Myfyrdodau
-
Pedr yn gwadu Iesu
Nos Iau Cablyd Ioan 18: 15 – 27 Mae’r darlleniad wnaed o Efengyl Ioan yn adrodd hanes Pedr yn gwadu Iesu Grist dair gwaith. Wrth gwrs roedd Iesu wedi darogan y byddai hynny’n digwydd cyn i’r ceiliog ganu. Beth allwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn? Fel arfer canolbwyntiwn ar y ffaith fod Pedr yn Continue reading
-
Mr. Bates a’r Swyddfa Bost
Anaml iawn y byddai’n crio wrth wylio rhaglenni ar y teledu ond rhaid i mi gyfaddef bod gwylio drama ddogfen Mr. Bates v The Post Office wedi bod yn brofiad braidd yn emosiynol. Fwy nac unwaith yn ystod y pedair rhaglen a ddarlledwyd gan ITV roedd dagrau yn agos i’r wyneb. Rwy’n siŵr fod pawb Continue reading
-
Y Brenin Herod
Efengyl Mathew, yn unig sy’n cyfeirio at yr hanes hwn. Daeth brenhinoedd o’r dwyrain i chwilio am frenin newydd. Wrth ddilyn seren aethant i balas Brenin Jwda, sef Herod a’i holi, “Ble mae brenin yr Iddewon?” Tipyn o “faux pas”, d’oes bosib! Dychmygwch y sefyllfa. Ant i balas brenin – yr un sydd ar yr Continue reading
-
Wele Cawsom y Meseia
Wele cawsom y Meseia……. meddai Dafydd Jones o Gaeo (1711-77) yn ei garol boblogaidd. Ond beth yw tarddiad y gair Meseia? Meshiach yw’r ynganiad Hebraeg a chyfieithiad ohono i’r Groeg yw Christos – Crist. Felly, ystyr Iesu Grist yw Iesu’r Meseia. Mor aml mae pobl yn credu mai cyfenw Iesu yw Crist, Mr. Crist! Ystyr Continue reading
-
Meri go rownd
Pan yn blentyn roeddwn yn arfer mynd i gae chwarae Craig y Don, ym Mangor Uchaf ac ar y meri go rownd. Un o brif ddifyrion rhai o’r bechgyn hŷn oedd rhoi plant bychan arno ac yna ei droi mor gyflym â phosibl. Wrth iddynt wneud hynny’n gynt ac yn gynt roedd y plant druan Continue reading
-
Y Gwres – Pendref, Enfys Gobaith, Llanw
Nawr ac yn y man tros blynyddoedd rwyf wedi profi Y Gwres. Ei bresenoldeb, Ei ddylanwad, Ei oleuni, Ei gariad, Ei gymorth, Ei gerydd. Weithiau pan dwi ar fy mhen fy hun fe ddaw ataf a thro arall pan mewn torf o bobl y mae Ei bresenoldeb yn amlwg. Yn achlysurol fe ddaw Y Gwres Continue reading
-
Neges Fawr y Proffwyd Bach
Fel meidrolion rydym yn rhwym o fynd trwy gyfnodau anodd. Cyfnodau o dristwch a cholled, salwch ac iselder, rhwystredigaeth a siomedigaeth. Fel Cristnogion gallwn deimlo fel methiant yn ein bywydau personol ac ysbrydol gan ein bod yn syrthio yn aml i demtasiynau ac yn methu a bod yn debyg i Iesu. Dro arall mae gwendidau Continue reading
-
Tich Gwilym
Un o bleserau fy llencyndod oedd prynu recordiau diweddaraf y sin roc Gymraeg. Cofiaf gael gafael ar “Sneb yn Becso Dam” gan Edward H a gwrando arni yn gorwedd ar fy hyd ar lawr a’m llygaid wedi cau gan glustfeinio ar bob nodyn a gair. Dro ro arall roedd criw ohonom o Ysgol Friars, Bangor, Continue reading
-
Tranc Cristnogaeth?
Ers degawdau bellach rydym fel eglwysi Cristnogol yng Nghymru wedi wynebu argyfwng. Mae nifer y ffyddloniaid wedi lleihau yn frawychus a nawr rydym yn gweld nifer fawr o eglwysi yn dirwyn i ben ar ôl gwneud gwaith rhagorol am ddegawdau. Er bod elfen o dristwch a hiraeth ynghlwm wrth ddatgorffori eglwys ni ddylai’r aelodau sy’n Continue reading
