Vladimir Putin, Aiatola Ali Kamheini, Benjamin Netanyahu, Donald Trump a’u tebyg.
Mae’n peri gofid a dychryn i’r mwyafrif ohonom wrth weld dynion annoeth a hunandybus yn arwain gwledydd y byd. Ac wrth inni fod yn dystion i’r hyn sy’n digwydd sylweddolwn eto ei bod gyfnod peryglus i ddynoliaeth. A meddwl yn benodol am Putin a Trump, maent hwy yn honni bod yn Gristnogion. Gwelwyd y ddau ohonynt mewn gwasanaethau Nadolig. Putin mewn oedfa yn yr eglwys Uniongred Rwsiaidd yn canmol milwyr y famwlad oherwydd eu bod yn gwneud gwaith teyrnas Dduw yn ymladd yn Wcráin. A mynychodd Trump oedfa noswyl Nadolig yng Nghadeirlan Washington. Ac mae’r cysylltiad rhwng yr arweinyddion hyn a Christnogaeth yn peri anesmwythyd mawr i mi gan nad yw eu hymarweddiad yn adlewyrchu ffydd yn Iesu. Dywed y Beibl yn glir am bawb sy’n honni bod yn Gristnogion,
“Gochelwch rhag gau-broffwydi, sy’n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o’u mewn yn fleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. Ai oddi ar ddrain y mae casglu grawnwin neu oddi ar ysgall ffigys? Felly y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da, a choeden wael yn dwyn ffrwyth drwg. Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da. Y m mae pob coeden nad yw’n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i bwrw i’r tân. Felly, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. (Mat 7:15-20 a Galatiaid 5:22)

Congrinero
A dyna Trump yn ymddwyn fel unben ansefydlog yn herwgipio arlywydd Venezuela ac yn dweud ei fod yn cymryd drosodd llywodraeth y wlad, cefnnogi ymddygiad eithafol ac annynol llywodraeth Israel ac yna ymosod ar Iran. Ar ben hynny mae wedi creu llu o’r enw ICE sy’n ymddwyn yn annosbarthus wrth chwilio am fewnfudwyr er mwyn eu carcharu a’u hestraddodi. Yna, daeth fel congrinero o’r gorllewin i Ewrop gan ddweud ei fod am feddiannu’r Ynys Las gan greu tyndra ac ansefydlogrwydd gwleidyddol. Mae arweinyddion fel hyn yn eithriadol o beryglus ac mae angen eu dwyn ei gyfrif am eu gweithredoedd ysgeler heb sôn am yr adroddiadau yn y newyddion am dwyll ac anniweirdeb.
Gall grym a chyfoeth fod yn bethau difäol ac o’u gamddefnyddio gallant arwain at anghyfraith, anfoes ac anghyfiawnder o du arweinyddion a ddylent wybod yn well. Ac wrth gwrs mae gan Trump ei gefnogwyr Cristnogol asgell dde eithafol sy’n cowtowio i’w awdurdod gan ganiatáu iddo wneud unrhyw beth a fyn mewn gwirionedd. Maent yn ddall i’r ffrwythau drwg sydd i’w gweld yn glir. Daw yr un math o afledneisrwydd hunandybus yn hanes y cyfoethogion a’r breintiedig fu’n ymhel ac Epstein. Y mae’r bobl hyn rhyw ddydd – fel pawb ohonom – yn mynd i sefyll ger bron yr Arglwydd gan roi cyfrif am y ffordd y maent wedi ymddwyn yn ystod eu bywydau.
Dyma pam ei bod yn angenrheidiol i ni fel Cristnogion i sefyll dros gyfiawnder a gwirionedd gan wrthwynebu grymusterau sy’n tanseilio egwyddorion Teyrnas Dduw.

Y Brenin Cyfiawn
Trannoeth i Trump herwgipio Nicolas Maduro fe ddarllenais Salm 72 sy’n rhoi disgrifiad prydferth o Frenin. Rhydd y Salm hon syniad inni o’r modd y dylai gwladweinydd ymddwyn. Gweddi dros frenin Israel yw hon, o bosib, wrth iddo gael ei goroni. Ynddi gofynnir i Dduw roi iddo’r doethineb i lywodraethu’n gyfiawn. Mae pedwar prif bwyslais sef 1. Mae’r Brenin i fod yn gyfiawn ac i farnu’n deg. 2. Mae’r Brenin i amddiffyn y tlawd a’r gwan. 3. Mae’r Brenin yn heddychlon a chyda teyrnas eang. 4. Mae’r Brenin o dan fendith Duw ac mae ganddo deyrnasiad tragwyddol.
Mewn gwirionedd proffwydoliaeth anuniongyrchol yw Salm 72 am Iesu’r Brenin a’i Deyrnas ac y mae ef yn esiampl godidog i wleidyddion, Arlwyddion, Prif Weinidogion a ninnau ei ganlyn a’i efelychu.
“Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.
