Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Myfyrdodau

  • Aer-pod

    Mae technoleg wedi dod yn rhan allweddol o’n bywydau ac mae pawb ohonom yn ei ddefnyddio yn ddyddiol. Un teclyn glasddant poblogaidd yw Air-Pods sy’n ein galluogi i wrando ar gerddoriaeth a sgyrsiau. Mae nifer o nodweddion rhyfeddol i’r cibion (pods) hyn yn cynnwys Technoleg Tawelu Sŵn (Noise Cancellation Technology). Pwrpas hwn yw tawelu’r sŵn Continue reading

  • Yr Ysbryd Glân

    Ers milenia roedd Duw wedi addo, trwy genedl yr Iddewon, waredwr i ddynoliaeth. Person fyddai’n dod a iachawdwriaeth a theyrnas Dduw yn ei grym i blith dynoliaeth. Dyma a ddigwyddodd yn yr Arglwydd Iesu. Paratôdd ffordd i gymodi pobl â Duw, pobl gyda’i gilydd gan ein galluogi i fyw a hyrwyddo Teyrnas Dduw sy’n llawn Continue reading

  • Atgyfodiad

    Pam fod yr atgyfodiad yn bwysig. Dyma 4 peth. Yn y 15fed bennod o’i Lythyr Cyntaf at y Corinthiaid y mae Paul yn ysgrifennu am yr atgyfodiad yn benodol ac yn yr adnodau agoriadol fe bwysleisia mai newyddion da yw’r Efengyl Gristnogol sydd yn achub pobl o golledigaeth. Fel y gwyddoch ystyr y gair Groeg Continue reading

  • Y Groes a’r Atgyfodiad

    Yn llyfr Genesis fe gawn hanes dramatig ymadawiad cenedl Israel o’r Aifft a hynny trwy ymyriad goruwchnaturiol Duw yn eu hanes. (Exodus 12) Roeddent yn gaeth, yn orthrymedig a diobaith. Eto, roedd gan Dduw ddyfodol gwahanol ar gyfer ei bobl ac yn rhydd y daethant. Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi gadael ei ôl yn Continue reading

  • Gŵyl Ddewi

    Oddeutu 1653 fe argraffwyd y “Llythyr i’r Cymru Cariadus” gan Morgan Llwyd. Wrth ei ddarllen fe ddaw’r darllenydd yn fuan i weld ei fod yn pwysleisio dau beth. Yn gyntaf, roedd Llwyd yn ymwybodol iawn o’i Gymreictod o’r iaith Gymraeg ac yr oedd yn caru ei bobl yn ddirfawr. Yn ei lythyr y mae’n cyfarch Continue reading

  • Celu Gwirionedd.

    Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn darllen am hanes Rwmania. Y prif reswm am hynny yw bod fy mab wedi priodi merch o Rwmania. Sylweddolais yn fuan na wyddwn unrhyw beth am ei chenedl. Felly, dyma fwrw ati i wneud y cwrs Rwmaneg ar Dualingo ac yr wyf ar hyn o bryd yn darllen “History Continue reading

  • Siarad Wast

    Erbyn hyn rwyf wedi byw talp helaeth o fy mywyd i lawr yma yn y de. A bod yn fanwl gywir y mae hynny’n 30 mlynedd eleni. Nid wy’n credu, er i’r holl flynyddoedd wibio heibio, fy mod yn swnio fel un o frodorion y deheudir, a bellach, go brin y bydd fy acen yn Continue reading

  • Gwneuthurwyr Heddwch

    Teimladau cymysg sydd gen i am Sul y Cofio. Ar un llaw rwy’n sylweddoli yr angen i deuluoedd alaru a chofio  am anwyliaid fu farw mewn rhyfeloedd ar hyd a lled y byd a sylweddoli’r aberth a wnaed ganddynt. Ymunaf gyda hwy yn eu colled a’u hiraeth. Ond ar y llaw arall rwy’n anghyffyrddus gyda’r Continue reading

  • Adolygiad

    Even The Sparrow Even The Sparrow, A Pilgrim’s Guide to Prayer, Trust and Following the Leader gan Jill Weber. (2019, Muddy Pearl, Caeredin) Roedd hwn yn llyfr eithriadol o ddarllenadwy. Mae gan yr awdur ddawn ysgrifennu hynod grefftus a disgrifiadol heb fod yn or flodeuog. Ni synnwn pe bai maes o law yn ysgrifennu nofelau, Continue reading

  • Yr Atgyfodiad Mawr

    Ar ddydd Gwener y Groglith y mae’n sicr bod nifer ohonom wedi bod mewn gorymdaith gyda chyd-Gristnogion o amgylch eglwysi lleol neu i leoliad priodol. Ar y gorymdeithiau hynny rydym yn canolbwyntio ar farwolaeth aberthol yr Iesu trosom ar groes Calfaria. Yna, ar ddydd Sul y Pasg byddwn yn dathlu atgyfodiad bendigedig yr Arglwydd a’i Continue reading