Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Tranc Cristnogaeth?

Ers degawdau bellach rydym fel eglwysi Cristnogol yng Nghymru wedi wynebu argyfwng. Mae nifer y ffyddloniaid wedi lleihau yn frawychus a nawr rydym yn gweld nifer fawr o eglwysi yn dirwyn i ben ar ôl gwneud gwaith rhagorol am ddegawdau. Er bod elfen o dristwch a hiraeth ynghlwm wrth ddatgorffori eglwys ni ddylai’r aelodau sy’n weddill deimlo’n euog wrth gau pen y mwdwl oherwydd buont yn dystion triw i’r Arglwydd Iesu. Ac fe ddiolchwn ninnau iddynt am eu gwaith clodwiw.

Newid Aruthrol

Mae’n rhaid inni sylweddoli – yn enwedig fel cynulleidfaolwyr – mai am gyfnod yn aml iawn y mae Duw yn galw cynulleidfa unigol i dystio i’w chyfnod ac i’w hardal. Ar yr un pryd rydym yn ymwybodol ac yn hyderus y bydd Duw yn parhau gyda’i dystiolaeth trwy ei bobl yng Nghymru doed a ddelo. Beth bynnag yr argyfwng presennol y mae Duw wrth y llyw. Ond nawr rydym mewn cyfnod o newid aruthrol. Yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn foesol, yn wleidyddol ac yn dechnolegol y mae’n ferw gwyllt o’n cwmpas ac yr ydym ninnau yn gorfod addasu fel Cristnogion i ganfas byd sy’n newid yn eithriadol o gyflym. Ar un llaw mae’n gyfnod digalon ac ar y llaw arall mae’n gyfnod cyffrous ac anturus wrth ystyried, beth yw’r bennod nesaf y mae Duw yn ei baratoi ar ein cyfer fel Cristnogion yma yng Nghymru. Rhaid hefyd cofio fod y ffydd Gristnogol heddiw yn tyfu yn aruthrol yn y byd yn gyffredinol yn enwedig yn Tseina a chyfandir Affrica.

Cymdeithasol

Y mae rhai rhesymau cymdeithasol amlwg pam fod eglwysi yn dirwyn i ben, fel symudiad poblogaeth, newidiadau cymdeithasol e.e., maint teuluoedd yn llawer llai, trai ar yr iaith Gymraeg a ffactorau economaidd fel diffyg gwaith neu gau gweithfeydd. Ond credaf fod un peth eithriadol o bwysig y dylem fynd i’r afael ag ef sef bod cyn lleied o bobl newydd yn dod i ffydd yn yr Arglwydd Iesu. Bu amser pan oedd plant aelodau eglwys yn fodd i gynnal yr achos i’r dyfodol. Daeth y dyddiau hynny i ben ac nid oes cenhedlaeth newydd yn tyfu i fyny o fewn i’r mwyafrif o eglwysi. Beth bynnag, cam gwag oedd y syniad hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd nid traddodiad yw Cristnogaeth, fel canu cerdd dant, ond ffydd ac argyhoeddiad yn Iesu.

Dod i ffydd

Argyfwng ysbrydol yw ein hargyfwng ni yn waelodol, nid argyfwng ieithyddol, cymdeithasol, poblogaethol nac economaidd. Yn y bôn nid ffurf ein haddoliad, ein ffordd o siarad, ein geirfa, ein hadeiladau yw’r broblem fwyaf. Ein gwendid mawr yw nad ydym yn ymestyn allan yn effeithiol gyda’r newyddion da mewn oes anghrediniol sy’n rhoi’r un botwm corn am Iesu Grist. Erbyn hyn ychydig ar y naw sy’n dod i argyhoeddiad fod Iesu Grist yn Arglwydd ac yn Waredwr ar eu bywydau. Heb yr argyhoeddiad hwn nid yw pobl yn gweld angen i fod yn rhan o eglwys Iesu, i dyfu a dysgu am air Duw, i brifio yn ysbrydol heb sôn am wasanaethu’r Arglwydd trwy ei eglwys ac ymroi i fod yn rhan o deulu Duw. Oherwydd hyn y mae prinder arweinyddion a gweithwyr ymroddedig.

Enghreifftiau

Mae’r Beibl yn llawn hanesion am Dduw yn galw pobl i ffydd ac i’w wasanaethu, e.e, Abram, Moses, Elias, Jeremeia, Eseia a.y.b. Dyma dair enghraifft o’r Testament Newydd. 1. Dywedodd Iesu wrth Pedr ac Andres, “”Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” (Mat 4:19) 2. Dywedodd Iesu wrth Martha, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu hyn?” (Io. 11:25-26). 3. Meddai Iesu yn y Comisiwn, “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser.” (Mat 28:19-20)

Gwneud Disgyblion

Felly, rhaid dod i’r casgliad mai rhan hanfodol o’n gwaith bob amser yw cyflwyno’r newyddion da am Iesu mewn ffordd sy’n annog pobl i gredu ynddo fel Arglwydd a Gwaredwr a’u gwneud yn ddisgyblion. Wrth gwrs, yr Ysbryd Glân sy’n dod a phobl i ffydd ond mae cyfrifoldeb arnom ni i fod yn enillgar a gwneud disgyblion. Dyma’r comisiwn.

Ond beth yw’r weledigaeth sydd gennym yn hyn o beth? Sut ydym ni yn annog ein gilydd i gyflawni’r elfen hanfodol hon o’n gwaith? Ble mae’r cyrddau gweddi? Ble mae’r llenyddiaeth? Ble mae’r seminarau a’r gweithdai? Pa weithgareddau sydd gennym yn benodol i ennill pobl newydd o’r byd? Nid ffeirio aelodau o eglwysi eraill, ond ein bod yn hwyluso taith ysbrydol pobl o anghrediniaeth i ffydd. Sut ydym ni yn 2023 yn cyflwyno newyddion da Iesu mewn cymdeithas anghenus a digyfeiriad, lle mae dylanwad seciwlariaeth mor ddylanwadol ar y boblogaeth ac yn arwain at golledigaeth?

Mae angen datblygu’r drafodaeth hon ymhellach yn ein plith a gweithredu ar fyrder.