Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Calan Gaeaf 1517

Martin Luther a’r Diwygiad Protestannaidd

Ym mis Ebrill 2016 fe gefais y fraint o fynd i gynhadledd “Ail-dafoli Protestantiaethau” yng nghryd y diwygiad Protestannaidd sef Wittenberg yn yr Almaen. Roedd yn brofiad rhagorol, nid yn gymaint y gynhadledd ei hun, ond o gael bod yn Wittenberg.

Cawsom wefr aruthrol o droedio’r un llwybrau a Martin Luther. Roedd yr hen dref wedi cael ei chadw fel y bu trwy’r canrifoedd ond wedi ei chaboli ar gyfer dathliadau 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd yn 2017. Roeddwn wedi darllen am ML wrth wneud Lefel A ac yna wrth astudio diwinyddiaeth yng Ngholeg Bala Bangor. Felly profiad amheuthun oedd cael mynd i’r fynachlog lle y bu ML fyw am y rhan fwyaf o’i fywyd a cherdded draw i eglwys y plwyf lle y pregethodd yn dros 2 fil o weithiau, heibio’r coleg lle y bu’n darlithio a draw i Eglwys y castell lle yr hoeliodd y 95 Erthygl ar y drws ar noson Calan Gaeaf 1517.

Cerflun o Martin Luther yn eglwys y plwyf Wittenberg

Martin Luther

Mae hanes Martin Luther yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd wedi astudio hanes Cristnogaeth yn Ewrop. Roedd yn berson cwbl allweddol yn natblygiad y Diwygiad Protestannaidd.

Ganwyd ef ym 1483 yn Eisleben, yr hynaf o 7 o blant. Roedd ei dad yn ŵr busnes lled lwyddiannus.  Symudodd y teulu y flwyddyn ddilynol i Mansfeld. Cafodd ML addysg dda mewn ysgol Ladin yn Mansfeld, gyda mynaich ac wedyn aeth i Eisenach. Ym 1501 matriciwleiddiodd ym Mhrifysgol Erfurt lle yr ennillodd radd B.A., ym 1502 ac M.A., ym 1505. Roedd ei fryd ar fod yn gyfreithiwr a dyna oedd bwriad ei dad ar ei gyfer. Ond nid dyna oedd bwriad yr Arglwydd ar gyfer y gŵr arbennig hwn. Mae dwy stori yn cael ei hadrodd pam y bu iddo newid cyfeiriad. Mae y gyntaf yn sôn amdano yn  syrthio ar ei gyllell, gwaedai fel mochyn ac yr oedd yn gwbl argyhoeddiedig y byddai’n marw. Gweiddiodd ar y Forwyn Fair – o bawb – am waredigaeth. Yna, yn ail, roedd digwyddiad tebyg mewn storm pryd syrthiodd oddi ar ei geffyl ac yn ei ddychryn gwaeddodd, “Help, Santes Ann, fe af yn fynach.”

Beth bynnag y gwir fe aeth yn fynach gyda’r Ermenitiaid  Awstinaidd ar 17 Gorff 1505. Symudodd i Wittenberg ym 1508 gan setlo yn derfynol yno ym 1511 ac yno y bu hyd weddill ei oes.

Y fynachlog lle darlithiai Martin Luther yn Wittenberg

Ceisio Perffeithrwydd

Aeth ML yn fynach er mwyn ceisio plesio Duw ac er mwyn cyrraedd y perffeithrwydd yr oedd hynny yn ei ofyn. Yr oedd y bywyd mynachaidd yn llym ac roedd disgwyl i’r mynaich arfer disgyblaeth haearnaidd. Codant yn blygeiniol yn y bore bach, oddeutu 4.00 i weddïo. Bwyta bwyd syml a gweithio’n galed oedd y drefn. Roedd Luther yn fynach ymroddedig yn cymryd ei ffydd fel y deallai hi ar y pryd o ddifrif. Roedd yn anelu at berffeithrwydd personol ger bron Duw, er mwyn i’r Duw perffaith ei dderbyn. Er mwyn disgyblu ei hun a’i feddyliau a gwrthsefyll temtasiynau cnawdol byddai’n cysgu mewn cell fechan lom, weithiau ar wely carreg gyda charreg yn glustog. Ar adegau o wrthgilio ysbrydol, lle teimlai ei fod yn pellhau oddi wrth Dduw byddai yn ei fflangellu ei hun.

