Erthgyl
-
Y Brenin Cyfiawn
Vladimir Putin, Aiatola Ali Kamheini, Benjamin Netanyahu, Donald Trump a’u tebyg. Mae’n peri gofid a dychryn i’r mwyafrif ohonom wrth weld dynion annoeth a hunandybus yn arwain gwledydd y byd. Ac wrth inni fod yn dystion i’r hyn sy’n digwydd sylweddolwn eto ei bod gyfnod peryglus i ddynoliaeth. A meddwl yn benodol am Putin a… Continue reading
-
Cyfathrebu
Fe fu Vikki a finnau am ychydig ddyddiau ar ddiwedd mis Awst yn ninas fawr Llundain. Byddwn yn hoff o fynd yno oherwydd yr amrywiaeth gweithgareddau a golygfeydd. Mae pethau newydd i’w gweld ar bob tro. Ymhlith pethau eraill buom, yn addoli yn Castle Street, edrych ar adeiladau mawreddog y ddinas o do 120 Fenchurch… Continue reading
-
Megis Dŵr
Tros yr haf fe gefais gyfle i ddarllen nifer o gyfrolau amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd rhai ohonynt yn ysgafn ac eraill yn ffeithiol. Dyma roi syniad i chi o rai o’r llyfrau ddarllenais. The Church Jesus Prayed For gan Michael Cassidy; Billy Summer gan Stephen King; Gras, Gobaith a Gogoniant gan D.… Continue reading
-
Chwalfa
Golygyddol Y Tyst Cyfrol 158 Rhif 30 Gorffennaf 24, 202550c. Mae pawb ohonom sydd wedi bod yn rhan o’r bywyd Cristnogol Cymraeg yn ystod y 50 mlynedd diwethaf yn dystion i newid enfawr. Bellach mae’r hyn sy’n digwydd yn ein plith yn chwalfa. Aethom o fod yn niferus, llwyddiannus a dylanwadol i fod yn griw… Continue reading
-
Hiliaeth
Golygyddol yn Y Tyst – (Cyfrol 158 Rhif 25 Mehefin 19, 2025) Yr wythnos hon y mae terfysgoedd hiliol yn Ballymena, Sir Antrim, Gogledd Iwerddon. Ymosodwyd ar dai lle mae mewnfudwyr yn byw, taflwyd cerrig a bomiau petrol; llosgwyd rhai o’r tai yn ulw; y mae hyd at 32 o heddweision wedi eu hanafu a… Continue reading
-
Dr.Abraham Rees, 1743 – 25
Dilyn Llinyn Yn ddiweddar darllenais eto “Cofiant y Parch. Lewis Rees 1710 – 1800), gan J. Roberts (Llanbrynmair), gyda chwanegiadau gan John Davies,” (Abertawe, E. Griffiths, 1852). Bu’r gwron hwn yn weinidog ar achos yr Annibynwyr yn Llanbrynmair a Mynyddbach, Abertawe. Roedd yn efengylydd mentrus a sefydlodd nifer o achosion yn ystod ei weinidogaeth yn… Continue reading
-
Gwneuthurwyr Heddwch
Teimladau cymysg sydd gen i am Sul y Cofio. Ar un llaw rwy’n sylweddoli yr angen i deuluoedd alaru a chofio am anwyliaid fu farw mewn rhyfeloedd ar hyd a lled y byd a sylweddoli’r aberth a wnaed ganddynt. Ymunaf gyda hwy yn eu colled a’u hiraeth. Ond ar y llaw arall rwy’n anghyffyrddus gyda’r… Continue reading
-
Chwyldro Digidol
Yn hanes dynoliaeth y mae nifer o chwyldroadau byd-eang wedi digwydd. Datblygiad amaethyddiaeth a’r ddawn i gynhyrchu cnydau, yr aroleuo a hefyd y chwyldro diwydiannol, dyfodiad y trên, trydan ac awyrennau . Ond yn ddiweddar rydym ni fel cenhedlaeth wedi bod yn dystion i chwyldro arall sef y Chwyldro Cyfrifiadurol neu ddigidol. Pa gyfeiriad? Un… Continue reading
-
Terfysgoedd
Y mae’r terfysgoedd sydd wedi digwydd mewn trefi a dinasoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ddiweddar wedi bod yn destun braw i bawb ohonom. Ar y newyddion dyddiol ac ar fideos ar y cyfryngau cymdeithasol fe welwyd pobl – dynion gwyn gan fwyaf – yn ymddwyn yn gwbl anwaraidd tuag at eraill ac yn… Continue reading
-
Trosglwyddo’r Fantell
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod yn darllen cofiannau gweinidogion oedd yn byw oddeutu 1800 – 1840. Cyfnod yn ein hanes oedd rhwng cyffro’r Diwygiad Methodistaidd a thyfiant mawr Cristnogaeth yng Nghymru ac “oes aur” Ymneilltuaeth yn ystod oes Fictoria. Hyd yn hyn rwyf wedi darllen cofiannau, Lewis Rees, (1710 – 1800) William… Continue reading
