Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Gŵyl Ddewi

Mae Gŵyl Ddewi yn gyfle inni gofio’r pethau gorau sy’n perthyn inni fel cenedl, gan ddiolch i Dduw am y bendithion yr ydym wedi eu derbyn ganddo fel treftadaeth. Ein tir a’n hanes, ein hiaith a’n llenyddiaeth, ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Y mae’n gyfle inni hefyd i gadarnhau ein hunaniaeth fel cenedl a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw. Ond rhaid gwneud hynny yn ddoeth ac yn ystyriol ac nid yn hunangyfiawn a ffroenuchel gan fynd i feddwl ein bod ni yn rhagorach na chenhedloedd eraill. Fel y gwelwn yn y byd heddiw, gall cenedlaetholdeb cul hunandybus arwain at wrthdaro a rhyfel, felly, mae’n bwysig gweld ein hunain fel rhan o batrwm ehangach gan hybu cydweithrediad a pharch tuag at bob cenedl. Un genedl fechan ydym ni ym mrodwaith lliwgar cenhedloedd y byd. 

Ac fel Cristnogion Cymraeg rydym yn dathlu a diolch yn arbennig am ein treftadaeth Gristnogol y gallwn ei olrhain yn ôl dros y canrifoedd o ddyddiau Dewi hyd yn awr.  A thrwy’r cyfnod hwnnw bu’r dystiolaeth Gristnogol yn ddi-dor a’i dylanwad yn fawr ar ein cenedl. Mae’r naill genhedlaeth ar ôl y llall wedi trosglwyddo mantell y ffydd ac y mae’r Arglwydd wedi bendithio’r dystiolaeth honno. A ninnau heddiw sydd yn gwisgo’r fantell honno.

Daeth llanw a daeth trai dros y canrifoedd ond parhau yr ydym i rannu’r newyddion da. Byw mewn cyfnod o drai ysbrydol rydym ni heddiw ond yr un yw ein braint fel Cristnogion, fel erioed, i fyw a chyhoeddi’r Efengyl ymhlith ein cyd Gymry. Y gymwynas fwyaf un y gallwn ni ei wneud gyda’n cenedl yw rhannu Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr gan eu hannog i gredu ynddo a gwneud disgyblion.

CYMRU
Fy ing enfawr, fy ngwynfyd, – fy mhryder,
     Fy mharadwys hyfryd;
     Ei charu’r wyf yn chwerw hefyd,
   A’i chasáu’n serchus o hyd.

                                       Alan Llwyd

“O deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwiw.”

Gweddïwn, gweithiwn ac ymdrechwn i weld y dydd hwnnw.