Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Nadolig

  • Baban

    Mae’r Nadolig yn ŵyl ryfedd o ran y gwrthgyferbyniadau sy’n perthyn iddi.  Mae’n llawn o’r materol a’r ysbrydol,  y tragwyddol a’r meidrol, goleuni a thywyllwch,   rhialtwch bas a llawenydd dwfn.  Yn y golygyddol hwn rwyf am ddilyn un edefyn ym mrodwaith goludog hanes geni ein Gwaredwr Iesu. Syfrdanol Yr hyn sy’n amlwg syfrdanol yn hanes Continue reading

  • Llyfrau, Fideos a blogiau

    Mae’r Nadolig yn agosáu. Dyma i chi ddwy gyfrol sy’n rhoi’r cefndir i garolau. Rhain yn edrych yn ddifyr. Deuthum ar eu traws wrth glirio’r stydi. Fideos Ychydig flynyddoedd yn ôl rhoddais dro ar gyfansoddi carol Plygain, dyma oedd y canlyniad Ond mae hon yn hyfryd wrth feddwl am yr ymgnawdoliad Neu beth am hon? Continue reading

  • Wele Cawsom y Meseia

    Wele cawsom y Meseia……. meddai Dafydd Jones o Gaeo (1711-77) yn ei garol boblogaidd.  Ond beth yw tarddiad y gair Meseia? Meshiach yw’r ynganiad Hebraeg a chyfieithiad ohono i’r Groeg yw Christos – Crist. Felly, ystyr Iesu Grist yw Iesu’r Meseia. Mor aml mae pobl yn credu mai cyfenw Iesu yw Crist, Mr. Crist! Ystyr Continue reading