Tros yr haf fe gefais gyfle i ddarllen nifer o gyfrolau amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd rhai ohonynt yn ysgafn ac eraill yn ffeithiol. Dyma roi syniad i chi o rai o’r llyfrau ddarllenais. The Church Jesus Prayed For gan Michael Cassidy; Billy Summer gan Stephen King; Gras, Gobaith a Gogoniant gan D. Densil Morgan; Rather be the Devil gan Ian Rankin; Anfarwol gan Peredur Glyn a’r Tŵr gan Rebecca Thomas. Oherwydd fy niddordeb mewn hanes a chenhadaeth gyfoes y gyfrol wnaeth fwyaf o argraff arnaf oedd “Mission is The Shape of Water – Learning from the past to inform our role in the world today” gan Michael Frost. Cefais fwynhad, addysg ac ysbrydoliaeth o ddarllen y llyfr. Gadewch i mi rannu gyda thi grynodeb byr o’r cynnwys. Y syniad sylfaenol yw bod rhaid i Gristnogion addasu eu tystiolaeth i’r diwylliant y maent yn rhan ohono. Nid yw arddull cenhadu un cyfnod o reidrwydd yn gweithio mewn cyfnod arall.

Penodau
Ynddo mae 10 pennod sy’n cyflwyno deg siâp ar y genhadaeth Gristnogol e.e., God Slaying, Wordsmithing, Unearthing. Mae’r penodau cyntaf yn olrhain natur cenhadaeth Gristnogol trwy’r canrifoedd, o ddyddiau’r Apostolion a’r eglwys fore, y seintiau Celtaidd hyd yr ugeinfed ganrif. Mae’n enghreifftio nid yn unig o gyd-destun Protestannaidd ond o bob traddodiad Cristnogol. Ym mhob pennod y mae’n dadansoddi’r dulliau a ddefnyddiwyd i gyflwyno’r Newyddion Da ac yna fe geisia ddangos eu perthnasedd i’n cyfnod ni gan eu cymhwyso i’r presennol. Mae cymaint o gyfoeth yn y llyfr hwn fel y bydd rhaid ei ddarllen eto.
Trawiadol
Y mae 3 phwyslais wedi gwneud argraff arnaf wrth ei ddarllen, sef,
- Y mae’n mynd y tu hwnt i ffiniau Cristnogaeth Saesneg ei iaith ac Ewropeaidd ei diwylliant gan bwysleisio’r angen i genhadaeth fod yn frodorol gan adlewyrchu’r cyd-destun cynhenid.
“As the head of the Church Missionary Society, Henry Venn developed a new theory – namely that the establishment of a genuinely indigenous church was a key goal of Christian missions. Instead of plant ing Western churches in Africa or India or Chinese soil, CMS missionaries were told their goal was to foster localized forms of Christianity.” (Tud. 124 – 7)
- Y mae’n condemnio cenhadaeth Gristnogol imperialaidd sydd wedi niweidio cenhedloedd ar hyd a lled y byd. Yn wir, fe â ymhellach gan ddweud y gall rhai mynegiannau Cristnogol fod yn hiliol.
“Some (Christian missionaries) came to trust in the “manifest destiny” of Western nations, adopting the conviction that God, in his providence, had chosen the Western nations, because of their unique qualities, to be the standard bearers of his cause even to the uttermost parts of the earth” (Tud. 94)
- Y mae’n yn ein hannog fel Cristnogion i gyd-destunoli ein tystiolaeth yn y fan lle rydym gan ailgloriannu ein diwylliant. Mae ei sylwadau yn yr wythfed bennod, sef, Contextualizing, yn hynod o ddiddorol a pherthnasol i Gymru. Beth yw anghenion pobl a beth sy’n eu gwneud yn ddedwydd? Ydy pobl yn deall ein ffordd o siarad ac ymddwyn? A ydym ni wedi dadansoddi diwylliant siaradwyr Cymraeg heddiw? Beth sydd yn bwysig iddynt? Beth maent yn ei feddwl am Dduw? Beth sydd yn eu gwneud yn Gymry? Sut allwn ni eu gwasanaethu a chyfoethogi eu bywydau? Mae’n pwysleisio’r angen i Gristnogion ail asesu eu dulliau o rannu’r newyddion da gan ystyried y cyd-destun diwylliannol cyfoes er mwyn gwneud y gwaith yn effeithiol. Dyma pam fod cenhadu megis dŵr. Wrth gwrs, nid yw’r ffeithiau sylfaenol am Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr yn newid, ond rhaid i’r dulliau o gyflwyno newid ac addasu.
Hoffwn dy annog, os oes gennyt ddiddordeb mewn cenhadaeth ac ymestyn allan gyda’r newyddion da am Iesu i ddarllen y llyfr hwn. Wyddost ti beth? Yr hyn fyddai’n wych fyddai cael llyfr tebyg i hwn mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Mae wirioneddol yn drist nad oes rhagor o ysgrifennu sylweddol yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ar faterion Cristnogol, diwinyddol ac athrawiaethol. Oherwydd nid yw yn ddigon i dderbyn dim ond sylwadau a chysyniadau gan Gristnogion o’r tu allan i’n diwylliant ni. Onid yw’r Ysbryd Glân yn gweithio ymhlith Cristnogion Cymraeg hefyd gan roi arweiniad iddynt gymhwyso’r Efengyl i’n pobl mewn ffordd benodol ac unigryw.
