Y mae’r terfysgoedd sydd wedi digwydd mewn trefi a dinasoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ddiweddar wedi bod yn destun braw i bawb ohonom. Ar y newyddion dyddiol ac ar fideos ar y cyfryngau cymdeithasol fe welwyd pobl – dynion gwyn gan fwyaf – yn ymddwyn yn gwbl anwaraidd tuag at eraill ac yn enwedig tuag at bobl o dras wahanol. Ymosodwyd ar unigolion sydd â chroen tywyll ac ar adeiladau sy’n lletya ymgeiswyr lloches. Mae llawer o bobl bellach, nad ydynt yn groenwyn yn byw mewn ofn yn eu cymuned eu hunain. I Gristnogion mae ymddygiad fel hyn yn orffwyll ac y mae’n annealladwy sut mae pobl yn gallu bod mor ffiaidd tuag at eu cyd-ddyn. Trist iawn yw gweld hyn yn digwydd.

Y mae’n amlwg bod cryn anniddigrwydd ac anfodlonrwydd o fewn i rai carfannau yng Ngwledydd Prydain, sydd yn agos iawn i’r wyneb. Ar ben hynny y mae unigolion a mudiadau asgell dde yn annog pobl i ymddwyn yn hiliol ac yn dreisgar. Testun gofid a gweddi yw’r hyn a ddigwyddodd yn Southport o ganlyniad i lofruddiaeth y tair geneth fach yno. Llofruddiwyd Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice da Silva Aguiar, naw oed mewn sesiwn ddawnsio ar gyfer plant. Roedd y digwyddiad ynddo’i hun yn uffernol ond roedd i rai ddefnyddio’u marwolaethau fel rheswm i derfysgu yn affwysol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac y mae’n rhaid inni sefyll gyda’r bobl hynny o fewn ein cymunedau sydd o dras ethnig wahanol. Nawr gwelwn eto pa mor bwysig yw ein tystiolaeth Gristnogol heddiw sy’n dysgu goddefgarwch a bod pob unigolyn yr un mor werthfawr yng ngolwg Duw.
Daliwn ati i weddïo am heddwch a chyfiawnder yn ein cymunedau ac am ddoethineb i’n harweinwyr gwleidyddol. A pharhawn yn enw’r Iesu i fod yn halen y ddaear ac yn oleuni’r byd. Mae ein tystiolaeth nid yn unig yn bwysig, y mae yn hanfodol.
