Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Hiliaeth

Golygyddol yn Y Tyst – (Cyfrol 158 Rhif 25 Mehefin 19, 2025)

Yr wythnos hon y mae terfysgoedd hiliol yn Ballymena, Sir Antrim, Gogledd Iwerddon. Ymosodwyd ar dai lle mae mewnfudwyr yn byw, taflwyd cerrig a bomiau petrol; llosgwyd rhai o’r tai yn ulw; y mae hyd at 32 o heddweision wedi eu hanafu a 6 o bobl wedi eu harestio. Golyga hyn bod rhai o fewn y gymuned yn byw mewn dychryn mawr rhag ofn y bydd y terfysgwyr yn ymosod arnynt hwy a’u teuluoedd oherwydd eu bod o dras gwahanol i’r mwyafrif. Yr hyn daniodd y terfysg, yn ôl y sôn, yw fod 2 fachgen ifanc, o dras Rwmanaidd, yn cael eu cyhuddo o dreisio merch. Mae’r digwyddiadau hyn yn ddrwg, yn drist ac yn niweidiol i gymunedau.

Agos i’r wyneb

Mae “hiliaeth” yn cyfeirio at wahaniaethu neu ragfarn yn erbyn unigolion neu grwpiau ar sail eu hil, ethnigrwydd neu lliw croen. Gall hyn gynnwys ymddygiad, polisïau neu agweddau sy’n creu anghydraddoldeb neu’n cynnal stereoteipiau negyddol. Mae hiliaeth wedi bodoli dros y milenia – fe’i gwelir yn y Beibl – ac onid hyn i raddau sy’n gyfrifol am yr holl ryfeloedd yn ein byd? Yn y cyd-destun hwn y mae un hil yn credu ei bod yn well na hil arall, neu ei bod wedi cael cam gan hil arall ac felly ymosodant yn giaidd ar ei gilydd. Gwaetha’r modd mae hiliaeth yn agos i’r wyneb ym mhob cymuned ac ym mhob unigolyn. Mae perygl i bawb ohonom syrthio i’r fagl o gasáu pobl nad ydynt fel ni ein hunain.   Y mae’n rhwydd i gynnau fflam atgasedd tuag at y rhai hynny sy’n wahanol i ni o fewn i’n cymunedau neu y tu allan. Gellir ymateb i un drwg weithred gan rhywun o’r hil honno ac yna ei chymhwyso i’r hil gyfan. Os yw un yn dreisiwr yna mae pawb ohonynt yn dreiswyr ac yn gyfrifol am ymddygiad yr unigolyn. Collir pen rheswm gan ymosod yn gorfforol ar y bobl o’r hil honno yn hytrach na delio gyda’r problem gododd neu’r drosedd gyflawnwyd. Yn yr un modd gyda phobl y cychod bach. Os yw un ohonynt yn leidr, mae pawb ohonynt ac felly rhaid gwahardd y cwbl ar sail eu bod yn aflan.  

Cyfryngau

Bellach y mae’r cyfryngau digidol yn rhoi llwyfan rhwydd i hau a hybu rhagfarnau, gwenwyn a chasineb. Mewn ychydig negeseuon gellir taflu tanwydd ar y tân a chasglu ciwed o bobl at ei gilydd, sy’n llyncu’r celwyddau rhagfarnllyd, fel eu bod yn barod i brotestio, ymosod neu derfysgu. Mae hwn bellach yn fyd gwahanol iawn i’r hyn fu heb y cyfryngau cymdeithasol. Rhaid wynebu hynny a cheisio ymateb gydag agweddau sy’n gwrthweithio’r drwg.   

Gochelwn rhag syrthio i’r duedd hon fel Cristnogion a Chymry. Mae’r Iesu yn ein dysgu i fod yn oddefgar tuag at eraill ac yn groesawus tuag at bobl sydd o hil wahanol. Y mae pob unigolyn wedi ei greu ar lun a delw Duw ac felly yn gydradd ac yn haeddu parch. Nid oes unrhyw hil yn well nac eraill. Yn wir, ynddo Ef yr ydym yn cael ein huno trwy ei gariad i fod yn un hil newydd, yn ddynoliaeth newydd.

Fel Cristnogion rhaid i ni ddysgu hyn i eraill a dangos esiampl ddaionus yn ein cymunedau. Gyda thwf agweddau asgell dde yng Ngwledydd Prydain a dylanwad drwg a chyfeiliornus Cristnogion Asgell Dde rhaid bod yn ochelgar a gwyliadwrus na lithrwn ninnau i fod yn hiliol a gwrthnysig.