Ond buan y sylweddolodd nad oedd yn gallu cyrraedd y perffeithrwydd hwnnw y gwyddai fod Duw yn ei ddisgwyl ganddo. Yr oedd brwydr fawr ffyrnig yn ei galon. A dyma’r ing a’r sylweddoliad hanfodol sydd wedi nodweddu Protestanniaeth o’r dechrau sef, na allwn gyfiawnhau ein hunain, neu wneud ein hunain yn dderbyniol ger bron Duw trwy ein gweithredoedd a’n daioni a’n hunanddisgyblaeth ein hunain. Yr unig ffordd i gael ein derbyn gan Dduw yw trwy gredu Ei gariad a’i ras yn Iesu. Trwy ffydd yn unig y bydd byw dyn.

Penyd a Phurdan

Er mwyn deall hyn y well rhaid inni ystyried dysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig ar y pryd. Dysgwyd Luther ei fod trwy fedydd fel plentyn yn derbyn maddeuant llwyr o’i bechodau a’i fod trwy hynny yn dod yn Gristion. Yn dilyn hynny trwy gydol ei oes roedd i gyflawni gweithredoedd da ac er mwyn cael nerth i wneud hynny roedd  cymorth i’w gael trwy ras sacramentaidd. Ystyr hynny oedd cyfranogi yn ffyddlon o’r offeren (mass) ac yna byddai’n ennill haeddiant ger bron Duw.

Yn ôl y drefn hon roedd sacrament penyd o gymorth mawr yn y frwydr yn erbyn pechod a themtasiwn. Roedd disgwyl i Gatholigion i gyffesu eu pechodau yn gyson i’r offeriad yn y gyffesgell (confessional). Trwy hynny gellid cael maddeuant a fyddai yn eich rhyddhau o euogrwydd ac yna byddai rhaid gwneud rhyw weithred hunanaberthol o benyd (penance). Ond nid oedd rhaid poeni yn ormodol am hyn oherwydd roedd Iesu, y forwyn Fair a’r seintiau trwy’r canrifoedd wedi gwneud cymaint o weithredoedd da fel bod Trysorfa o Haeddiant ar gael. Roedd y Drysorfa hon ym meddiant yr Eglwys Gatholig a gallai’r Pab, pe dymunai, ryddhau peth o’r credit hwn gan ei ychwanegu i gyfrif haeddiant pechadur. Rhyw cyfrif credit ysbrydol.  Felly, nid oedd rhaid poeni.

Eglwys y plwyf Wittenberg

Maddeuebau

Ond, ochr yn ochr â hyn yn ystod y cyfnod tywyll fe ddatblygodd busnes reit ddel gan yr Eglwys lle’r oedd yn bosibl talu arian i’r Eglwys Gatholig er mwyn cael maddeuant gan ddefnyddio peth o’r haeddiant oedd yn y coffrau haeddiant. E.e., Yn ystod cyfod Luther roedd dyn o’r enw John Tetzel yn teithio i werthu maddeuebau er mwyn codi arian i adeiladu’r Basilica yn Rhufain. Gellid cael drwy dalu arian i’r Eglwys faddeuant am bob math o droseddau a thystysgrif fawr urddasol i’w dangos i’r offeiriad lleol. Elfen arall yn hyn oedd y ddysgeidiaeth am burdan, y tân sy’n puro (purgatory). Dysgid bod Cristnogion ar ôl marw yn mynd i’r purdan lle y byddent yn cael eu puro yn raddol cyn cael mynediad i’r nefoedd. Ond yn handi iawn gellid cael credit o’r Drysorfa Haeddiant er mwyn rhydau aelodau o’ch teulu o’r purdan neu leihau sawl mil o flynyddoedd yr oedd rhaid iddynt aros yno trwy dalu arian.

