Golygyddol Y Tyst Cyfrol 158 Rhif 30 Gorffennaf 24, 202550c.
Mae pawb ohonom sydd wedi bod yn rhan o’r bywyd Cristnogol Cymraeg yn ystod y 50 mlynedd diwethaf yn dystion i newid enfawr. Bellach mae’r hyn sy’n digwydd yn ein plith yn chwalfa. Aethom o fod yn niferus, llwyddiannus a dylanwadol i fod yn griw bychan sy’n cael eu hystyried ychydig bach yn od. Syrthiodd niferoedd aelodaeth eglwysi fel un o beli Galileo oddi ar dŵr Pisa ac y mae ein addoldai yn cau fel rhes o dominos yn cwympo y naill ar ôl y llall. Mae’n drist, mae’n dorcalonnus ond ai peth drwg yw hyn? Fy marn i bellach yw ei fod yn rhoi cyfle newydd sbon inni fel pobl Iesu Grist i feithrin bywyd newydd. Gadwch i mi esbonio ychydig.

Ail-asesu
Dranoeth y chwalfa, mae’n rhaid inni oedi, meddwl, trafod, pendroni a gweddïo am arweiniad yr Ysbryd. Ym mha ffordd y dylem weithredu nawr? Pa gynlluniau a blaenoriaethau dylem eu gosod yn eu lle? Er bod y llwybr wedi ei glirio o froc ein gorffennol, rydym angen doethineb i weld beth sydd werth ei gadw ac mae’r camau nesaf yn bwysig. Y mae cymdeithas wedi newid, rydym ni wedi newid, ond mae’r sylfaen yn ddigyfnewid sef Iesu Grist. Wrth ddod allan o siom ein methiant ymddangosiadol gwelwn bethau yn gliriach.
Cragen
Da chi’n gweld, pan mae Cristnogaeth yn troi yn grefydd ddefodol wag, credaf fod Duw yn atal ei law i raddau. Os mai nod amgen ein Cristnogaeth yw cynnal adeilad, edrych ar ôl yr organ, amddiffyn canu pedwar llais, cadw pethau fel yr oeddent – heb unrhyw sôn am Iesu Grist fel Gwaredwr ac Arglwydd buddugoliaethus – nid Cristnogaeth mo hynny ond cragen grefyddol. Gall Cristnogaeth fyw droi’n draddodiad gwag mewn cenhedlaeth os nad oes argyhoeddiad yn ein calonnau ynghyd â phresenoldeb yr Ysbryd Glân.
Enillgar
Mae Cristnogaeth yn seiliedig ar y ffaith fod pobl ym mhob cenhedlaeth yn dod i gredu yn Iesu, nid o ran etifeddiaeth, na dylanwad teuluol ond o ran argyhoeddiad personol. Darllenwch lyfr yr Actau i weld beth oedd yn digwydd yn y fan honno ymhlith y Cristnogion cynnar. Dywedodd Billy Graham un tro “God has no grand children.” Pan gollwn y weledigaeth mai rhan bwysig o’n gwaith yw cynorthwyo Duw i ennill pobl newydd i fod yn ddisgyblion i Iesu, rydym wedi colli un o gonglfeini ein ffydd. Rydym wedi dysgu yn ystod y degawdau diwethaf fod hyn yn wir a bod rhaid i’n pwyslais fel Cristnogion droi fwyfwy at efengyl a chenhadu gan fod yn enillgar yn ein gweithgareddau. A phan ddaw disgyblion newydd – ac fe ddeuant – mae’n rhaid i ninnau fod yn barod i’w caru, eu dysgu a’u hyfforddi yn y ffydd.
Credaf ein bod nawr yn camu allan o niwl y chwalfa i gyfnod newydd o antur a menter. Ceisiwn arweiniad yr Ysbryd Glân gan ymateb iddo yn ddiymdroi.
Edrychaf ymlaen at y blynyddoedd nesaf i weld beth sydd gan yr Arglwydd ar ein cyfer. Dewch gyda mi, mae dyddiau difyr i ddod.
