Hanes
-
Ar y dydd hwn – Rhagfyr
Bu farw John Wyclif c.1330–1384, seren fore’r Diwygiad Protestannaidd ym mis Rhagfyr 1384. 2 Bu farw Michael Daniel Jones 1822–98, gweinidog (A), pregethwr, Prifathro Coleg Annibynnol y Bala, ac un o ysgogwyr y Wladfa ym Mhatagonia a chladdwyd ei weddillion ym mynwent yr Hen Gapel, Llanuwchllyn. Michael D. Jones. Llun:Wicipedia 2 Ganwyd Mary Mitchell Slessor Continue reading
-
Porthi a Gorfoleddu. Y Mwynhad Crefyddol 2.
Dyma ail ran yr erthygl sy’n sôn am rai o nodweddion addoliad ymhlith Cristnogion Cymru ar ganol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Llun gan Mic Narra ar Unsplash Porthi a Bloeddio (Porthi oedd yr arfer cyffredin mewn oedfa lle’r oedd pobl yn y gynulleidfa yn gweiddi yn ddigymell gan ddweud pethau fel “Diolch iddo. Ar Continue reading
-
Lewis Rees 1710 -1800 – Arloeswr
Adolygiad o Cofiant Lewis Rees, (Abertawy, 1852), John Davies, Mynyddbach Bu Lewis Rees (1710 – 1800) yn weinidog i Iesu Grist mewn eglwysi annibynnol yn Llanbrynmair, Maes-yr-onnen a Mynydd-bach, Abertawe yn ystod ei oes faith. Llyfryn bach yw hwn 56 tudalen a brynais gan Dafydd Timothy, Siop y Morfa, Y Rhyl am bris rhesymol. (Os Continue reading
-
Plannu Eglwysi Newydd –
Gwersi o’r gorffennol Llun gan Trent Erwin ar Unsplash Cychwynnodd y rhan fwyaf o eglwysi Ymneilltuol Cymru ar ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif mewn cartrefi, tyddynnod a ffermydd. Roedd hyn yn wir yn hanes pob un o’r traddodiadau Cristnogol. Afraid dweud ar ddechrau’r 19eg ganrif y cynhelid mwy o gyfarfodydd Cristnogol mewn tai nac Continue reading
-
Ar y Dydd Hwn Tachwedd
2 Bu farw James Hughes, ‘Iago Trichrug’, (1779-1844), roedd yn wreiddiol o ardal Aberaeron, gweinidog cyntaf Eglwys Jewin Llundain (MC), esboniwr Beiblaidd ac emynydd. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Bunhill Fields, Llundain. Cofeb James Hughes ym mynwent Bunhill, Llundain 3 Gŵyl marw Santes Gwenffrewi, c. 6ed ganrif. 3 Glaniodd John Eliot (1604–1690), Apostol i frodorion Continue reading
-
Calan Gaeaf 1517
Martin Luther a’r Diwygiad Protestannaidd Ym mis Ebrill 2016 fe gefais y fraint o fynd i gynhadledd “Ail-dafoli Protestantiaethau” yng nghryd y diwygiad Protestannaidd sef Wittenberg yn yr Almaen. Roedd yn brofiad rhagorol, nid yn gymaint y gynhadledd ei hun, ond o gael bod yn Wittenberg. Cawsom wefr aruthrol o droedio’r un llwybrau a Martin Continue reading
-
Wylo, Neidio a Gorfoleddu. Y Mwynhad Crefyddol 1.
Nodweddion Addoliad ganol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Wrth ymweld ag eglwysi sydd newydd eu plannu y mae arddull yr addoliad yn drawiadol. Y mae’n eithriadol o anffurfiol heb arlliw o “draddodiad Cristnogol.” Tueddant i ddefnyddio caneuon cyfoes wrth ganu, er bod rhai emynau traddodiadol yn cael eu defnyddio, ond eithriad yw hynny. Nid oes Continue reading
-
Ar y dydd hwn…. Hydref
2 Hydref bu farw William Rhys Nicholas, 1914–96, gweinidog (Annibynwyr), emynydd a bardd ym Mhorthcawl. “Mae’r Haleliwia yn fy enaid i…….” 3 Hydref 1226 bu farw Ffransys o Asisi. 4 Hydref 1669 bu farw Rembrandt Harmenszoon van Rijn, yr arlunydd. 5 Hydref 1814 bu farw Thomas Charles o’r Bala. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil. Continue reading
-
Dilyn Llinyn 5 – Mynwent Bunhill, Llundain
Mynwent yr Esgyrn Roedd Azariah Shadrach (1774 – 1844) oedd yn wreiddiol o Garndeifo-fach, Llanfair Nant y Gof, Sir Benfro yn dipyn o gymeriad. Gŵr ydoedd a garai ei Waredwr ac a oedd yn llawn brwdfrydedd i rannu’r newyddion da gyda’i gyd-ddyn. Efengylydd oedd, wrth reddf, ymhlith nifer o rai eraill yn ei gyfnod a Continue reading
-
Dilyn Llinyn 4
London Missionary Society a’r Brodyr Wesley Wrth baratoi gwasanaeth arbennig ar hanes y cenhadon Cymreig aeth i Fadagascar ym 1818 darllenais hanes sefydlu’r London Missionary Society ym 1795. Mudiad cenhadol rhyngenwadol ac arloesol oedd hwn a roddai flaenoriaeth i gyhoeddi Efengyl Iesu Grist gan ymwrthod â chyflwyno ffurf ar Eglwysyddiaeth yn y gwledydd lle roeddent Continue reading
