Un o bleserau fy llencyndod oedd prynu recordiau diweddaraf y sin roc Gymraeg. Cofiaf gael gafael ar “Sneb yn Becso Dam” gan Edward H a gwrando arni yn gorwedd ar fy hyd ar lawr a’m llygaid wedi cau gan glustfeinio ar bob nodyn a gair. Dro ro arall roedd criw ohonom o Ysgol Friars, Bangor, wedi mynd i dreulio wythnos yng ngwersyll yr Urdd Glanllyn. Yr wythnos honno rhyddhawyd albwm “Halen y Ddaear” gan Injaroc. Treuliodd criw ohonom egwyl gofiadwy yn gwrando ar sain ffres y grŵp hwnnw ar offer disco’r Urdd. Y flwyddyn ddilynol, pan ar gwrs preswyl Côr Ieuenctid Gwynedd o dan arweiniad John Davies, y cyfarwyddwr cerdd, yn y Coleg Normal, Bangor, ymddangosodd albwm “Fflamau’r Ddraig”, gan Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, a phleser pur oedd cael gwrando arni gyda chyfeillion.

By GanMed64 Medwyn Jones – Flickr: Tich Gwilym, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=29403590
Un o’r caneuon ar yr albwm hwnnw yw ”Mae rhywbeth bach yn poeni pawb,” gyda gwaith gwych ar y guitar flaen gan y dihafal a’r unigryw Tich Gwilym. Yn aml, byddai Gethyn – un o’m ffrindiau gorau – a minnau’n cael jam yn ei garej ar Siliwen Road ac yn ceisio dysgu rhai o’r caneuon o’r albwm. Ond yn y gân “Mae rhywbeth bach yn poeni pawb” yr oedd un cord yn peri penbleth inni ac nid oeddem yn gallu datrys beth oedd.
Ychydig yn ddiweddarach roedd gig gan Geraint Jarman yn Plas Coch, Sir Fôn a mawr oedd yr edrych ymlaen. Nodwedd Plas Coch oedd bod y llwyfan i’r bandiau yn fychan ac yn isel. Golygai hynny ei bod yn bosibl mynd yn agos iawn at y cerddorion a’r “speakers”. Ar nosweithiau felly roedd ambell i ben dafad a’u pennau yn y “speakers” ac rwy’n siŵr eu bod erbyn hyn yn fyddar fel postyn. Ar achlysur felly, pan oedd Tich yn ei afiaith wrth rwygo unawd wefreiddiol arall ar y gitâr flaen, roedd ciwed o ddynion ifanc, yn sefyll o’i flaen ac am ryw reswm yn pwyntio at y gitâr. Buom yno’n pendoncio’n ddilyffethair i “Mae rhywbeth bach yn poeni pawb o hyd.”
Ar ddiwedd y noson wych a chwyslyd, gyda’n clustiau’n dal i gnulio, gofynnodd Gethyn i mi. “Nes di weld?” “Gweld beth?” meddwn i. “Wel, gweld sut oedd Tich yn chwarae’r cord yn y gân.” “Na”, atebais yn ffwrbwt, gan nad oeddwn wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu fel y gwnaeth Gethyn.
Yn ystod yr wythnos ddilynol dyma gyfarfod am jam yn y garij, ac fe ddangosodd Gethyn beth oedd y cord colledig. Rwy’n dal i’w gofio. Ac weithiau byddaf yn chwarae’r gân a’r cord a ddysgwyd o fod yng nghwmni’r meistr, Tich Gwilym.

Mor bwysig yw treulio amser yng nghwmni ein meistr Iesu Grist a dysgu ganddo. Y mae Ef yn ein dysgu am bethau na ddysgwn yn unman arall. Mae’n ein dysgu am Dduw a natur ei deyrnas, am gariad maddeugar ac am fywyd newydd; am gyfiawnder a gwirionedd; am edifeirwch ac iachawdwriaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn gyson i bresenoldeb Y MEISTR gan wrando ar ei eiriau a sylwi ar ei esiampl.
“ Mae munud yn dy gwmni
Yn newid gwerth y byd.”
Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi. Ioan 13: 15
