Nid yn aml y byddaf yn darllen llyfrau am yr economi a gwleidyddiaeth, ond dros y Nadolig diwethaf fe wnethum hynny. Roeddwn yn siop lyfrau fawreddog Heffers yng Nghaergrawnt ac mewn pentwr wrth y drws gwelais gyfrol yn dwyn y teitl, The Invisible Doctrine, gan George Monbiot a Peter Hutchinson. Wedi darllen y broliant a gyfeiriai at “the secret of Neoliberalism and how it came to control your life,” penderfynais ei phrynu. Roedd ei darllen yn agoriad llygaid i mi ac yn taflu goleuni newydd ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd ac o fewn i’r gymdeithas gyfoes. Er na ellir llyncu’r cwbl gyflwynir yn y llyfr hwn eto fe gyflwynir byd-olwg sy’n bwysig inni ei ystyried fel Cristnogion wrth feddwl am yr hyn sy’n digwydd yn y UDA, Rwsia, Y Dwyrain Canol ac yma yng ngwledydd Prydain.

Yn y gyfrol mae’r awduron yn cyflwyno dadansoddiad o’r ffordd y mae neoryddfrydiaeth (y rhyddfrydiaeth newydd) wedi hydreiddio i’n bywydau heb i’r rhan fwyaf ohonom sylwi. Nid llyfr economaidd traddodiadol yw hwn; yn hytrach, mae’n archwiliad o ideoleg sydd i raddau helaeth yn gudd ond eto sy’n llunio cyfeiriad yr economi, polisïau a phenderfyniadau gwleiddyddol a disgwyliadau cymdeithasol mewn modd sy’n ymddangos yn dderbyniol a naturiol.
Gwreiddiau Neoryddfrydiaeth
Un o gryfderau’r llyfr yw’r modd y mae’n olrhain tarddiad hanesyddol neoryddfrydiaeth (neoliberalism) ac yn dangos sut y llwyddodd grŵp bychan o feddylwyr i ddylanwadu ar lywodraethau ledled y byd. Cychwynnodd y ffurf fodern o’r syniadaeth hwn ym 1938 o dan arweiniad Ludwig von Mises a Friedrich Hayek a’u magna opus, Bureaucracy a The Road to Serfdom. Yn syml, y mae eu heidioloeg yn caniatau i gyfoethogion elwa’n anfoesol gan fod yn rhydd o drethi gwladol a chyfreithiau gwladwriaethol. Gall pobl a chwmnïau llwyddiannus wneud yr hyn a fynnant er mwyn gwneud rhagor o elw. O ganlyniad rheibiant y greadigaeth o’i hadnoddau gan ddirymu hawliau gweithwyr. Yna, oherwydd bod cwmnïau ac unigolion mor bwerus a dylawnadol gallant orfodi llywodraethau i lunio polisiau gwleidyddol a chymdeithasol sydd er budd iddynt hwy. Yr athroniaeth hon oedd sylfaen gwleidyddiaeth Ronald Regan a Margaret Thatcher. Dywedodd M. Thatcher mai ei Beibl oedd The Constitution of Liberty a ysgrifennwyd gan F. Hayek. Roedd Hayek yn annog toriadau mawr mewn trethi i’r cyfoethogion, gwanychu Undebau llafur, lleihau’r nifer o gartrefi cymdeithasol, dadreoli a phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus. Fe gofiwn ddyfyniad enwog M. Thatcher,
“I think we have gone through a period when too many children and people have been given to understand ‘I have a problem, it is the Government’s job to cope with it!’ or ‘I have a problem, I will go and get a grant to cope with it!’ ‘I am homeless, the Government must house me!’ and so they are casting their problems on society and who is society? There is no such thing! There are individual men and women and there are families and no government can do anything except through people and people look to themselves first.” (O gyfweliad yn “Woman’s Own”, 1987)
Llinynau Cudd
Mae’r naratif hwn yn hynod ddiddorol a brawychus yn 2026. Oherwydd fe welwn yr egwyddorion hyn yn ein cymdeithas, yn ymddygiad cwmnïau pwerus, yn ymarweddiad unigolion gor-gyfoethog, gwladwriaethau unbeniaethol a phleidiau gwleidyddol asgell dde fel Reform. Yr hyn y maent wedi llwyddo i’w wneud yw gwneud trachwant, hunanoldeb a di-frawder yn bethau derbynniol o fewn i gymdeithas fel bod pobl gyffredin wedi llyncu eu celwyddau. Nid yw gofod yn caniatau i mi ymhelaethu yma. Os hoffech wybod mwy darllenwch y gyfrol. Ond fel Cristnogion mae’n bwysig ein bod yn gwybod am ac yn deall y syniadaethau hyn sydd ar gerdded. Yn aml, o dan yr hyn a welwn ar y wyneb y mae llinynau cudd yn cael eu tynnu sy’n troi’r dŵr economaidd i felin y dosbarth breiniol.
Y mae’r Beibl drwyddo draw yn ein rhybuddio am drachwant cyfoethogion a’r rhai sy’n ein llywodraeth gan ein hannog i fyw egwyddorion Teyrnas Dduw sy’n llawn haelioni, maddeuant a chyfiawnder.
”Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, 23addfwynder a hunanreolaeth. Galatiaid 5: 22-23
