Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Cyfathrebu

Fe fu Vikki a finnau am ychydig ddyddiau ar ddiwedd mis Awst yn ninas fawr Llundain. Byddwn yn hoff o fynd yno oherwydd yr amrywiaeth gweithgareddau a golygfeydd. Mae pethau newydd i’w gweld ar bob tro. Ymhlith pethau eraill buom, yn addoli yn Castle Street, edrych ar adeiladau mawreddog y ddinas o do 120 Fenchurch Street; Gyrcin, Y Shard, Walkie Talkie, San Steffan a’r London Eye yn llygadu’r ddinas ar lan yr Afon Tafwys. Buom yn talu gwrogaeth i Catrin Glyndŵr trwy ymweld â’r gofeb sydd iddi mewn cilfach ddinod yn Salters Court oddi ar Canon Street cyn mynd i gopa Bryn Briallu.

Aethom ar y Northen Line ddu i fyny i Camden.  Cwmwd yw hwn lle mae cymysgfa ryfeddol o ddiwylliannau yn cyd- gyfarfod gan lenwi’r palmentydd gyda llif o bobl. Ceir arogleuon Murg Kari a mwg drwg yn sawru’r aer. Gwahoddir fforddolion i gyfrannu punt er mwyn meddwi’r “pync”  a chlywir llais efengylydd yn galw ar y torfeydd i gredu yn Iesu. Hwn yw un o’r llefydd mwyaf unigryw ac amgen ei natur yng ngwledydd Prydain, fe gredaf.

Camden Town

Wrth adael tywyllwch gorsaf danddaearol Camden i oleuni’r stryd uwchben cyfarchodd gŵr mawr o dras Affricanaidd fi yn llon. “You’ve dropped something”, meddai.  Edrychais i lawr a dywedodd, “It’s your smile.”  Wel, dyna un ffordd o dynnu sylw. Gweithio yr oedd i elusen sy’n ceisio atal pobl ifanc rhag cario cyllyll. Y mae trywanu’n broblem fawr yn Llundain a nifer gynyddol o ieuenctid yn cario cyllyll fel rhan o’u delwedd. Dangosodd y creithiau oedd ganddo ar ei wyneb o ganlyniad i ymosodiadau. Siaradai’r gŵr ifanc fel melin bupur, yn fan ac yn fuan, gydag acen gref a geirfa ei ddiwylliant a’i genhedlaeth. Yr oedd y gwaith a gyflawnai’r elusen yn rhagorol. Buom yn sgwrsio am rai munudau. Wrth wrando sylweddolais ynghanol y cwbl nad oeddwn ond yn deall hanner yr hyn a ddywedai ac ar ben hynny nid oedd ef ychwaith yn gyfarwydd â Saesneg oedd ag acen drom Gwynedd. George Bernard Shaw ddywedodd England and America are two countries separated by a common language Os gwir hynny am ddwy genedl, roedd yn wir am y sgwrs rhyngom yn Camden Town y dydd hwnnw. Nid oedd bai ar yr un ohonom. Roedd y diffyg deall yn deillio o’r ffaith ein bod o ddiwylliannau a chefndir gwahanol.

Annealladwy

Mor bwysig yw gallu cyfathrebu’n glir a mynegi ein hunan yn ddealladwy i eraill. Cwestiwn gyfyd heddiw yw a ydym ni fel Cristnogion Cymraeg ein hiaith yn cyfathrebu yn ddealladwy gyda phobl eraill o du allan i’n cylch Cristnogol, yn enwedig y genhedlaeth iau? Neu a ydym ni yn euog o greu ghetto Cristnogol caeedig sydd wedi datblygu ein hieithwedd a’n geirfa fewnol ein hunain? Ac o ganlyniad nid yw pobl yn deall yr hyn a ddywedwn.

Dwy Her

Teimlaf bod o leiaf ddwy her ieithyddol yn codi ar hyn o bryd. 1. Nid yw geiriau a thermau Cristnogol yn ddealladwy i bobl nad ydynt yn Gristnogion. I’r gymdeithas seciwlar gyfoes y mae geiriau fel Efengyl, addoli, iachawdwriaeth, gras, pechod, Gwaredwr, sancteiddrwydd, duwioldeb,  ayb yn ddi-ystyr. Golyga hyn fod yn rhai inni esbonio ein hunain mewn dull symlach ac yna os bydd pobl yn ymateb i’r newyddion da rhaid eu haddysgu yn y ffydd. “Gwenwch ddisgyblion” oedd gorchymyn yr Iesu. Felly, ar ôl i ni gredu ynddo – a chyn hynny mewn gwirionedd – y mae proses o addysgu yn digwydd   2. Yr ail her yw bod yr iaith Gymraeg yn newid, fel mae wedi gwneud erioed. Ond efallai bod y newid yn digwydd yn gynt yn y cyfnod hwn nac y bu. Un elfen o hyn yw ei bod yn raddol yn cael ei Seisnigo. Mae hyn yn peri loes inni, ond rhaid wynebu’r her.  Mae wedi mynd yn arfer cyffredin i ddefnyddio mwy a mwy o eiriau Saesneg. Problem dwyieithrwydd yw mai’r iaith fwyafrifol sy’n flaenaf. Ond ble mae’r ffin lle mae’r iaith Gymraeg yn peidio a bod gan fod cymaint o ddylanwadau Saesneg arni ? Y peth pwysig yw’r dystiolaeth Gristnogol, gwyddom hynny. Ond mae Duw wedi ein creu a’n mabwysiadu fel Cymry Cymraeg ac yn galw ar rai ohonom i dystio i’r diwylliant hwnnw yn bennaf.  Mae’n sefyllfa ddyrus ac amlochrog.

So, mae rîli’n bryd i ni newid yn lingustically er mwyn dangos pa mor ffantastic yw Iesu. Mae yn berson rîli ymezing sydd wedi marw dros ein sins oherwydd ei fod yn ein lyfio ni gymaint. Mae hynny mor cŵl. Ond os bydd hyn yn hapno fe ddaw point lle we might as well do everything yn Saesneg. Because everyone understands English. Init.

Trafodwch!

O.N. Yn hyn i gyd rhaid cofio bod yr Ysbryd Glân ar waith yn cyflawni bwriad Duw yn ein plith.