Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Baban

Mae’r Nadolig yn ŵyl ryfedd o ran y gwrthgyferbyniadau sy’n perthyn iddi.  Mae’n llawn o’r materol a’r ysbrydol,  y tragwyddol a’r meidrol, goleuni a thywyllwch,   rhialtwch bas a llawenydd dwfn.  Yn y golygyddol hwn rwyf am ddilyn un edefyn ym mrodwaith goludog hanes geni ein Gwaredwr Iesu.

Syfrdanol

Yr hyn sy’n amlwg syfrdanol yn hanes gwyrthiol y Geni yw fod Duw wedi dod i’n plith yn Iesu,

“Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni.

Gwelon ni ei ysblander dwyfol –
ei ysblander fel Mab unigryw
  wedi dod oddi wrth y Tad
    yn llawn haelioni a gwirionedd.”

 – Ioan 1:14 beibl.net

Syfrdan ar ben syfrdan yw fod Duw yn Iesu wedi gwneud ei hun yn fregus er mwyn gwasanaethu ac achub ei gread a’i greaduriaid anufudd. Daeth Duw i’r byd nid fel cryf arfog nid fel ymerawdwr ymerodraeth bwerus ond mewn baban bach diamddiffyn a aned i deulu cyffredin mewn ardal ddinod o’r galaethau maith. O’r dechrau cychwyn mae Duw yn dangos natur ac egwyddorion ei deyrnas. Y mae ei gariad ef yn gariad aberthol, y mae ei ras ef yn afresynol, y mae ei rym ef yn rym gostynedig ac y mae ei Deyrnas Ef yn goresgyn trwy wasanaethu.

Safwn yn gegrwth gyda’n hemynwr wrth fyfyrio ar arwyddocâd hyn,

     Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
          rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd,
     gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth
          a Rheolwr popeth sydd
     yn y preseb mewn cadachau
          a heb le i roi’i ben i lawr,
     eto disglair lu’r gogoniant
          yn ei addoli’n Arglwydd mawr.

Ann Griffiths

Llun gan Kelly Sikkema ar Unsplash

Crewr yn crio mewn cadach

Am bwl, baban bach bregus oedd Arglwydd yr Arglwyddi a chyfrifoldeb ei rieni meidrol oedd gofalu am, bwydo, newid, diodi a chadw y Duwddyn yn gynnes. Bygythiwyd ei lofruddio’n giaidd gan Herod yn ei drachwant am rym. Llofruddiwyd bechgyn bach eraill. O ganlyniad bu rhaid i’r teulu ffoi i’r Aifft er diogelwch. Ac oherwydd eu gofal o’r baban mewn byd peryglus fe dyfodd Iesu yn oedolyn i’n dysgu fel dynoliaeth am Dduw a’i deyrnas. Dysgodd ni mai grym yw gwasanaethu nid gwendid, cryfder yw maddau a thugarhau a’i fod yn disgwyl i’w bobl Ef garu eraill yn abethol. Onid dyna wnaeth ar y groes, rhoi ei hun o’i wirfodd er mwyn ein cadw a’n cymodi gyda Duw?

Babanod a Phlant

Mae hanes y Geni yn dangos pa mor werthfawr yw babanod a phlant  yng ngolwg Duw? O ganlyniad cyfrifoldeb pob cymdeithas wâr yw eu caru, eu hamddiffyn, eu diogelu a’u meithrin.

Un o’r arwyddion amlycaf fod cymdeithas wedi colli ei ffordd yw pan fo babanod a phlant yn dioddef. Trosedd uffernol ydy bod y diniwed a’r bregus hyn yn cael eu amharchu’n greulon. Gwelwn hyn heddiw ar strydoedd Gasa ac Israel, dywed Cronfa Achub y Plant fod 3,195 wedi eu lladd yn Gasa mewn cyfnod o dair wythnos ym mis Hydref eleni. https://www.savethechildren.net/news/gaza-3195. Ar ben hynny nid yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ymdrin ag ymgeiswyr lloches mewn ffordd ddyngarol. Cywilydd ar y bobl hynny sy’n credu bod aberthu plant ar allor gwleidyddiaeth yn dderbyniol mewn unrhyw wrthdaro na pholisi. A dewch yn nes adref,  onid testun cywilydd mawr i bawb ohonom yng Nghymru yw bod cymaint o blant bach yn dioddef o dlodi? Mae angen i ni godi ein llais yn erbyn hyn oherwydd nid oes gan blant lais eu hunain. (Gellir gweld ystadegau UNICEF ar dlodi plant ar eu gwefan,

https://www.unicef.org/globalinsight/reports/report-card-18-child-poverty-amidst-wealth#report)

Llun gan Jill Sauve ar Unsplash

Bod yn llais

Sut allwn ni fel eglwysi fynd i’r afael â hyn gan fod yn llais i fabanod a phlant yn fyd-eang ac yn lleol? Dylem weithredu i ddileu tlodi plant yma yng Nghymru fel bod y rhai bychan hyn yn cael yr hyn maent ei angen i fod yn ddiogel ac i dyfu’n gryf ac yn iach.

“Yr amser hwnnw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?” Galwodd Iesu blentyn ato, a’i osod yn eu canol hwy, a dywedodd, “Yn wir, ‘rwy’n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma’r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag sy’n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i. “Ond pwy bynnag sy’n achos cwymp i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof fi, byddai’n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr.” (Mat 18:1-6)

Fel baban y daeth Duw i’n plith ac y mae i hynny arwyddocâd pellgyrhaeddol.