Pererindodau a Chreiriau

Roedd dwy ffordd arall o wneud penyd sef, mynd ar bererindodau i fangreoedd sanctaidd ac ymweld â chreiriau Cristnogol. Dros rai Suliau arbennig o’r flwyddyn – special offer! – gellid mynd i Rufain ar bererindod a chael maddeuant o’ch holl bechodau. Neu gallech fynd i’ch eglwys Gadeiriol leol i weld creiriau (relics) e.e., darnau o groes Crist, neu wellt o’r preseb a chael maddeuant. Ystyrid hynny yn weithredoedd da. Roedd gan Fredrick Ddoeth dros fil o greiriau – casgliad gorau’r Almaen ar y pryd – yn eglwys y Castell yn Wittenberg. (Ffaith ddiddorol wrth fynd heibio yw tarddiad y gair cynghrair yn y Gymraeg. Mae Geiriadur Ysgrythurol Thomas Charles yn dweud mai gwreiddyn y gair yw “cyn crair”. Roedd hen arfer yng Nghymru os oedd dau berson am wneud cytundeb arbennig rhyngddynt â’i gilydd eu bod yn mynd i’r eglwys ac yn gosod eu dwylo ar grair oedd yno er mwyn selio’r cytundeb. O’r fan honno y daw’r gair cynghrair.)  

Brwydr Ysbrydol

Roedd brwydr yng nghalon Luther oherwydd nid oedd yn gallu profi dedwyddwch na bodlonrwydd. Beth allai ef ei wneud i fodloni Duw perffaith? Yr oedd ef yn bechadur amherffaith, roedd hyd yn oed ei weithredoedd da yn llygredig. Bu’n siarad yn hir gyda Iohann von Staupitz a dywedodd ef wrtho i fod yn ffyddiog ym maddeuant Duw. Ond nid oedd Luther yn gallu cael tawelwch meddwl. Yn y diwedd siaradodd Duw gydag ef trwy’r Beibl yn enwedig trwy Salm 31: 1.

“Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder.” (Salm 31:1)

Ac wrth gwrs Rhufeiniaid 1: 17.

“Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid. Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o’r dechrau i’r diwedd, fel y mae’n ysgrifenedig: “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.” (Rhuf 1:16-17)

Daeth ML i sylweddoli fod y pechadur nid yn dibynnu ar ei weithredoedd da ei hun er mwyn bod yn gyfiawn ond ar drugaredd Duw, a thrwy ffydd yn Iesu  fe’n gwneir yn gyfiawn. Roedd y gwaith o’n hachub wedi cael ei gyflawni yn llwyr ac yn gyfan gwbl yn Iesu, ei fywyd perffaith, ei farw aberthol tros ein pechodau ar y groes a’i atgyfodiad. Trwy edifarhau a rhoi ein ffydd yn Iesu fe dderbyniwn faddeuant am ein holl bechodau ac fe ddeuwn i berthynas gyda’r Duw byw.  Ac yn nhŵr y fynachlog yn Wittenburg y cafodd y datguddiad bendigedig hwn a siglodd yr Eglwys Gatholig i’w seiliau. Nid oes neb yn siŵr pa flwyddyn y digwyddodd hyn, ond rhyw dro rhwng 1508 – 19. Mae’n debygol iddo ddigwydd yn raddol wrth iddo ddarlithio ar wahanol adrannau o’r ysgrythur. 

Roedd Luther yn amlwg yn ddyn deallus a ddatblygodd yn ysgolhaig. Roedd llywodraethwr Saxony sef Fredick Ddoeth yn awyddus i ddatblygu prifysgol yn Wittenberg er mwyn codi safon ei diriogaeth a noddodd y sefydliad yn hael. Rhoddodd hyn gyfle i Luther fyfyrio ar y Beibl, paratoi darlithiau ar gyfer y myfyrwyr a phregethu yn eglwysi’r dref.

Eglwys y Castell lle hoeliodd M Luther y 95 erthygl ar y drws

Y 95 Erthygl

Dyma’r cefndir felly a arweiniodd ML i hoelio’r 95 erthygl ar noson Calan Gaeaf, Hydref 31ain 1517, ar ddrws Eglwys y Castell yn Wittenberg gyda’i gyfaill Iohanes Agricola. Roedd yn awyddus iawn i drafod y materion oedd yn codi ynglŷn â maddeuebau a chreiriau. Oherwydd erbyn hynny roedd yn amau yn llwyr drefn maddeuant yr Eglwys Gatholig ac yn enwedig y gwerthu ar faddeuebau. Ei fwriad oedd trafod ac efallai diwygio ychydig ar drefn yr Eglwys Gatholig.  O fewn misoedd roedd ysgolheigion ar hyd a lled Ewrop yn trafod y pynciau hyn oherwydd o fewn pythefnos roeddent wedi eu cyhoeddi gan argraffydd Luther, Ioahn Grunenberg yn Lladin ac mewn ieithoedd eraill. Roedd y system maddeuebau yn rhemp, roedd ML yn gwrando ar gyffes rhai plwyfolion ac nid oedd unrhyw arwydd o edifeirwch yn agos atynt, ond roedd ganddynt y llythyr hwn oedd yn rhoi maddeuant iddynt. Roeddent yn eu defnyddio fel trwydded i bechu mwy nid llai. Codai’r 95 erthygl gwestiynau mawr am y maddeuebau.

