Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


  • Dyfyniadau

    Perthnasol Yr Ysbryd Glân sy’n gwneud Iesu Grist yn berthnasol. Crea gyswllt rhwng dynion ac Iesu Grist. R Tudur Jones  Yr Arglwydd Iesu Yr Arglwydd Iesu yn marw i brynu. Yr Arglwydd Iesu yn prynu i buro. Yr Arglwydd Iesu yn puro i gadw. Yr Arglwydd Iesu yn cadw i ddefnyddio. (Pennau un o bregethau… Continue reading

  • Bore Gore Rioed

    Dyma gân recordiais i ychydig o flynyddoedd yn ôl yn dathlu’r bore gorau erioed. Bore yr atgyfodiad wrth gwrs. Mae Iesu Grist yn fyw heddiw. Cymysgwyd y traciau ar gyfer clustffonau. Dyma’r un gân wedi ei gosod ar Youtube. Continue reading

  • Yr Atgyfodiad Mawr

    Ar ddydd Gwener y Groglith y mae’n sicr bod nifer ohonom wedi bod mewn gorymdaith gyda chyd-Gristnogion o amgylch eglwysi lleol neu i leoliad priodol. Ar y gorymdeithiau hynny rydym yn canolbwyntio ar farwolaeth aberthol yr Iesu trosom ar groes Calfaria. Yna, ar ddydd Sul y Pasg byddwn yn dathlu atgyfodiad bendigedig yr Arglwydd a’i… Continue reading

  • Pedr yn gwadu Iesu

    Nos Iau Cablyd Ioan 18: 15 – 27 Mae’r darlleniad wnaed o Efengyl Ioan yn adrodd hanes Pedr yn gwadu Iesu Grist dair gwaith. Wrth gwrs roedd Iesu wedi darogan y byddai hynny’n digwydd cyn i’r ceiliog ganu. Beth allwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn? Fel arfer canolbwyntiwn ar y ffaith fod Pedr yn… Continue reading

  • Gweddi 2

    Beth mae’r Iesu yn dysgu am weddi? Mae treulio amser gyda Duw mewn gweddi yn y lle cyntaf yn rhoi clod i Dduw ond mae hefyd yn llesol i ni yn ysbrydol ac yn feddyliol. Y mae gweddïo a datblygu ein harfer o weddïo’n gyson cystal â gwell na’r holl therapi a chyngor a gawn… Continue reading

  • Gŵyl Ddewi

    Mae Gŵyl Ddewi yn gyfle inni gofio’r pethau gorau sy’n perthyn inni fel cenedl, gan ddiolch i Dduw am y bendithion yr ydym wedi eu derbyn ganddo fel treftadaeth. Ein tir a’n hanes, ein hiaith a’n llenyddiaeth, ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Y mae’n gyfle inni hefyd i gadarnhau ein hunaniaeth fel cenedl a’r hyn sy’n… Continue reading

  • Gweddi 1

    Yn y gyfres hon o erthyglau byddaf yn trafod gweddi. Mae gweddïo yn rhywbeth eithriadol o bwysig yn y ffydd Gristnogol. Hanfodol. Mae pob Cristion i weddïo yn gyson ond oherwydd nad oes gennym  batrymau gweddi haearnaidd y mae perygl i ni fynd yn gwbl lac ac esgeulus. Mae’r Mwslemiaid yn gweddïo yn ddeddfol 5… Continue reading

  • Mr. Bates a’r Swyddfa Bost

    Anaml iawn y byddai’n crio wrth wylio rhaglenni ar y teledu ond rhaid i mi gyfaddef bod gwylio drama ddogfen Mr. Bates v The Post Office wedi bod yn brofiad braidd yn emosiynol. Fwy nac unwaith yn ystod y pedair rhaglen a ddarlledwyd gan ITV roedd dagrau yn agos i’r wyneb. Rwy’n siŵr fod pawb… Continue reading

  • Baban

    Mae’r Nadolig yn ŵyl ryfedd o ran y gwrthgyferbyniadau sy’n perthyn iddi.  Mae’n llawn o’r materol a’r ysbrydol,  y tragwyddol a’r meidrol, goleuni a thywyllwch,   rhialtwch bas a llawenydd dwfn.  Yn y golygyddol hwn rwyf am ddilyn un edefyn ym mrodwaith goludog hanes geni ein Gwaredwr Iesu. Syfrdanol Yr hyn sy’n amlwg syfrdanol yn hanes… Continue reading

  • Y Brenin Herod

    Efengyl Mathew, yn unig sy’n cyfeirio at yr hanes hwn. Daeth brenhinoedd o’r dwyrain i chwilio am frenin newydd. Wrth ddilyn seren aethant i balas Brenin Jwda, sef Herod a’i holi, “Ble mae brenin yr Iddewon?” Tipyn o “faux pas”, d’oes bosib! Dychmygwch y sefyllfa.  Ant i balas brenin – yr un sydd ar yr… Continue reading

  • Llyfrau, Fideos a blogiau

    Mae’r Nadolig yn agosáu. Dyma i chi ddwy gyfrol sy’n rhoi’r cefndir i garolau. Rhain yn edrych yn ddifyr. Deuthum ar eu traws wrth glirio’r stydi. Fideos Ychydig flynyddoedd yn ôl rhoddais dro ar gyfansoddi carol Plygain, dyma oedd y canlyniad Ond mae hon yn hyfryd wrth feddwl am yr ymgnawdoliad Neu beth am hon?… Continue reading