-
Yr wythnos gyntaf
Wrth greu’r blog hwn dwi’n gorfod brwydro yn erbyn y teimlad yn fy nghalon mai rhywbeth eithriadol o hunandybus yw gwneud hyn. Nid fy mwriad yw rhoi’r argraff fy mod i neu fy marn yn bwysig, yn well neu yn fwy sylweddol nac unrhyw un arall. Ond credaf mai rhan o’n braint fel Cristnogion yw… Continue reading
-
Dilyn Llinyn 3 -Isaac Watts
Mynwent Abney Park, Llundain Wrth chwilio am fedd Betsi Cadwaladr deuthum ar draws gerflun mawr o’r emynydd Isaac Watts. Awdur degau o emynau Saesneg yn cynnwys, When I survey the wondrous crosson which the Prince of glory died,my richest gain I count but loss,and pour contempt on all my pride. Meddyliais fod hynny’n beth rhyfedd,… Continue reading
-
Sabothal
Reit. Dwi wedi cael fy rhyddhau am 3 mis gan aelodau hael Ebeneser, Caerdydd, o’m holl gyfrifoldebau ar wahân i angladdau. Diolch i Ebeneser am eu caredigrwydd tuag ataf ac am feddylgarwch y criw arbennig o ddiaconiaid sydd gennym yn yr eglwys. Gwerthfawrogaf hefyd nawdd Undeb yr Annibynnwr Cymraeg ac am iddyn fy rhyddhau o’r… Continue reading
-
Dilyn Llinyn 2 Betsi Cadwaladr
Mynwent Abney Park. Wrth adael y fynwent, gofynnais i’r rheolwr os oedd pobl eraill, ar wahân i Henry Richards, wedi eu claddu yno oedd gyda chysylltiadau Cymreig. Dywedodd wrthyf fod Betsi Cadwaladr wedi ei chladdu yno. Ni allwn ar unrhyw gyfrif adael heb dalu gwrogaeth i cymeriad arbennig hwnnw. Fell yn ôl a fi i… Continue reading
-
Dilyn Llinyn 1 Henry Richards
Mynwent Abney Park Sylwais wrth ddarllen y Tyst – ffynhonnell pob math o wybodaeth fuddiol – fod yr Apostol Heddwch, Henry Richards wedi marw ar yr 20fed Awst 1888 yng nghartref ei ferch yn Nhreborth, ger Bangor, a bod ei weddillion wedi eu claddu ym mynwent Abney Park, Llundain. Fel un a aned ym Mangor… Continue reading
-
Egni, Egin a Geni
Ysgrifennwyd y canlynol ar gyfer cyfarfodydd Cyngor Undeb yr Annibynwyr ym mis Mawrth 2018 Nid oes rhaid i neb ein hysbysu erbyn hyn o’r dirywiad enbyd mewn eglwysi Cymraeg eu hiaith ar hyd a lled Cymru a’r tebygolrwydd y bydd hyn yn parhau i’r dyfodol y mae’n bryd i ni ystyried sut y gall yr… Continue reading
