y maent yn ei wneud. Mae’n tynnu sylw at eu cynnyrch ac efallai yn codi eu gwerthiant. Ond go brin y bydd pwt ar Sabothal Continue reading
-
12 Y Ddeuddegfed Wythnos 2 19 – 25 Tachwedd 2023
Fideos Blogiau a Llyfrau Cadw’r gwenith a chwalu’r us. Mae hon yn bregeth arbennig gan T. Keller ar gyfer tymor yr Adfent, lle mae’n esbonio hanes Iesu’n atgyfodi Lasarus a’r modd y gwelir dyndod a dwyfoldeb Iesu yn ei ymateb i’r hyn sy’n digwydd. “Dwy natur mewn un person yn anwahanol mwy.” A.G. Seiliedig ar Continue reading
-
Tranc Cristnogaeth?
Ers degawdau bellach rydym fel eglwysi Cristnogol yng Nghymru wedi wynebu argyfwng. Mae nifer y ffyddloniaid wedi lleihau yn frawychus a nawr rydym yn gweld nifer fawr o eglwysi yn dirwyn i ben ar ôl gwneud gwaith rhagorol am ddegawdau. Er bod elfen o dristwch a hiraeth ynghlwm wrth ddatgorffori eglwys ni ddylai’r aelodau sy’n Continue reading
-
Plannu Eglwysi Newydd –
Gwersi o’r gorffennol Llun gan Trent Erwin ar Unsplash Cychwynnodd y rhan fwyaf o eglwysi Ymneilltuol Cymru ar ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif mewn cartrefi, tyddynnod a ffermydd. Roedd hyn yn wir yn hanes pob un o’r traddodiadau Cristnogol. Afraid dweud ar ddechrau’r 19eg ganrif y cynhelid mwy o gyfarfodydd Cristnogol mewn tai nac Continue reading
