Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dr.Abraham Rees, 1743 – 25

Dilyn Llinyn

Yn ddiweddar darllenais eto “Cofiant y Parch. Lewis Rees 1710 – 1800), gan J. Roberts (Llanbrynmair), gyda chwanegiadau gan John Davies,” (Abertawe, E. Griffiths, 1852). Bu’r gwron hwn yn weinidog ar achos yr Annibynwyr yn Llanbrynmair a Mynyddbach, Abertawe. Roedd yn efengylydd mentrus a sefydlodd nifer o achosion yn ystod ei weinidogaeth yn ne a gogledd Cymru. Yn y llyfryn fe gyfeirir at blant L. Rees gan ddweud,

“Oddeutu y flwyddyn 1740, pan o gylch ei 30 oed, priododd â Miss Esther Penry, (Yr oedd yn un o ddisgynyddion John Penri) merch i’r boneddŵr Abraham Penry, Maes-yr-onen, Swydd Faesyfed…….. Cawsant 6 o blant, sef Josiah, Abraham, Mari, Isaac, Jacob, ac Ebenezer…. Aeth Josiah yn forwr ac ni wybuwyd mwyach yn ei gylch, – Claddwyd Ebenezer yn y Mynyddbach, yn y flwyddyn 1791, yn 38 oed, – Claddwyd Mrs. Rees yn yr un bedd a’i mab, Ebenezer, Medi 5ed, 1794, – Claddwyd Mr. Rees yn yr un bedd, Mawrth 21, 1800.”

Ymhelaethir ar hanes ei fab Abraham,

“Ganwyd Abraham yn Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1743. Yr oedd tuag un-ar-bymtheg mlwydd oed, pan symudodd ei rieni i’r Mynyddbach; derbyniwyd ef yn aelod yn y lle hwn pan yn ieuanc. Buasai dan addysg ewythr iddo o offeiriad, er yn blentyn. Cafodd addysg Athrofaol, a’i urddo i waith y weinidogaeth, yn Eglwys Bresbyteraidd, Southwark, Llundain.”

Ennynodd hyn gywreinrwydd ynof ac felly aethum ati i dwrio ymhellach i hanes hynod Abraham Rees gan ddilyn y llinyn.

Addysg a Gyrfa

Fe gafodd A. Rees yrfa academaidd amrywiol a llewyrchus mewn ysgolion, a cholegau yn cynnwys ysgol Dr. Jenkin Jenkins yn Llanfyllin. Ym 1759 aeth i academi Coward, (Coleg Anghydffurfwyr), Byng Place, Llundain  gan ddod yn athro mewn mathemateg a diwinyddiaeth naturiol yno ym 1762. Ar 31 Ionawr 1775 cafodd D.D. gan Brifysgol Caeredin. Yn ddiweddarach, 1786-96, bu’n athro Hebraeg a mathemateg yn y New College, Hackney. Ei swydd gyntaf fel gweinidog oedd pregethu yn bythefnosol i gynulleidfa annibynnol yn Clapham, Llundain, fel cynorthwyydd i Philip Furneaux. Ym mis Gorffennaf 1768 olynnodd Henyr Read fel bugail eglwys Bresbyteraidd St.Thomas’, Southwark. (Y mae eglwys o’r enw St.Thomas’ yn Southwark heddiw ond tybiaf nad hon oedd yr un y gwasanaethodd A. Rees ynddi gan mai Anglicanaidd ydyw.) Ym 1783 fe symudodd i fod yn fugail ar gynulleidfa yn Old Jewry, Llundain, hyd ei farwolaeth. Ym 1809 adeiladwyd capel newydd ganddynt yn Jewin Street ddim yn bell o leoliad presennol eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Jewin (Crescent).

Golygydd

Ond daeth A. Rees yn enwog yn Lloegr oherwydd ei gyhoeddiadau niferus ac un yn arbennig. Ym 1776 cafodd wahoddiad gan berchnogion y Chambers’s Encyclopedia i arolygu diweddariad i’r cyhoeddiad sylweddol hwn. Fe gymerodd y gorchwyl hwnnw 9 mlynedd iddo ef a’i dîm i’w chwblhau ac fe’i cyhoeddwyd mewn pedair cyfrol ffolio. Oherwydd llwyddiant y gwyddoniadur penderfynodd y perchnogion ei gyhoeddi eto ond gyda llu o ychwanegiadau ac ymgymerodd A. Rees unwaith eto gyda’r gwaith aruthrol. Y tro hwn fe’i gelwid yn The New Cyclopaedia, neu’r Universal Dictionary of the Arts and Sciences. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf  o 45 ym 1802 a’r olaf ym 1820 ac fe’i hystyriwyd yn orchestwaith sylweddol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys 39 cyfrol o destun, 5 cyfrol o blatiau lluniau ac atlas. Gwerthid ef am £85 ac fe gostiodd £300,000 i gwmni Longmans ei gynhyrchu a’i argraffu. Yn y Cyclopaedia roedd oddeutu 39 miliwn o eiriau; tros 500 o erthyglau oedd yn cynnwys mwy na  10,000 o eiriau. Pan gwblhawyd y gwaith rhoddodd cwmni Longmans rodd o 300 gini i A. Rees. Cyhoeddodd lyfrau eraill hefyd yn cynnwys Practical Sermons (1809-12) a The Principles of the Protestant Dissenters Stated and Vindicated. Roedd yn falch iawn o’i bedair cyfrol Practical Sermons a gyhoeddwyd rhwng 1812 a 1821. O ran diwinyddiaeth roedd yn Ariad ac felly yn gwrthod fod Iesu yn un o’r Drindod ers tragwyddoldeb.

Teulu

Priododd Joanna Goldney (1740-1806) merch Edward Goldney a oedd yn awdur ac argraffydd ym Mryste. Cawsant dri mab a merch. Un o’i feibion oedd Nathaniel Penry Rees a bu farw ar yr 8fed o Orffennaf 1802 ar fordaith o Bengal i St. Helena.

Trwy gydol ei oes roedd ganddo ddiddordeb yn hynt a helynt Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Gan ei fod yn llywydd y ‘ Presbyterian Board,’ yn un o ymddiriedolwyr cronfa Dr. Williams, a noddai nifer o ysgolion yng Nghymru, yn weinyddwr y ‘regium donum,’ bu’n abl i roddi llawer o gymorth i weinidogion anghenus yng Nghymru. Ymweliad olaf Dr. A. Rees a Chymru oedd ym 1823 pryd y pregethodd yng nghapel annibynnol Heol Awst, Caerfyrddin. Bu farw yn Finsbury, 9 Mehefin 1825, a chladdwyd ef yng nghladdfa Bunhill Fields ar y 18fed o’r un mis.