Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Gweddi 2

Beth mae’r Iesu yn dysgu am weddi?

Mae treulio amser gyda Duw mewn gweddi yn y lle cyntaf yn rhoi clod i Dduw ond mae hefyd yn llesol i ni yn ysbrydol ac yn feddyliol. Y mae gweddïo a datblygu ein harfer o weddïo’n gyson cystal â gwell na’r holl therapi a chyngor a gawn ynglŷn â iechyd meddwl. Y rheswm am hyn yw ein bod wedi ein creu i fyw mewn perthynas ddyddiol gyda Duw, y creadur gyda’r crëwr mewn cyfeillgarwch agos. Os nad ydym yn gwneud hynny ni fyddwn bydd yn canfod cyflawnder a phwy ydym go iawn.

Yn Exodus pennod 34 fe gawn un o’r hanesion am Moses.

9Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i’r ARGLWYDD siarad ag e. 30Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato. 31Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a’r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad ag e..

ruben-hutabarat-ZA1Wvos1WYM-unsplash

33Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, dyma fe’n rhoi gorchudd dros ei wyneb. 34Ond pan fyddai’n mynd i mewn i siarad â’r ARGLWYDD, byddai’n tynnu’r gorchudd i ffwrdd nes byddai’n dod allan eto. Wedyn byddai’n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn iddo, 35a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai’n rhoi’r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai’n mynd yn ôl i siarad â’r ARGLWYDD eto.”

Pan ddychwelai Moses wedi iddo fod ym mhresenoldeb yr Arglwydd roedd ei wyneb yn disgleirio. Gellid gweld ar ei wyneb ei fod wedi bod ym mhresenoldeb Duw. Mae gweddi yn gadael ei ôl arnom, ar ein meddwl, ar ein hysbryd, ar ein dealltwriaeth o’n ffydd ac o’r byd rydym yn byw ynddo.

Hoffwn eich herio. Beth am inni yn ystod yr wythnos hon roi 10 munud bob dydd i dreulio amser yng nghwmni Duw? Darllenwch adnod neu emyn i arwain eich meddwl. Gweddïwch. Siaradwch gyda Duw. Os ydych yn rhedeg allan o bethau i’w dweud arhosoch yn dawel ym mhresenoldeb yr Arglwydd tan ddiwedd y 10 munud. Rhoddaf her weddi arall y tro nesaf.

Beth mae’r Iesu yn ei ddweud am weddi? Dywed nifer o bethau. Dyma ddau ohonynt.

  1. Enw’r Iesu

Wrth i ni weddïo rydym i wneud hynny bob amser yn enw Iesu Grist. Pam hynny? Oherwydd Iesu yw’r ffordd i berthynas gyda Duw. Dywedodd fel hyn yn Ioan 15,

Nid chwi a’m dewisodd i, ond myfi a’ch dewisodd chwi, a’ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy’n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i. (Ioan 15:16. BCND)

Felly, yr unig ffordd y gallwn weddïo ar Dduw yw yn enw’r Iesu. Ni allwn ddod at Dduw a dweud, “Arglwydd rwy’n dod atat ti yn gofyn hyn a’r llall oherwydd dwi’n dipyn o foi a dwi’n meddwl fy mod haeddu i ti wrando arnaf. Dwi wedi gwneud hyn, llall ac arall a dwi’n credu fod arnat ti un neu ddau o bethau i mi. Felly gwranda ar fy ngweddi.”

Dywedodd Iesu stori am berson yn gwneud hynny yn Luc 18

9Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall: 10“Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a’r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain. 11Dyma’r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â’r bradwr yma! 12Dw i’n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i’r deml.’

13“Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo’i frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i’n bechadur ofnadwy.’

14“Dw i’n dweud wrthoch chi mai’r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a’i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu’r rhai gostyngedig.” (Luc 18:9-14)

Nid oes gen i unrhyw haeddiant ger bron Duw trwy fy ngallu na fy nuwioldeb fy hun. Rhaid pwyso ar ei ras rhyfeddol. Yr hyn sy’n ein gwahanu ni oddi wrth Dduw yw ein pechod, ein hanufudd-dod a’n hunanoldeb. A’r hwn sydd wedi delio gyda hyn ydy Iesu. Mae wedi dinistrio yr hyn sy’n ein gwahanu oddi wrth Dduw, trwy ei fywyd perffaith, ei farwolaeth a’i atgyfodiad, fel y gallwn ddod at yr Arglwydd yn hyderus. “Mae drws agored trwyddo Ef i mewn i’r nef i mi.” A dim ond yn enw’r Iesu y mae gennym haeddiant i ddod ger bron Duw y Tad mewn gweddi. (Gw. hefyd Ioan 14: 13, 14:14, 15:16)

2. Peidio bod fel y paganiaid

    Mae’r Iesu, hefyd, yn rhoi cyngor i’w ddisgyblion i beidio â gweddïo fel y paganiaid yn hir ac yn llawn rhwysg.

    5“A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy’n gwneud sioe o’u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna’r unig wobr gân nhw! 6Pan fyddi di’n gweddïo, dos i ystafell o’r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy’n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. 7A phan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae’r paganiaid yn gwneud. Maen nhw’n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. 8Peidiwch chi â bod fel yna. Mae’ch Tad chi’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair. (Luc 11:2-4) beibl.net

    “Mwydro ymlaen.” Ha, Ha! Mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn â gweddïau hirwyntog. Yn y gorffennol roedd arweinyddion Cristnogol yn cael eu canmol am godi am 4.00 yn y bore a gweddïo am ddwy neu dair awr. Ond wrth gwrs roedd hyn yn digwydd yn y dirgel. Prif ergyd Iesu oedd na ddylid gwneud perfformans o weddi gyhoeddus ac mai peth pwysig i’w ddilynwyr yw gweddïo yn gyson yn y dirgel. (Nid yw hyn wrth gwrs yn gwahardd gweddïo yn gyhoeddus.)

    Nid gweddïau rhwysgfawr cyhoeddus mae Duw yn ei geisio ond yn hytrach ein calon mewn gweddi ddirgel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweddïo yn gyson yn y dirgel. Gwnewch amser i hyn bob dydd. Ben bore, amser cinio gyda’r nos, ond gwnewch bwynt o weddïo pan mai dim ond chi a’r hollalluog sydd yn gwybod.

    Y tro nesaf byddwn yn dechrau edrych a’r Weddi’r Arglwydd fel canllaw gweddi.