Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Mr. Bates a’r Swyddfa Bost

Anaml iawn y byddai’n crio wrth wylio rhaglenni ar y teledu ond rhaid i mi gyfaddef bod gwylio drama ddogfen Mr. Bates v The Post Office wedi bod yn brofiad braidd yn emosiynol. Fwy nac unwaith yn ystod y pedair rhaglen a ddarlledwyd gan ITV roedd dagrau yn agos i’r wyneb.

Rwy’n siŵr fod pawb ohonoch, erbyn hyn, yn gwybod y cefndir i’r gyfres hon sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.  Hanes ydyw am nifer o is-bostfeistri yn cael eu cyhuddo ar gam o dwyll ariannol. Roeddent yn gyfan gwbl ddiniwed ond fe erlynodd y Swyddfa Bost hwy yn llym fel eu bod wedi colli eu henw da, eu gyrfa, eu tai a’u cynilion. Carcharwyd rhai a bu i eraill ohonynt gyflawni hunanladdiad. Yr hyn a ddigwyddodd oedd eu bod yn defnyddio rhaglen gyfrifiadurol ddiffygiol o’r enw Horizons. Ar derfyn dydd/ wythnos roeddent yn tafoli eu cyfrifon ariannol gan osod y manylion yn y system gyfrifiadurol. Ond dro ar ôl tro roedd y system yn dweud wrthynt eu bod mewn dyled ac roedd y ddyled honno yn cynyddu’n raddol i fod yn filoedd ar filoedd o bunnoedd. Roeddent yn ffonio llinell gymorth Horizons ac roedd yr ymgynghorwyr yn dweud wrth bob unigolyn a gysylltai, “Rhyfedd, chi yw’r unig un sy’n cael y broblem hon.” A oedd wrth gwrs yn gelwydd noeth gan ein bod yn dod i wybod yn ystod y gyfres fod cannoedd o is-bostfeistri yn yr un cwch. Fe gymerodd uwch-swyddogion y Swyddfa Bost yn  ganiataol fod yr is-bostfeistri hyn i gyd yn euog o ddwyn arian. Nid oeddent yn fodlon ystyried am eiliad y gallai system gyfrifiadurol fod yn wallus neu fod gweithwyr cyfrifiadurol yn newid symiau ariannol yn ddiarwybod i eraill. Hefyd, roedd cymal ym mhrint mân eu cytundebau yn dweud mai’r postfeistri yn bersonol oedd yn gyfrifol am dalu unrhyw golled a wnaed ganddynt. Wedi iddo gael llond bol, fe ddechreuodd Alan Bates a fu’n bostfeistr yn Llandudno ar ymgyrch i geisio cyfiawnder a dyma mewn gwirionedd yw sail y gyfres. Ymgyrch sydd yn parhau hyd heddiw.

Dioddefaint y diniwed

Un rheswm pam bod y ddrama ddogfen hon mor bwerus yw’r elfen o ddioddefaint y diniwed. Gwelwn bobl gyffredin yn byw eu bywydau gan geisio cadw dau ben llinyn yng nghyd. Nid oeddent yn twyllo, ond eto roedd y sefydliad yr oeddent yn rhan ohono a’r bobl oedd yn rhedeg y Swyddfa Post yn troi clust fyddar i’w cwynion. Roeddent yn gaeth i’r system ac yn analluog i newid y sefyllfa.  Fe’u cosbwyd ar gam a hwythau yn gwbl ddiniwed. Mae hyn yn digwydd ar hyd a lled y byd mewn cyd-destynnau amrywiol. Yn rhyfeloedd Israel-Palesteina, Rwsia – Wcrain y diniwed sy’n dioddef. Yn y sefyllfaoedd trist sydd wedi datblygu yn Yemen, Swdan ac Affganistan mae’r diniwed yn dioddef, nid oherwydd unrhyw ddrwg y maent wedi ei gyflawni ond oherwydd agwedd y rhai sydd mewn awdurdod a grym. Dim rhyfedd fod y proffwyd Amos wedi taranu yn erbyn anfoes arweinyddion Israel yn erbyn y tlawd a’r diniwed gan ddweud,

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Israel, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt werthu’r cyfiawn am arian a’r anghenog am bâr o sandalau; am eu bod yn sathru pen y tlawd i’r llwch ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig; (Amos 2:6-7)

Cyfrifoldeb cymdeithas wâr ym mhob oes yw amddiffyn y diniwed a’r dieuog fel nad ydynt yn cael eu cyhuddo ar gam a’u cam-drin ond yn gallu byw eu bywydau gydag adnoddau digonol ac mewn heddwch.

Sefydliadau Mawr    

Yr ail beth am trawodd wrth wylio’r gyfres oedd yr angen i fod ar ein gwyliadwriaeth rhag sefydliadau mawr, cyfoethog a phwerus. Y mae’n rhwydd i sefydliadau grymus i droi yn llwgr gan edrych ar ôl eu buddiannau hwy eu hunain a hynny ar draul hawliau sefydliadau llai ac yn enwedig unigolion di-rym. Gallant golli golwg yn rhwydd ar beth sy’n deg, onest a chywir gan fynd i gredu mai nod amgen eu bodolaeth yw peri llwyddiant ac elw i’w sefydliad. Gwelwn hyn yn digwydd mewn cymaint o feysydd erbyn hyn. Yn y cylchoedd gwleidyddol, yn y byd economaidd, mewn sefydliadau crefyddol yn cynnwys rhai Cristnogol. Ac mewn cyfnod lle mae cymaint o sefydliadau a chwmnïau enfawr a byd eang yn datblygu byddwn yn sicr yn gweld llawer mwy o hyn.

Pan welwn y diniwed yn cael eu sathru gan y grymus a’u lleisiau’n cael eu hanwybyddu, ein cyfrifoldeb ni fel Cristnogion yw sefyll o’u plaid gan ddadlau eu hachos.