-
Siarad Wast
Erbyn hyn rwyf wedi byw talp helaeth o fy mywyd i lawr yma yn y de. A bod yn fanwl gywir y mae hynny’n 30 mlynedd eleni. Nid wy’n credu, er i’r holl flynyddoedd wibio heibio, fy mod yn swnio fel un o frodorion y deheudir, a bellach, go brin y bydd fy acen yn Continue reading
-
Dr.Abraham Rees, 1743 – 25
Dilyn Llinyn Yn ddiweddar darllenais eto “Cofiant y Parch. Lewis Rees 1710 – 1800), gan J. Roberts (Llanbrynmair), gyda chwanegiadau gan John Davies,” (Abertawe, E. Griffiths, 1852). Bu’r gwron hwn yn weinidog ar achos yr Annibynwyr yn Llanbrynmair a Mynyddbach, Abertawe. Roedd yn efengylydd mentrus a sefydlodd nifer o achosion yn ystod ei weinidogaeth yn Continue reading
-
Gwneuthurwyr Heddwch
Teimladau cymysg sydd gen i am Sul y Cofio. Ar un llaw rwy’n sylweddoli yr angen i deuluoedd alaru a chofio am anwyliaid fu farw mewn rhyfeloedd ar hyd a lled y byd a sylweddoli’r aberth a wnaed ganddynt. Ymunaf gyda hwy yn eu colled a’u hiraeth. Ond ar y llaw arall rwy’n anghyffyrddus gyda’r Continue reading
-
Het Wen Ar Ei Ben
Cyrhaeddodd Dafydd Williams, (1779 – 1874) Troedrhiwdalar, ben ei daith yn Aberhonddu yn drybola ac yn wlyb dat ei groen. Roedd wedi teithio trwy ddannedd gwynt Mynydd Epynt a’i law mân llorweddol. Roedd ei draed yn ddiffrwth, ei drwyn yn goch a’i gefn yn llaith gan fod yr eirlaw wedi treiddio trwy haenau dyfnaf ei Continue reading
-
Chwyldro Digidol
Yn hanes dynoliaeth y mae nifer o chwyldroadau byd-eang wedi digwydd. Datblygiad amaethyddiaeth a’r ddawn i gynhyrchu cnydau, yr aroleuo a hefyd y chwyldro diwydiannol, dyfodiad y trên, trydan ac awyrennau . Ond yn ddiweddar rydym ni fel cenhedlaeth wedi bod yn dystion i chwyldro arall sef y Chwyldro Cyfrifiadurol neu ddigidol. Pa gyfeiriad? Un Continue reading
-
Gweddïwch yn Ddi-baid
Wrth weld a chlywed y trychinebau sydd yn digwydd led-led y byd sylweddolwn yr angen sydd i weithredu ac i weddio dros gyfiawnder a harmoni rhwng cenhedloedd a’i gilydd a charfannau sy’n gwrthdaro o fewn ein cymdeithas. Ym aml teimlwn yn gwbl ddi-ymadferth i’r anhrefn a’r a wewlwn ond un peth y gallwn ei wneud Continue reading
-
Terfysgoedd
Y mae’r terfysgoedd sydd wedi digwydd mewn trefi a dinasoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ddiweddar wedi bod yn destun braw i bawb ohonom. Ar y newyddion dyddiol ac ar fideos ar y cyfryngau cymdeithasol fe welwyd pobl – dynion gwyn gan fwyaf – yn ymddwyn yn gwbl anwaraidd tuag at eraill ac yn Continue reading
-
Trosglwyddo’r Fantell
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod yn darllen cofiannau gweinidogion oedd yn byw oddeutu 1800 – 1840. Cyfnod yn ein hanes oedd rhwng cyffro’r Diwygiad Methodistaidd a thyfiant mawr Cristnogaeth yng Nghymru ac “oes aur” Ymneilltuaeth yn ystod oes Fictoria. Hyd yn hyn rwyf wedi darllen cofiannau, Lewis Rees, (1710 – 1800) William Continue reading
-
Dysgu o’n Gorffennol
Cychwyn Achosion Newydd Afraid i mi nodi ar gychwyn yr erthygl hon nad peth newydd yw cychwyn Eglwysi newydd yng Nghymru. Roeddem yn arfer bod yn giamstars ar yr arfer. Er, wrth glywed ymateb rhai pobl i’r bwriad o gychwyn cynulleidfa newydd byddech yn tybio ei bod yn weithred an-Feiblaidd. “Duw a’n gwaredo, meddent, “rhag Continue reading
-
Eglwys-bach ym Mhontypridd
Y Spurgeon bach Os ewch chi heibio’r bont fyd-enwog ym Mhontypridd ar y ffordd i Ynysybwl fe welwch ar y dde feddygfa – a fu unwaith yn gapel Wesleyaidd – gyda’r enw Eglwysbach ar ei dalcen mewn llythrennau bras. Pentref yn Nyffryn Conwy yw Eglwysbach, felly sut ar wyneb y ddaear fod yr enw ar Continue reading
