Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Gwneuthurwyr Heddwch

Teimladau cymysg sydd gen i am Sul y Cofio. Ar un llaw rwy’n sylweddoli yr angen i deuluoedd alaru a chofio  am anwyliaid fu farw mewn rhyfeloedd ar hyd a lled y byd a sylweddoli’r aberth a wnaed ganddynt. Ymunaf gyda hwy yn eu colled a’u hiraeth. Ond ar y llaw arall rwy’n anghyffyrddus gyda’r agweddau Prydeinllyd a militaraidd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad ac fel gweinidog ar eglwys rwy’n ymwybodol bod gwahanol farn am hyn o fewn i’r gynulleidfa.

Gwynfydau

Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn edrych yn fanwl ar y Gwynfydau ar ddechrau’r bumed bennod o Efengyl Mathew. Cefais gyfle i fyfyrio ar eu harwyddocad a chael bwyd ysbrydol maethlon wrth wneud hyn. Yr wythnos hon roeddwn yn cnoi cil dros “Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.” Wrth wneud hyn sylweddolais eto pa mor radical yw dysgeidiaeth Iesu. Mae’n aflonyddu arnom ac ar ein byd cyfoes rhyfelgar a threisgar.

Tangnefeddwyr

Ysgrifenna Mathew ar gychwyn y bumed bennod fel hyn, “Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny’r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. 2Dechreuodd eu hannerch a’u dysgu fel hyn:” Felly, roedd Iesu yn benodol yn annerch ei ddisgyblion yma ac yn eu dysgu am nodweddion teyrnas Dduw a’i phobl. Geiriau felly i ni ddilynwyr Iesu yn benodol yw “Gwyn eu byd y tangnefeddwyr.” Disgwylir i Gristnogion i fod yn dangnefeddwyr. Er fy mod yn hoff iawn o’r gair tangnefeddwyr nid yw yn cyfleu union ystyr y gair Groeg sy’n cael ei ddefnyddio yma sef eirenopoios. Mae dwy elfen i’r gair sef eirene sy’n golygu heddwch neu dangnefedd a poios sy’n golygu gweithredwr neu gwneuthurwr. Hyd y gwelaf i y mae cyfieithiad beibl.net yn agosach at yr ystyr Groeg sef, “Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr.” (Mae’r 4 Efengyl mewn Cymraeg byw 1971 yn debyg, sef, “Mor ddedwydd yw’r sawl sy’n gweithio am heddwch; fe’u gelwir yn blant i Dduw.”)

Mae cyflwr y Cristion i fod yn ehangach na phrofi phrofiad mewnol personnol o dangnefedd, yr hyn a gawn yn sicr trwy’r Arglwydd Iesu. Yma, disgrifir y Cristion fel un sy’n hyrwyddo heddwch trwy ei fuchedd, ei ymarweddiad a’i weithgarwch, a hynny yn deuluol, cymunedol a rhyngwladol.

Onest

Mae’r gwneuthurwr tangnefedd yn barod i fod yn onest. Os oes problem rhaid cydnabod hynny a gweithio ar sut i ddatrus y ffrae neu’r gwrthdaro. Mae’r proffwyd Eseciel yn ein rhybuddio yn erbyn pobl sy’n dweud, “heddwch” pan nad oes heddwch (13: 10). Felly ni allwn anwybyddu gwrthdaro a thensiwn gan smalio fod popeth yn iawn. Mae gormod o hynny’n digwydd o fewn i’n cymdeithas ar hyn o bryd i gymaint o gyfeiriadau. Ni allwn ychwaith anwybyddu sefyllfaoedd lle mae ein llywodraeth yn ymddwyn yn dreisgar ac yn defnyddio ein trethi i arfogi er mwyn ymosod.  Mae’r gwneuthruwr tangnefedd hefyd yn barod i wynebu poen ac anghyfleustra sy’n deillio o syrthio ar ei fai neu o geisio cymodi pobl sydd yng ngyddfau ei gilydd. Haws yw gadael i bethau fynd yn aml ond nid dyna’r ffordd Gristnogol o fyw.

Tywysog Tangnefedd

Yr esiampl odidocaf o hyn yw Iesu, tywysog tangnefedd. Dywedodd Paul amdano, “Oherwydd gwelodd Duw yn dda i’w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a’r pethau sydd yn y nefoedd. (Col 1:19-20)

Ni ddysgodd yr Iesu ei ddisgylion i ymarfogi a defnyddio arfau nac ychwaith i ladd y rhai hynny oedd yn anghytuo ag Ef. Ni chododd fyddin, na lleng na chatrawd ac nid arweiniodd ei bobl i’r gad. Ei arfau ef oedd cariad a maddeuant, gweddi a charedigrwydd a pharodrwydd i ddioddef er mwyn i eraill elwa o’i weithredoedd rhyfeddol.

Heddiw, mae dynoliaeth angen pobl sy’n gweithredu er mwyn dod a heddwch a chymod.

Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
                         yn aelwyd gyfannedd i fyw;
ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
                         dan goron bydd diben ein Duw.


Jane Ellis