Dim Categori
-
Cyfathrebu
Fe fu Vikki a finnau am ychydig ddyddiau ar ddiwedd mis Awst yn ninas fawr Llundain. Byddwn yn hoff o fynd yno oherwydd yr amrywiaeth gweithgareddau a golygfeydd. Mae pethau newydd i’w gweld ar bob tro. Ymhlith pethau eraill buom, yn addoli yn Castle Street, edrych ar adeiladau mawreddog y ddinas o do 120 Fenchurch Continue reading
-
Megis Dŵr
Tros yr haf fe gefais gyfle i ddarllen nifer o gyfrolau amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd rhai ohonynt yn ysgafn ac eraill yn ffeithiol. Dyma roi syniad i chi o rai o’r llyfrau ddarllenais. The Church Jesus Prayed For gan Michael Cassidy; Billy Summer gan Stephen King; Gras, Gobaith a Gogoniant gan D. Continue reading
-
Chwalfa
Golygyddol Y Tyst Cyfrol 158 Rhif 30 Gorffennaf 24, 202550c. Mae pawb ohonom sydd wedi bod yn rhan o’r bywyd Cristnogol Cymraeg yn ystod y 50 mlynedd diwethaf yn dystion i newid enfawr. Bellach mae’r hyn sy’n digwydd yn ein plith yn chwalfa. Aethom o fod yn niferus, llwyddiannus a dylanwadol i fod yn griw Continue reading
-
Hiliaeth
Golygyddol yn Y Tyst – (Cyfrol 158 Rhif 25 Mehefin 19, 2025) Yr wythnos hon y mae terfysgoedd hiliol yn Ballymena, Sir Antrim, Gogledd Iwerddon. Ymosodwyd ar dai lle mae mewnfudwyr yn byw, taflwyd cerrig a bomiau petrol; llosgwyd rhai o’r tai yn ulw; y mae hyd at 32 o heddweision wedi eu hanafu a Continue reading
-
Ymneilltuaeth Wrecsam – Bro’r Eisteddfod
Y mae hanes Ymneilltuaeth yn Wrecsam a Bro Maelor yn mynd ôl i gyfnod y Piwritaniaid. Dywedir mai pregethu grymus Walter Cradoc – ym 1634 – 35 – ddylanwadodd ar y rhai hynny sefydlodd yr achos cyntaf yn Wrecsam maes o law ac un o’r cyfryw rai oedd Morgan Llwyd o Wynedd. Yn wir fe Continue reading
-
Y Groes a’r Atgyfodiad
Yn llyfr Genesis fe gawn hanes dramatig ymadawiad cenedl Israel o’r Aifft a hynny trwy ymyriad goruwchnaturiol Duw yn eu hanes. (Exodus 12) Roeddent yn gaeth, yn orthrymedig a diobaith. Eto, roedd gan Dduw ddyfodol gwahanol ar gyfer ei bobl ac yn rhydd y daethant. Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi gadael ei ôl yn Continue reading
-
Gwneuthurwyr Heddwch
Teimladau cymysg sydd gen i am Sul y Cofio. Ar un llaw rwy’n sylweddoli yr angen i deuluoedd alaru a chofio am anwyliaid fu farw mewn rhyfeloedd ar hyd a lled y byd a sylweddoli’r aberth a wnaed ganddynt. Ymunaf gyda hwy yn eu colled a’u hiraeth. Ond ar y llaw arall rwy’n anghyffyrddus gyda’r Continue reading
-
Het Wen Ar Ei Ben
Cyrhaeddodd Dafydd Williams, (1779 – 1874) Troedrhiwdalar, ben ei daith yn Aberhonddu yn drybola ac yn wlyb dat ei groen. Roedd wedi teithio trwy ddannedd gwynt Mynydd Epynt a’i law mân llorweddol. Roedd ei draed yn ddiffrwth, ei drwyn yn goch a’i gefn yn llaith gan fod yr eirlaw wedi treiddio trwy haenau dyfnaf ei Continue reading
-
Gweddïwch yn Ddi-baid
Wrth weld a chlywed y trychinebau sydd yn digwydd led-led y byd sylweddolwn yr angen sydd i weithredu ac i weddio dros gyfiawnder a harmoni rhwng cenhedloedd a’i gilydd a charfannau sy’n gwrthdaro o fewn ein cymdeithas. Ym aml teimlwn yn gwbl ddi-ymadferth i’r anhrefn a’r a wewlwn ond un peth y gallwn ei wneud Continue reading
-
Yr Atgyfodiad Mawr
Ar ddydd Gwener y Groglith y mae’n sicr bod nifer ohonom wedi bod mewn gorymdaith gyda chyd-Gristnogion o amgylch eglwysi lleol neu i leoliad priodol. Ar y gorymdeithiau hynny rydym yn canolbwyntio ar farwolaeth aberthol yr Iesu trosom ar groes Calfaria. Yna, ar ddydd Sul y Pasg byddwn yn dathlu atgyfodiad bendigedig yr Arglwydd a’i Continue reading
