-
Cwestiwn Cyson 2
Bythefnos yn ôl ysgrifennais bwt am y cwestiwn hwn sy’n cael ei ofyn yn gyson i Gristnogion Cymraeg eu hiaith a dwi’n siŵr i bawb sy’n tystio i Iesu Grist trwy gyfrwng iaith leiafrifol. “Why don’t you hold your services in English, that is the lingua franca of Wales?” Yn yr erthygl gyntaf atebais y Continue reading
-
Y Drydedd Wythnos, 17 – 23 Medi 2023
Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Mae’n dda fy mod yn fy llencyndod wedi bod yn mynychu nosweithiau roc ym Mhlas Coch, Ynys Môn. Pendoncio o flaen y spîcrs wrth wrando ar Geraint Jarman yn telynegu am Ethiopia Newydd Continue reading
-
Dyfyniadau
John Penri “Yr ydwyf yn gadael llwyddiant fy llafur i’r cyfryw o’m cyd-genedl a’m cyd-wladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ôl, i gwblhau y gwaith a ddechreuais, o alw fy nghyd-genedl a’m cyd-wladwyr i adnabyddiaeth o fendigedig efengyl Iesu Grist.” Geiriau olaf John Penri cyn iddo gael ei ddienyddio yn 34 oed yn Llundain Continue reading
-
Cwestiwn Cyson
Yn fy nodiadau am yr wythnos gyntaf cyfeiriais at y ffaith fod rhywun wedi gofyn y cwestiwn hwn i mi. “Why don’t you hold your services in English, that is the lingua franca of Wales?” Gwnaeth hynny’n gwbl ddiffuant ac heb unrhyw falais yn ei lais ac ar yr achlysur hwn atebais y cwestiwn mor Continue reading
-
Harddwch Iesu – Myfyrdod
Cofiaf ymweld rai blynyddoedd yn ôl gydag Amgueddfa y Louvre ym Mharis sy’n llawn o drysorau amhrisiadwy. Yn eu plith y mae un o ddarluniau enwog yr athrylith Leonardo da Vinci sef y Mona Lisa. Am ryw reswm mae’r darlun hwn – sydd ychydig mwy na stamp ail ddosbarth! – yn creu cyfaredd torfol ymhlith Continue reading
-
Yr ail Wythnos 10 – 16 Medi 2023
Dyma’r prif bethau Mae croeso i ti ymateb, fy nghywiro neu ychwanegu at yr hyn rwy’n ddweud trwy sabothyddiaeth.@gmail.com Cychwynnais yr ail wythnos o’r cyfnod Sabothol trwy fynd i addoli gydag eglwys Vineyard. Cynhelir eu gweithgareddau yng Nghanolfan y Gate, nid nepell o City Road, Caerdydd. Er bod hon yn eglwys gymharol newydd y maent Continue reading
-
Dilyn Llinyn 5 – Mynwent Bunhill, Llundain
Mynwent yr Esgyrn Roedd Azariah Shadrach (1774 – 1844) oedd yn wreiddiol o Garndeifo-fach, Llanfair Nant y Gof, Sir Benfro yn dipyn o gymeriad. Gŵr ydoedd a garai ei Waredwr ac a oedd yn llawn brwdfrydedd i rannu’r newyddion da gyda’i gyd-ddyn. Efengylydd oedd, wrth reddf, ymhlith nifer o rai eraill yn ei gyfnod a Continue reading
-
Dilyn Llinyn 4
London Missionary Society a’r Brodyr Wesley Wrth baratoi gwasanaeth arbennig ar hanes y cenhadon Cymreig aeth i Fadagascar ym 1818 darllenais hanes sefydlu’r London Missionary Society ym 1795. Mudiad cenhadol rhyngenwadol ac arloesol oedd hwn a roddai flaenoriaeth i gyhoeddi Efengyl Iesu Grist gan ymwrthod â chyflwyno ffurf ar Eglwysyddiaeth yn y gwledydd lle roeddent Continue reading
-
Yr wythnos gyntaf
Wrth greu’r blog hwn dwi’n gorfod brwydro yn erbyn y teimlad yn fy nghalon mai rhywbeth eithriadol o hunandybus yw gwneud hyn. Nid fy mwriad yw rhoi’r argraff fy mod i neu fy marn yn bwysig, yn well neu yn fwy sylweddol nac unrhyw un arall. Ond credaf mai rhan o’n braint fel Cristnogion yw Continue reading
-
Dilyn Llinyn 3 -Isaac Watts
Mynwent Abney Park, Llundain Wrth chwilio am fedd Betsi Cadwaladr deuthum ar draws gerflun mawr o’r emynydd Isaac Watts. Awdur degau o emynau Saesneg yn cynnwys, When I survey the wondrous crosson which the Prince of glory died,my richest gain I count but loss,and pour contempt on all my pride. Meddyliais fod hynny’n beth rhyfedd, Continue reading
