Erthgyl
-
Church Planter – Y Dyn
Adolygiad o Church Planter. The Man, The Message, The Mission, (Crossway, 2010), Darrin Patrick. Brwydrais i ddarllen y gyfrol hon oherwydd nad oedd yn cyfeirio llawer at blannu eglwysi sef y prif reswm pam yr oeddwn wedi ei benthyg. Tybiais y byddai llyfr gyda’r teitl Church Planter yn sbowtio yn helaeth am gychwyn achosion newydd. Continue reading
-
Calan Gaeaf 2023
Unwaith eto y mae nwyddau Halloween wedi ymddangos yn “frawychus” o niferus ar silffoedd ein siopau yn barod i “ddathlu” Calan Gaeaf. Maent yn ddigon i godi braw ar y dewraf ohonom. Y mae nifer o dai yma yng Nghaerdydd wedi eu haddurno gydag addurniadau tymhorol fel sgerbydau a gwe pry cop. Mewn un ardd Continue reading
-
Calan Gaeaf 1517
Martin Luther a’r Diwygiad Protestannaidd Ym mis Ebrill 2016 fe gefais y fraint o fynd i gynhadledd “Ail-dafoli Protestantiaethau” yng nghryd y diwygiad Protestannaidd sef Wittenberg yn yr Almaen. Roedd yn brofiad rhagorol, nid yn gymaint y gynhadledd ei hun, ond o gael bod yn Wittenberg. Cawsom wefr aruthrol o droedio’r un llwybrau a Martin Continue reading
-
Wylo, Neidio a Gorfoleddu. Y Mwynhad Crefyddol 1.
Nodweddion Addoliad ganol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Wrth ymweld ag eglwysi sydd newydd eu plannu y mae arddull yr addoliad yn drawiadol. Y mae’n eithriadol o anffurfiol heb arlliw o “draddodiad Cristnogol.” Tueddant i ddefnyddio caneuon cyfoes wrth ganu, er bod rhai emynau traddodiadol yn cael eu defnyddio, ond eithriad yw hynny. Nid oes Continue reading
-
Paid â Chau y Drws
Mae cruglwyth o weithgareddau’n cael eu trefnu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel ei bod, gwaetha’r modd, yn amhosibl mynychu hyd yn oed ddeg y cant ohonynt. Felly, mae’n rhaid dewis a dethol yn ofalus beth i’w mynychu. Gan i mi fethu cyrraedd Maes y Brifwyl ym Modedern mewn pryd i weld aduniad y grŵp Continue reading
-
Gwenllïan
Roedd ei thad Harri Edwards – o’r Felinheli – yn arfer darllen chwedlau Cymreig mewn Cymraeg canol iddi hi a’i brawd Tom cyn iddynt fynd i gysgu! Ni chyfarfyddais erioed â’m taid Harri Edwards gan iddo farw yn y 50au, ond clywais o fwy nac un cyfeiriad ei fod yn gymeriad hynod. Bu am gyfnod Continue reading
-
Cwestiwn Cyson 2
Bythefnos yn ôl ysgrifennais bwt am y cwestiwn hwn sy’n cael ei ofyn yn gyson i Gristnogion Cymraeg eu hiaith a dwi’n siŵr i bawb sy’n tystio i Iesu Grist trwy gyfrwng iaith leiafrifol. “Why don’t you hold your services in English, that is the lingua franca of Wales?” Yn yr erthygl gyntaf atebais y Continue reading
-
Cwestiwn Cyson
Yn fy nodiadau am yr wythnos gyntaf cyfeiriais at y ffaith fod rhywun wedi gofyn y cwestiwn hwn i mi. “Why don’t you hold your services in English, that is the lingua franca of Wales?” Gwnaeth hynny’n gwbl ddiffuant ac heb unrhyw falais yn ei lais ac ar yr achlysur hwn atebais y cwestiwn mor Continue reading
