Yn hanes dynoliaeth y mae nifer o chwyldroadau byd-eang wedi digwydd. Datblygiad amaethyddiaeth a’r ddawn i gynhyrchu cnydau, yr aroleuo a hefyd y chwyldro diwydiannol, dyfodiad y trên, trydan ac awyrennau . Ond yn ddiweddar rydym ni fel cenhedlaeth wedi bod yn dystion i chwyldro arall sef y Chwyldro Cyfrifiadurol neu ddigidol.

Pa gyfeiriad?
Un o’r pethau sy’n wahanol yn y chwyldro digidol yw nad ydym yn siŵr i ba gyfeiriad y bydd yn mynd nesaf. Mae elfennau eithriadol o fendithiol iddo gyda chyfathrebu rhwydd, ffynonellau rhannu a chanfod gwybodaeth chwim ac effeithiol. Y mae wedi agor y byd cyfan inni mewn ffordd nad oeddem yn gallu ei ddychmygu hyd yn oed 30 mlynedd yn ôl.
Mewn trawiad amrant
Ond wrth gwrs mae hyn i gyd wedi digwydd mewn cyfnod eithriadol o fyr. Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd yn y 70au roedd y cyfrifiaduron cyntefig oedd yno yn defnyddio cardiau i’w rhaglennu ac yn gweithio (yn eithriadol o hamddenol) trwy gysylltiad ffôn a chyfrifiadur y Brifysgol. Ystyriwch hyn. Ar y 6ed o Awst 1991 fe ryddhaodd Tim Berners-Lee yn rhad ac am ddim y cod oedd yn galluogi pobl i greu a gweld tudalennau ar y we ynghyd â’r porwr gwe cyntaf. Yna datblygodd pethau’n eithriadol o chwim. Ymddangosodd Google ar ein sgriniau am y tro cyntaf ar y 4ydd o Fedi 1998. Lansiwyd Facebook ar y 4ydd o Chwefror 2004 gan Zuckerberg, Eduardo Saverin, Andrew McCollum, Dustin Moskovitz, and Chris Hughes. Cofrestrwyd Youtube ar y 14eg o Chwefror 2005. Sefydlwyd Whatsapp ym mis Chwefror 2009 gan Brian Acton a Jan Koum. Gwelodd Instagram olau dydd ar y chweched o Hydref 2010 a dim ond ym mis Medi 2016 y ganwyd TikTok sy’n cael ei ddefnyddio bellach gan 1 biliwn o ddefnyddwyr yn fisol. A bellach y mae’r rhain ar ffonau symudol biliynau o bobl yn fyd-eang a’u dylanwad yn enfawr ar unigolion a chymdeithas.
Ar ben hynny ni all llywodraethau reoli beth yw’r cynnwys a roddir arnynt oherwydd eu bod yn gyfryngau agored, (H.y. gall unrhyw un roi deunydd arnynt yn ddilyffethair), maent hefyd yn croesi ffiniau rhyngwladol ac ni ellir eu ffrwyno. A thestun pryder i lawer yw’r dylanwad sydd ganddynt ar unigolion ac yn enwedig ar blant a phobl ifanc.

A.I.
Y datblygiad diweddaraf yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) sydd eto’n wych ac yn frawychus ar yr un pryd. Fe gymer amser i ddynoliaeth ymateb i hyn a gweld ei wir arwyddocâd. Yn sicr y mae yn newid ein ffordd o fyw. Dau gan mlynedd yn ôl roedd yn cymryd wythnosau i newyddion deithio o’r cyfandir i Gymru. Bellach gellir bod yn dyst trwy ffrwd byw i ddigwyddiadau mewn unrhyw ran o’r ddaear.
Sut y mae yn effeithio arnom?
Mae’r oblygiadau yn enfawr. Mae’r dechnoleg hon yn galluogi pobl gyda’r un diddordeb i gysylltu yn rhwydd gyda’i gilydd dros ffiniau gwledydd a chyfandiroedd gan greu cymunedau o bobl debyg. Bellach mae pobl weithiau gyda mwy o gonsyrn am yr hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill nac yn eu cymunedau eu hunain. Gall hyn fod yn beth da ac yn beth niweidiol. Am y tro cyntaf erioed gall dylanwad pobl o’r tu allan i’n cylch cydnabod fod yn drymach ar unigolion na’u heglwysi, eu cymuned a’u teuluoedd. Mae hyn yn eithriadol o bryderus wrth feddwl am blant ac ieuenctid. Ar hyn o bryd nid oes posibl ffrwyno’r deunydd ar ein teclynnau ac o ganlyniad gallwn weld, clywed a darllen pethau drwg, ffiaidd a niweidiol. Mae hyn yn peri gofid oherwydd gall y cyfryngau cymdeithasol danseilio teuluoedd, cymunedau, eglwysi a gwladwriaethau.
Algorithms
Yn gefn i’r modd y mae’r meddalwedd yn gweithio ar ein technoleg y mae’r algorithms. Mae’r rhain yn cywain gwybodaeth amdanom ac am ein harferion gwylio gan addasu’r hyn sydd yn ein ffrydiau fel ein bod yn derbyn pethau tebyg neu hysbysebion gan gwmnïau masnachol gyda chynnyrch y tybient sydd at ein dant. Trwy’r algorithms gall llywodraethau, cwmnïau neu ddrwgweithredwyr dargedu pobl er mwyn eu bwydo gydag egwyddorion, daliadau gwleidyddol neu gynnyrch i’w gwerth. Hefyd wrth gwrs y tebygolrwydd yw bod modd ysbio arnom trwy ein teclynnau yn ôl y galw ac o bosib y mae’r wybodaeth yn cael ei werthu i gwmnïau.
Doethineb
Ond beth yw ein hymateb fel Cristnogion i hyn? Rhaid bod yn synhwyrol gan sylweddoli na allwn wrthsefyll y don dechnolegol. Gallwn eu defnyddio fel cyfryngau i rannu’r newyddion da am Iesu a rhaid bod yn ddiwyd yn gwneud hynny. Ond hefyd rhaid bod yn ddoeth ac ar ein gwyliadwriaeth rhag dylanwadau drwg sy’n tanseilio ffydd ac sy’n groes i ewyllys Duw. Yn hyn o beth rhaid annog ein gilydd i osgoi treulio gormod o amser yn rhythu fel lloi ar bethau disylwedd a diffaith ar ein ffonau a’n cyfrifiaduron gan neilltuo amser i ddarllen ein Beibl, (gellir gwneud hynny ar y ffôn) gweddïo, addoli a gwasanaethu ein cyd-ddyn. Rhaid rhybuddio plant a phobl ifanc am y pethau drwg a niweidiol ar y cyfryngau hyn sy’n gallu eu niweidio.
Gwn mai dim ond crafu’r wyneb ydwyf yn yr erthygl hon. Ond yn y Chwyldro hwn y mae pethau pwysig y dylem eu hystyried a’u gwyntyllu. Rwy’n siŵr bod rhai o ddarllenwyr y Tyst yn llawer mwy gwybodus na fi yn y maes hwn. Beth am i chi anfon gair sy’n datblygu’r drafodaeth hon ymhellach?
