Nodweddion Addoliad ganol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
Wrth ymweld ag eglwysi sydd newydd eu plannu y mae arddull yr addoliad yn drawiadol. Y mae’n eithriadol o anffurfiol heb arlliw o “draddodiad Cristnogol.” Tueddant i ddefnyddio caneuon cyfoes wrth ganu, er bod rhai emynau traddodiadol yn cael eu defnyddio, ond eithriad yw hynny. Nid oes canu pedwar llais nac organ. Yr arfer yw bod guitar unigol neu fand llawn yn cyfeilio yn cynnwys, drymiau, jemba neu beat box, allweddell, guitar rhythm, guitar fas a lleisiau. Nid oes ychwaith unrhyw wisg ffurfiol fel siwt a thei neu siaced a thei. Testun difyrrwch i mi wrth ymweld ag eglwysi newydd yw bod yr arweinyddion yn dueddol o wisgo, crys T, trowsus cwta (shorts), fflip-fflops a het pêl fâs. (Lifrau newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.)

Tueddwn i gymryd yn ganiataol fod y dull o addoli a etifeddwyd gennym ni erbyn dechrau’r 21ain ganrif yr hyn a fu o gychwyn Ymneilltuaeth. Ond nid dyna’r gwir oherwydd bu newid yn ysbryd ac arddull oedfaon o ganol y 19eg ganrif ymlaen ac erbyn diwedd oes Victoria roedd ffurfioli mawr wedi digwydd. Ni fyddaf yma yn cyfeirio at bregethu na chanu, bydd rhaid cael erthyglau eraill i drafod yr elfennau hynny. Felly dewch i mi yn yr erthygl hon roi blas i chi o’r math peth oedd yn digwydd mewn oedfaon ledled Cymru ganol y 19eg ganrif.
Roedd ymateb yn deimladwy i neges yr efengyl yn beth cwbl arferol, yn arwydd o fendith yr Ysbryd Glân, o ddifrifoldeb argyhoeddiad ac o’r ffaith fod y gwirioneddau’n cyrraedd y galon. Rhywbeth dieithr iawn oedd celu teimladau. Nodweddid yr addoliad gan fywyd, egni, cynhesrwydd, gwres a sŵn. Mae’n amlwg fod nodweddion arbennig, os nad unigryw, i’r addoliad a’r gorfoledd Cymreig yn y 18fed a’r 19eg ganrif.
Yng nghofiant Christmas Evans fe gofnodir amddiffyniad o’i eiddo dros yr hyn a elwid yn “Welsh Jumping,” neu “mwynhad crefyddol,” fel y gelwid ef gan Christmas Evans. (1) Ym 1829 y gwnaeth yr amddiffyniad hwn a hynny yng Nghaerodor (Bryste) ym mhresenoldeb nifer o weinidogion Saesneg. Mae’n amlwg fod llawer o’r Saeson a gweinidogion Seisnig yng Nghymru yn bur amheus o’r gorfoledd Cymreig, ac fe aeth rhai ohonynt mor bell â’i gondemnio. Yn ystod Diwygiad Beddgelert, 1817-22, synnai’r Saeson a oedd ar ymweliad â’r ardal yn fawr at ymddygiad yr addolwyr yn y capeli, a daeth rhai ohonynt i’r casgliad mai ffurf ar wallgofrwydd ydoedd. Yn ei amddiffyniad, olrheiniai Christmas Evans y dull hwn o addoli yn ôl i gyfnod Harris, Rowlands, y ddau Williams a’r Diwygiad Methodistaidd. (2)
“Trwy eu gweinidogaeth hwy, ” meddai, “y dechreuodd y canu a’r dawnsio hyn mewn mwynhad crefyddol yng Nghymru, y rhai sydd heb ymadael yn llwyr o’r Dywysogaeth hyd yma. “

Christmas Evans
Ceisiai Christmas Evans oleuo ei frodyr Seisnig drwy ddangos mai dylanwad yr Ysbryd Glân a barai’r “mwynhad crefyddol, ” a’i fod yn gyfrwng effeithiol i daenu’r efengyl Gristnogol. Yn wir, ymhelaethai gan ddweud mai un o’r rhesymau pam nad oedd yr efengyl wedi bod yn fwy effeithiol yn Lloegr, oedd oherwydd nad oeddent wedi profi’r nerthoedd ysbrydol hyn. Gresynai hefyd fod y nodweddion oeraidd Seisnig o addoli yn dechrau ymddangos ym mhlith y Cymry, “o dan liw bod yn drefnus. ” Dywed, “rhugnir canu pump neu chwech o bennillion cyn syched â Gilboa, yn lle pennill neu ddau, fel can newydd a’i lloned o Dduw, o Grist, a gras a’r Ysbryd, nes hwylio y galon i addoli…… Trefn heb fywyd sydd yn hynod o ddiwerth.”
Pan fyddai’r amgylchiadau’n ffafriol a’r addoliad yn frwd, nodweddid ymarweddiad yr addolwyr gan orfoledd arbennig. Dewch inni edrych ar brif nodweddion yr addoliad, a’r dull yr oedd y Cristnogion yn mynegi eu mawl a’u clod i Dduw, gan ddangos eu teimladau.
Wylo
Peth hynod gyffredin oedd i’r gynulleidfa yn ddynion, merched ac yn blant wylo mewn cyfarfodydd. Ar nos Sul, ym 1825, (3) yr oedd W. Roberts, Amlwch, yn pregethu mewn capel yn Llannerch-y-medd, Sir Fôn. Nid oedd hi ar y pryd yn gyfnod o ddiwygiad, and eto fe gafodd ei bregeth ddylanwad dwys ar y gwrandawyr. Wrth i W. Roberts rybuddio’r annuwiol o’u tynged ‘roedd y gynulleidfa fel pe bai wedi ymddrysu, “yr oedd sŵn galar, a griddfan dystaw, yn rhedeg drwy yr holl addoldy, i fyny ac i lawr – aeth pawb yn foddfa o ddagrau ar unwaith. “