Dyma i chi Rif 82. “Yn seiliedig ar yr egwyddor fod y Pab yn gallu rhyddhau eneidiau o’r purdan am arian. Pam nad yw’r Pab yn ei gariad sanctaidd yn gwagio’r Purdan o’r holl eneidiau?”

O ganlyniad i hyn y dechreuodd y dadlau a’r trafod a’r gwrthdaro a ledodd i holl wledydd cred ac a ddatblygodd yn Ddiwygiad Protestannaidd. Am ei gamwri derbyniodd ML y bwl gan y Pab gan ei esgymuno o’r Eglwys a’i ddiarddel fel mynach.

Sylwadau Clo

Bwriad ML o’r dechrau oedd diwygio’r Eglwys a’i throi yn ôl at yr hyn y dylai fod. Gallai ML fod yn eithriadol o ystyfnig a phengaled, arwr ydoedd gyda thraed o glai. Gwnaeth bethau drwg a byrbwyll fel cefnogi gwrth-semitiaeth ac annog trais ymhlith y tywysogion er mwyn iddynt wastrodi gwrthryfel y gwerinwyr. Un peth a sylweddolias wrth wneud gwaith ymchwil arno yn ddiweddar oedd nad ydoedd ef mor benboeth a byrbwyll ac yr oeddwn wedi tybio.

Gan gymryd gwaith yr Ysbryd Glân yn ganiataol yn y symudiad hwn, roedd 4 prif reswm am ddylanwad ML.

1. Sylweddolodd bwysigrwydd y wasg argraffu. (Dyfeisiwyd y wasg gyntaf gan Johannes Gutenberg oddeutu 1440.) Golygodd hyn chwyldro enfawr mewn cofnodi a rhannu gwybodaeth. Cyhoeddodd ML lyfr neu bamffled bob pythefnos ar gyfartaledd am 25 mlynedd.

2. Fe gyfieithodd y Beibl i’r Almaeneg, ei famiaith. Y Testament Newydd ym 1522 a’r Beibl cyflawn ym 1534. Dim ond 30 mlynedd yn ddiweddarach ym 1567 yr ymddangosodd y Testament Newydd yn y Gymraeg trwy gymwynas William Salesbury. Roedd hyn yn chwyldroadol gan mai’r fersiwn Lladin a ddefnyddid hyd yn hyn yn holl eglwysi Ewrop o Rufain i Dŷ Ddewi.

3.Fe gafodd ei amddiffyn gan y Tywysog Frederick ac felly roedd yn ddiogel yn Saxony. Er yn rhyfedd iawn ni chyfarfyddodd erioed â Frederick. Ni chrwydrodd ML erioed yn bell o’r ardal hon.

4. Cymeriad a doniau ML. Yr oedd yn ysgolhaig diwyd, dadleuwr rhagorol ac yn eithriadol o benderfynol. Roedd ganddo hefyd fywyd teuluol hapus.



2 ymateb i “Calan Gaeaf 1517”

  1. Cof clir am y daith i Wittenberg. Pe byddai modd i roi llun gyda’r sylw hwn, buaswn wedi cynnwys ffoto o’r ddau frawd wrth ddrws eglwys y castell, lle gosododd ML ei 95 erthygl. Nid y drws gwreiddiol sydd yno bellach, wrth gwrs, oherwydd tân a gafwyd yn yr eglwys, ond yr un yw’r lleoliad. Yn 2016, yr oedd hen dref Wittenberg dan warchae adeiladwyr a’u sgaffaldiau wrth iddynt adnewyddu a pharatoi’r holl safle at gyfer dathliadau mawr 2017.

    Hoffi

    1. Wrth gwrs. Oes gen ti lun o’r ddau ohonom?

      Hoffi

Gadael ymateb i alunemrys Diddymu ymateb