-
Tragwyddoldeb yn ein calonnau – cyfleu tragwyddoldeb trwy’r materol
Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o’r dechrau i’r diwedd. – Y Pregethwr 3:11 Yn yr adnod hon yn Llyfr y Pregethwyr fe gyflwynir y gwirionedd fod pob person gyda thragwyddoldeb yn rhan o’u gwneuthuriad. Mae pawb Continue reading
-
Adolygiad o Hen Gapel Llanbrynmair – Iorwerth C. Peate.
Cyhoeddwyd y gyfrol hon ym 1939 fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant yr achos. Golygwyd gan Iorwerth Cyfeiliog Peate, curadur cyntaf Amgueddfa Werin Sain Ffagan, ac un a hanai o Lanbrynmair. Prynais y gyfrol yn benodol er mwyn dysgu sut oedd eglwys annibynnol Llanbrynmair yn gweithredu gan ei bod yn ystyried ei hun yn un gynulleidfa Continue reading
-
Y Seithfed Wythnos 15 – 21 Hydref
Os wyt ti am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Yr wythnos hon eto wedi bod yn un anodd oherwydd gwaeledd difrifol fy mam yng nghyfraith. Rydym yn ymweld â hi yn ddyddiol yn yr ysbyty fwy nac unwaith. Ar ddydd Sul Continue reading
-
Y Chweched Wythnos 8 – 14 Hydref
Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Bu’r chweched wythnos yn un anodd oherwydd amgylchiadau teuluol. Gan fod fy mam yng nghyfraith – sydd yn 94 oed – yn ddifrifol wael, mae wedi golygu ymweliadau dyddiol â’r Ysbyty. O ganlyniad Continue reading
-
Y Bumed Wythnos 1 – 7 Hydref 2023
Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com (Hoffwn nodi’r rheswm pam fy mod yn rhoi hanes yr addoliad mor fanwl pob wythnos. Wrth astudio ar gyfer fy noethuriaeth, edrychais yn fanwl ar addoliad Ymneilltuwyr Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Continue reading
-
Breuddweidio Breuddweidion
Adolygiad o “Tell me the Dream Again” gan Tasha Jun Mae Tasha Jun yn Americanwr o dras Coreaidd. Roedd ei thad yn Americanwr gwyn oedd yn gweithio yn y llynges a’i mam o Gorea. Tyfodd i fyny felly gyda thyndra yn ei henaid o fod yn berson oedd a dwy hil yn rhan o’i chyfansoddiad. Continue reading
-
Paid â Chau y Drws
Mae cruglwyth o weithgareddau’n cael eu trefnu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel ei bod, gwaetha’r modd, yn amhosibl mynychu hyd yn oed ddeg y cant ohonynt. Felly, mae’n rhaid dewis a dethol yn ofalus beth i’w mynychu. Gan i mi fethu cyrraedd Maes y Brifwyl ym Modedern mewn pryd i weld aduniad y grŵp Continue reading
-
Y Bedwaredd Wythnos 24 – 30 Medi 2023
Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Mae hon wedi bod yn wythnos wahanol oherwydd bod cymaint o farwolaethau wedi bod. Da ni wedi colli tri aelod annwyl a ffyddlon o deulu Ebeneser sef, Margaret Jones, Mair Bennett – yn Continue reading
-
Ar y dydd hwn…. Hydref
2 Hydref bu farw William Rhys Nicholas, 1914–96, gweinidog (Annibynwyr), emynydd a bardd ym Mhorthcawl. “Mae’r Haleliwia yn fy enaid i…….” 3 Hydref 1226 bu farw Ffransys o Asisi. 4 Hydref 1669 bu farw Rembrandt Harmenszoon van Rijn, yr arlunydd. 5 Hydref 1814 bu farw Thomas Charles o’r Bala. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil. Continue reading
-
Gwenllïan
Roedd ei thad Harri Edwards – o’r Felinheli – yn arfer darllen chwedlau Cymreig mewn Cymraeg canol iddi hi a’i brawd Tom cyn iddynt fynd i gysgu! Ni chyfarfyddais erioed â’m taid Harri Edwards gan iddo farw yn y 50au, ond clywais o fwy nac un cyfeiriad ei fod yn gymeriad hynod. Bu am gyfnod Continue reading
