Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Gweddi 1

Yn y gyfres hon o erthyglau byddaf yn trafod gweddi. Mae gweddïo yn rhywbeth eithriadol o bwysig yn y ffydd Gristnogol. Hanfodol. Mae pob Cristion i weddïo yn gyson ond oherwydd nad oes gennym  batrymau gweddi haearnaidd y mae perygl i ni fynd yn gwbl lac ac esgeulus. Mae’r Mwslemiaid yn gweddïo yn ddeddfol 5 gwaith y dydd ar amserau penodol. Dyma’r enwau ar eu gweddïau dyddiol, Fajr (gwawr), Dhuhr (hanner dydd) Asr (pnawn) Maghrib (machlud) Isha (nos). Ond nid oes gennym ni fel Cristnogion amserau penodedig i weddïo a gall hyn fod yn anfantais fawr. Mae arferiad yn gallu bod yn beth da. Felly, mae’n bwysig ein bod fel Cristnogion yn meithrin disgyblaeth a phatrymau gweddi. Mae angen mwy o weddi yn ein plith gan fod yr Iesu yn cymryd yn ganiataol ein bod yn gweddïo yn gyson. 

Beth yw gweddi?

Yn syml gweddi yw siarad gyda Duw. Cynnal sgwrs gyda’r hollalluog.  Mae Duw wedi ein creu i fyw mewn perthynas gydag ef. Yn Genesis cawn y darlun fod Duw yn creu popeth ac yn rhoi pobl i fod yn gyfrifol dros y cwbl mewn cydweithrediad ag ef. Mae Adda ac Efa gyda Duw yn edrych ar ôl y cread ac y amlwg mae perthynas gariadus rhyngddynt. Dyma yw ein cyflwr naturiol. Y crewr a’r creaduriaid yn cyfathrebu mewn perthynas o gariad a diolchgarwch. Beth oedd testun y sgwrs? Ni allwn ond dychmygu. Ond yn y berthynas gyda Duw mae cyflawnder a hapusrwydd. Fel hyn mae pethau i fod. Yma, gyda Duw mae paradwys, tangnefedd, dedwyddwch a chyflawnder.  

Ond yna mae’r chwalfa yn dod trwy anufudd-dod. Dywed pobl nad ydynt am gadw’n ffyddlon i’w crëwr ac nid ydynt yn credu fod y berthynas gyda Duw yn ddigon i’w bodloni. A’r hyn sy’n digwydd yw bod y berthynas rhwng pobl a Duw a’r cyfeillgarwch yn cael ei chwalu a’r bendithion yn cael eu llygru. Aethant i gredu bod man gwyn man draw, heb Dduw. Onid dyna yw ein hanes bob amser.

Yr hyn mae Duw yn ei wneud yn Iesu yw adfer y berthynas. Dod a ni yn ôl trwy’r hyn wnaeth Iesu i berthynas ag ef. Mae Cristnogaeth yn eithriadol o syml ac mae gweddi yn arwydd fod ein perthynas gyda Duw wedi ei hadfer trwy Iesu.

Effaith Gweddi

Dyma rai pwyntiau am weddi

  1. Wrth weddïo rydym yn cydnabod bodolaeth a phresenoldeb Duw. Nid ydym yn gweddïo ar ddim nad ydym yn credu sy’n bodoli nac yn gwrando arnom. Felly, mae gweddi o bob math yn fynegiant o’n haddoliad o Dduw. Mae Ef yn haeddu ein canmoliaeth, ein hamser  a’n cariad.
  2. Wrth weddïo rydym hefyd yn ildio ein hunain iddo Ef a’i gydnabod yn Arglwydd. Deuwn yn ymwybodol o fawredd a phresenoldeb yr Arglwydd a rhoddwn ein bywydau yn ei ddwylo Ef. Cydnabyddwn mai ei eiddo Ef ydym. Ti sydd piau ni, dy eiddo di ydym.  E.e., Salm 100

3Cyffeswch mai’r ARGLWYDD sydd Dduw;

fe ydy’r un a’n gwnaeth ni,

a ni ydy ei bobl e –

y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.

Ac yn hyn fe brofwn ddiogewlch a sicrwydd. Duw bia fi, nid y byd, nid y tywyllwch, nid yr un drwg, ond Duw, mae o yn fy ngharu i, mae wedi fy mhrynu yn Iesu ac mae popeth yn iawn beth bynnag sydd yn digwydd.

  • Wrth weddïo rydym yn cael ein moldio i ewyllys Duw. Yn aml deuwn a’n rhestr weddi gerbron Duw. Gwna hyn llall ac arall Arglwydd ac fe fydd fy mywyd i yn well. Ond nid pwrpas gweddi yw ein bod ni yn rhoi cyngor i’r Duw perffaith a hollalluog beth ddylai ei wneud, ond yn hytrach ein bod ni yn caniatáu i Dduw ein newid fel ein bod yn plygu i’w ewyllys.

Mae gan Elfed Lewis frawddeg syml ond arwyddocaol iawn yn ei emyn ar weddi. CFf 717). Fe ddywed fod treulio munud yng nghwmni Duw yn newid gwerth y byd.

I dawel lwybrau gweddi,
O Arglwydd, arwain fi,
rhag imi gael fy nhwyllo
gan ddim daearol fri:
mae munud yn dy gwmni
yn newid gwerth y byd

yn agos iawn i’th feddwl
O cadw fi o hyd.

Mae gweddi yn ein newid ni ac yn newid ein hagwedd at y gymdeithas a’r bobl sydd o’n cwmpas gan ein bod yn treulio amser ym mhresenoldeb y cariad mwyaf. Ac yng ngwres y cariad fe gawn ein llenwi gan y cariad.

Her: Pob dydd rhowch 5 – 10 munud i weddïo ar yr Arglwydd. Cymerwch Salm, adnod neu emyn i feddwl amdano er mwy rhoi testun gweddi i chi. Os na allwch feddwl am ragor i’w ddweud, eisteddwch yn dawel gan fod yn ymwybodol o bresenoldeb Duw.