Yn un o’ i ysgrifau ar Ddiwygiad 1859 mae Robert Ellis, Ysgoldy, Arfon, yn cyfeirio at un o’r cyfarfodydd arbennig y bu ynddynt yn ystod yr adfywiad. Ar derfyn cyfarfod gweddi galwyd seiat, a gwelwyd fod rhai wedi aros ar ôl o’r newydd. Yna yn ddisymwth agorodd drws y capel a daeth oddeutu wyth o fechgyn ifanc i mewn yn y dychryn mwyaf gan eistedd ar fainc a wylo’ n hidl. “Wrth eu gweled hwy aeth pawb i wylo. A chyfarfod i wylo, gan mwyaf, fu hwn: tadau yn wylo, a mamau yn wylo, brodyr a chwiorydd yn wylo; wylo distaw, wylo o’r galon, ac addoli wrth wylo. Nid oedd gan neb flâs dros enyd yn y cyfarfod hwn ar ddim ond wylo!
“Ac O! gyda’r fath foddhad yr wylai rhai mamau! yn lapio y cadach llogell (hances) ag un llaw ar y wyneb, a churo y glin â’r llaw arall, a wylo o fodd calon. A pha ryfedd? hawdd y gallai y mamau hyn ddywedyd. ‘Am y bachgen hwn y gweddïais. ‘……. ” (4)
Rhan o’r addoliad oedd y wylo, yn fynegiant o edifeirwch neu o ddiolch i Dduw am iachawdwriaeth.
Llewygu
Digwyddiad lled gyson mewn cyfarfodydd cynhyrfus oedd fod rhai’n cael eu clwyfo gan y gwirioneddau a gyflwynid mewn pregeth, a bod hynny’n effeithio’n gorfforol arnynt. Ceir nifer o enghreifftiau o bobl yn mynd yn gorfforol sâl ar ôl gwrando pregeth wrth iddynt fynd drwy fwlch yr argyhoeddiad, ac yna yn gwella wedi iddynt edifarhau am eu pechodau a chredu yn yr Arglwydd Iesu. Cofiai Edward Davies, Trawsfynydd, am oedfa arbennig fu yn Hen Gapel, Llanuwchllyn, tua 1808 pan oedd Cadwaladr Jones, Dolgellau, yn pregethu yno. ‘Roedd yn ddiwrnod oer iawn, a Cadwaladr Jones yn traddodi ei bregeth yn bwyllog a digynnwrf. Ond rhywle tua chanol y bregeth dyma wraig yn syrthio i’r llawr mewn llewyg ac yn ymddangos fel pe bai’n cael trafferth i anadlu. Credai Edward Davies ei bod ar farw. Ond yna ymhen ychydig dyma eraill yn syrthio yn yr un modd. Wedi iddynt ddod atynt eu hunain dechreusant orfoleddu gymaint fel na allai Cadwaladr Jones barhau gyda’ i bregeth. Yn y cyfnod hwnnw yn ardal Llanuwchllyn ‘roedd yn rhaid i bob pregethwr bregethu’n araf a phwyllog gan ei bod mor rhwydd peri gorfoledd ymhlith y bobl. (5)
Bu digwyddiad cyffelyb yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhanygrisiau yn ystod Diwygiad 1859. Mewn oedfa yn y capel ‘roedd Robert Williams yn sefyll yn gwrando ar y pregethwr ac ‘roedd hi’n amlwg i’r rhai oedd yn ei ymyl fod y gwirioneddau yn gafael ynddo yn dynn. Yna ar ganol y bregeth “fe’i clwyfwyd,” ac fe syrthiodd i lawr i waelod ei sedd fel petai’n farw gan beri braw i’r gynulleidfa. Aethpwyd ag ef adref y noson honno ac wedi iddo ddod ato ei hun, rhoddodd ei hun i Dduw gan ddod yn aelod eglwysig. (6)
Bu llewygu yn rhan o addoliad!

