Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Trosglwyddo’r Fantell

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod yn darllen cofiannau gweinidogion oedd yn byw oddeutu 1800 – 1840. Cyfnod yn ein hanes oedd rhwng cyffro’r Diwygiad Methodistaidd a thyfiant mawr Cristnogaeth yng Nghymru ac “oes aur” Ymneilltuaeth yn ystod oes Fictoria. Hyd yn hyn rwyf wedi darllen cofiannau, Lewis Rees, (1710 – 1800) William Williams o’r Wern (1771 – 1840) , John Roberts , Llanbrynmair, yr hynaf  (1767 – 1834), Azariah Shadrach (1774 – 1844),  Michael Roberts (1780 – 1849), Pwllheli a Cadwaladr Jones (1783 – 1867) , Yr Hen Olygydd, David Williams, Troedrhiwdalar, (1779 – 1874), Lewis Powell, (1788 – 1869). Y mae bwriad gennyf i ddarllen nifer o gofiannau cymeriadau eraill o’r un cyfnod.

Paham?

Mae nifer o resymau pam fy mod yn gwneud hyn, ond y ddau brif reswm yw hyn. 1. Rwyf eisiau gwybod pwy o’r bobl hyn oedd yn adnabod ei gilydd. Pwy ohonynt oedd yn perthyn i’w gilydd trwy waed a thrwy briodas? Meibion a merched pwy briododd â’i gilydd? Oherwydd mae gen i ddamcaniaeth! Er y pwyslais hanesyddol sydd wedi ei roi ar y gwahaniaethau enwadol fu, mai un mudiad oedd Ymneilltuaeth yng Nghymru.  2. Hefyd yn y cyfnod hwn, rhwng dyweder 1790 a 1850, y plannwyd cannoedd o eglwysi yng Nghymru gan y bobl hyn a esgorodd ar lwyddiant anghymharol yn hanes Cristnogaeth yn ail hanner yr 19eg ganrif. Beth oedd eu dulliau wrth blannu eglwysi? Sut oeddent yn mynd ati i sefydlu cynulleidfaoedd newydd? Bellach rydym wedi cyrraedd cyfnod arall lle y mae angen plannu eglwysi bach newydd. Wrth i eglwysi gau mor chwim y mae ardaloedd yn bodoli lle nad oes unrhyw dystiolaeth Gristnogol ynddynt. Rhaid inni ymateb yn gyflym neu adael i rannau o Gymru fod mewn tywyllwch ysbrydol. A allwn ni ddysgu unrhyw beth o’r gorffennol gan y Cristnogion hynny a fu’n plannu a thyfu eglwysi mor llwyddiannus, fydd yn ein cynorthwyo nawr?

Ieuenctid

Wrth ddarllen y cofiannau hyn, un peth a ddaw i’r amlwg yw bod polisi yn yr eglwysi o drosglwyddo mantell arweinyddiaeth i ddwylo pobl ifanc. Roeddent yn studio, gwrando a siarad gyda’u hieuenctid i weld os oedd doniau ganddynt y gellid eu defnyddio i wasanaethu’r Arglwydd. Yna, o weld potensial mewn unigolyn yr oeddent yn eu hannog i ddatblygu’r doniau hynny o fewn i’r gynulleidfa. Dyma ddigwyddodd i Williams o’r Wern, Cadwaladr Jones a’r gweddill.

Mentora

Mae’n rhaid inni wneud hyn ar fyrder heddiw yn ein heglwysi gan annog aelodau iau i ddatblygu eu doniau ysbrydol, i weddïo, arwain addoliad ac astudiaeth Feiblaidd gan ddatblygu eu gweledigaeth dros achos Iesu Grist. Un o’r gwersi pwysicaf rwyf wedi ei ddysgu yw mai rhan allweddol o waith arweinydd yw camu yn ôl a throsglwyddo’r awenau i rai iau gan eu mentora a’u hamddiffyn. Os na wnawn hyn bydd ein heglwysi yn anochel yn dirwyn i ben o fewn hanner cenhedlaeth.

Eliseus

Yr esiampl enwocaf o hyn yn y Beibl yw hanes Elias yn trosglwyddo ei fantell yn llythrennol i Eliseus yn 1 Brenhinoedd 19: 15 –  21. Gorchmynnodd Duw iddo wneud hynny er mwyn i Eliseus broffwydo yn ei le. Trowch at y bennod hon nawr a darllenwch yr hanes. Gofynnwch i chi eich hunain, “a oes rhywun yn ein cynulleidfa ni y dylwn eu herio i wasanaethu’r Arglwydd”. Os oes, siaradwch gyda hwy, dywedwch wrthynt eich bod yn gweld potensial ynddynt gan eu hannog i gymryd rhan mewn oedfaon ac i arwain. Peidiwch â bod yn swil oherwydd pobl fel chi y mae’r Arglwydd yn eu defnyddio i feithrin cenhedlaeth newydd sy’n caru a gwasanaethu’r Arglwydd.



Gadael sylw