Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


  • Mr. Bates a’r Swyddfa Bost

    Anaml iawn y byddai’n crio wrth wylio rhaglenni ar y teledu ond rhaid i mi gyfaddef bod gwylio drama ddogfen Mr. Bates v The Post Office wedi bod yn brofiad braidd yn emosiynol. Fwy nac unwaith yn ystod y pedair rhaglen a ddarlledwyd gan ITV roedd dagrau yn agos i’r wyneb. Rwy’n siŵr fod pawb… Continue reading

  • Baban

    Mae’r Nadolig yn ŵyl ryfedd o ran y gwrthgyferbyniadau sy’n perthyn iddi.  Mae’n llawn o’r materol a’r ysbrydol,  y tragwyddol a’r meidrol, goleuni a thywyllwch,   rhialtwch bas a llawenydd dwfn.  Yn y golygyddol hwn rwyf am ddilyn un edefyn ym mrodwaith goludog hanes geni ein Gwaredwr Iesu. Syfrdanol Yr hyn sy’n amlwg syfrdanol yn hanes… Continue reading

  • Y Brenin Herod

    Efengyl Mathew, yn unig sy’n cyfeirio at yr hanes hwn. Daeth brenhinoedd o’r dwyrain i chwilio am frenin newydd. Wrth ddilyn seren aethant i balas Brenin Jwda, sef Herod a’i holi, “Ble mae brenin yr Iddewon?” Tipyn o “faux pas”, d’oes bosib! Dychmygwch y sefyllfa.  Ant i balas brenin – yr un sydd ar yr… Continue reading

  • Llyfrau, Fideos a blogiau

    Mae’r Nadolig yn agosáu. Dyma i chi ddwy gyfrol sy’n rhoi’r cefndir i garolau. Rhain yn edrych yn ddifyr. Deuthum ar eu traws wrth glirio’r stydi. Fideos Ychydig flynyddoedd yn ôl rhoddais dro ar gyfansoddi carol Plygain, dyma oedd y canlyniad Ond mae hon yn hyfryd wrth feddwl am yr ymgnawdoliad Neu beth am hon?… Continue reading

  • Be Gythgam?

    Rŵan, dwi’n gwneud yma yr union beth mae’r cwmni am i mi ei wneud sef cael myll am eu cynnyrch. Nid oes dim gwell gan rai na gwrthwynebiad i’r hyn y maent yn ei wneud. Mae’n tynnu sylw at eu cynnyrch ac efallai yn codi eu gwerthiant. Ond go brin y bydd pwt ar Sabothal… Continue reading

  • Wele Cawsom y Meseia

    Wele cawsom y Meseia……. meddai Dafydd Jones o Gaeo (1711-77) yn ei garol boblogaidd.  Ond beth yw tarddiad y gair Meseia? Meshiach yw’r ynganiad Hebraeg a chyfieithiad ohono i’r Groeg yw Christos – Crist. Felly, ystyr Iesu Grist yw Iesu’r Meseia. Mor aml mae pobl yn credu mai cyfenw Iesu yw Crist, Mr. Crist! Ystyr… Continue reading

  • Ar y dydd hwn – Rhagfyr

    Bu farw John Wyclif c.1330–1384, seren fore’r Diwygiad Protestannaidd ym mis Rhagfyr 1384. 2 Bu farw Michael Daniel Jones 1822–98, gweinidog (A), pregethwr, Prifathro Coleg Annibynnol y Bala, ac un o ysgogwyr y Wladfa ym Mhatagonia a chladdwyd ei weddillion ym mynwent yr Hen Gapel, Llanuwchllyn. Michael D. Jones. Llun:Wicipedia 2 Ganwyd Mary Mitchell Slessor… Continue reading

  • 12 Y Ddeuddegfed Wythnos 2 19 – 25 Tachwedd 2023

    Fideos Blogiau a Llyfrau Cadw’r gwenith a chwalu’r us. Mae hon yn bregeth arbennig gan T. Keller ar gyfer tymor yr Adfent, lle mae’n esbonio hanes Iesu’n atgyfodi Lasarus a’r modd y gwelir dyndod a dwyfoldeb Iesu yn ei ymateb i’r hyn sy’n digwydd. “Dwy natur mewn un person yn anwahanol mwy.” A.G. Seiliedig ar… Continue reading

  • 12 Y Ddeuddegfed Wythnos 1 19 – 25 Tachwedd

    Os wyt am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma  gelli wneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Hefyd gelli adael sylwadau cyhoeddus ar ddiwedd pob erthygl. Gelli hefyd gael hysbys awtomatig o bob diweddariad ar Sabothal.blog trwy wasgu’r botwm cofrestru ar yr hafan a rhoi dy e-bost. Hon Yw’r Olaf,… Continue reading

  • Meri go rownd

    Pan yn blentyn roeddwn yn arfer mynd i gae chwarae Craig y Don, ym Mangor Uchaf ac ar y meri go rownd. Un o brif ddifyrion rhai o’r bechgyn hŷn oedd rhoi plant bychan arno ac yna ei droi mor gyflym â phosibl. Wrth iddynt wneud hynny’n gynt ac yn gynt roedd y plant druan… Continue reading