Neidio
Nodwedd arall yn y gorfoledd, yn enwedig mewn diwygiadau, oedd neidio wrth addoli Duw. Yn ystod y blynyddoedd 1828-29, bu diwygiad ym Morgannwg, a gwelwyd ei ddylanwad yn drwm ar Ebeneser, eglwys yr Annibynwyr, Aberdâr. Yn yr hen gapel byddai’r brodyr, Dafydd Shencyn, Shon Price a William Shencyn ynghyd ag eraill yn neidio wrth foli Duw. Byddai’r merched a’r gwragedd yn tynnu eu siolau a’u boneti er mwyn bod yn fwy rhydd i neidio. Yn y capel ‘roedd bwrdd bychan, a than ddylanwad y gorfoledd byddai’r brodyr a enwyd uchod yn neidio i ben hwnnw gan weiddi “Hosanna a Bendigedig. ” Ofnai’r rhai oedd yn llai brwd eu teimladau y byddai’r bwrdd yn rhoi oddi tanynt, and dal yn gadarn dan y neidio wnaeth y bwrdd. Parhau yr oedd yn neidio yn Ebeneser yn Niwygiad 1859, a’r hen bobl yn neidio i ben y seddau nes colli eu gwynt yn lan. Mae hanes am Shencyn Griffiths, a oedd yn ŵr oedrannus ym 1859, yn neidio i ben y sedd fawr ac o’r fan honno’n annog y gynulleidfa yn yr oriel i neidio i fyny gan eu bod hwy yn nes i’r nefoedd na’ r rhai oedd ar y llawr. (7)
Mewn cyfarfod gweddi yn Llanfechell, Môn, torrodd yn orfoledd, a neidiodd un brawd ifanc yn ei lawenydd dros ddwy o’r seti i’r llawr Ile ‘roedd rhai yn gorfoleddu. (8) Dywed Robert Edwards mai’r arfer yn yr hen gapel yn Llanfechell oedd i’r gorfoleddwyr hel ati ei gilydd ar ganol y llawr. Digon hawdd oedd iddynt wneud hyn gan mai meinciau symudol oedd yno. ‘Roedd Catrin Rondol, Lledrod, yn enwog am ei gorfoleddu, a byddai hithau a’r hen wragedd yn y capel yn “llamu fel ewigod.” (9)
(Hoffwn nodi yma, yn nifer o’r capeli cynnar nid oedd seti parhaol wedi eu gosod ynddynt, dim ond meinciau symudol. Mewn ambell i gapel roedd y gynulleidfa yn sefyll ar y llawr pridd trwy gydol y gwasanaeth. Haws neidio!)
Roedd neidio yn rhan o addoliad.
Bydd yr ail ran yr wythnos nesaf
CYFEIRIADAU
- W. Morgan, Cofiant neu Hanes Bywyd y Diweddar Christmas Evans, (Caerdydd, 1839), 59. Am “Welsh Jumpers”, gw., David Williams, cofiant J. R. Jones Ramoth, (Caerfyrddin, 1913), 333-37. Mae amddiffyniad Christmas Evans o deimladrwydd yn adleisio amddiffyniad Williams Pantycelyn yn Ateb Philo -Evanglelicus, (1763). Garfield H. Hughes (gol.), Gweithiau William Williams Pantycelyn, (Caerdydd, 1967), 13-32.
2. Am y Diwygiad Methodistaidd gw., John Hughes, Methodistiaeth Cymru. (Wrecsam, 1851), cyfrol i. D, D, Williams, Llawlyfr Hanes Cyfundeb Y Methodistiaid Calfinaidd, (Caernarfon, dim dyddiad), 40-91.
3. H. Jones, Cofiant y Parch. W. Roberts, Amlwch, (Llannerch-y-medd, 1869), 61.
4. John Owen Jones, Cofiant a Gweithiau Robert Ellis. Ysgoldy, Arfon (Caernarfon, 1883), 261. Am wylo gw., Edward Parry, Llawlyfr ar Hanes y Diwygiadau Crefyddol yn Nghymru, (Corwen, 1898), 100. Henry Hughes, Diwygiadau Crefyddol Cymru, (Caernarfon, 1906), 252,444.
5. R. Thomas, Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau, (Lerpwl, 1870), 208.
6. David O, Hughes, Canrif o Hanes, Hanes yr Achos Methodistaidd yn Nhanygrisiau, 1809 – 1909, (Blaenau Ffestiniog, 1909), 65. Am ‘lewygu’ gw., ibid,, 63, Owen Thomas & J. Machreth Rees, Cofiant y Parchedig John Thomas. D. D. Liverpool. (Llundain, 1898), 167. J. J. Morgan, Hanes Dafydd Morgan a Diwygiad ’59, (Cyhoeddedig gan yr Awdur, 1906), 96, 100, 377-8.
7. Jacob Treharne, Hanes Eglwys Annibynol Ebenezer, Aberdar, (Aberdar, 1898), 18, 35.
8. Robert Edwards, Atgofion neu Hanes Crefydd yn Llanfechell a’r Cylch, (Dinbych, 1910), 37.
9. H. Jones, Cofiant y Parch. W. Roberts. Amlwch, (Llannerch-y-medd, 1869), 22.

Gadael ymateb i Geraint Diddymu ymateb