Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dysgu o’n Gorffennol

Cychwyn Achosion Newydd

Afraid i mi nodi ar gychwyn yr erthygl hon nad peth newydd yw cychwyn Eglwysi newydd yng Nghymru. Roeddem yn arfer bod yn giamstars ar yr arfer. Er, wrth glywed ymateb rhai pobl i’r bwriad o gychwyn cynulleidfa newydd byddech yn tybio ei bod yn weithred an-Feiblaidd. “Duw a’n gwaredo, meddent, “rhag efengylu a cheisio ennill anghredinwyr i ffydd yn Iesu!” Wrth gwrs gallech dynnu Llyfr yr Actau allan o’ch Beibl ac yn sgil hynny lythyrau Paul, Ioan, Iago a Phedr. Yna, byddai  Efengyl Ioan yn llithro’n ddidramgwydd i mewn i lyfr y Datguddiad heb yr adrannau trafferthus sy’n cyfeirio efengylu a phlannu cynulleidfaoedd. Ond yna byddech hefyd yn gorfod delio gyda’r anghyfleustra fod Iesu ei hun yn sôn am ail-eni ac yn dweud pethau tebyg i,

“Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,…..” (Mat 28:19)

Nid yn unig y mae plannu eglwysi yn un o hanfodion y Testament Newydd, y mae hefyd yn rhan o’n gweledigaeth fel Anghydffurfwyr o’r bry a bydd rhaid iddo fod yn rhan allweddol o’n gwaith nawr ac i’r dyfodol. Fel Anghydffurfwyr yma yng Nghymru y mae ein hanes yn sefydlu cynulleifaoedd newydd yn un cyfoethog, difyr ac amrywiol.

Bwriad

Yn yr erthygl hon byddwn yn bwrw bras olwg ar rai enghreifftiau o gychwyn achosion newydd oddeutu 1800. Roedd hyn ar gychwyn y cyfnod o gynnydd aruthrol mewn eglwysi newydd ddaeth yng nghanol y 19eg ganrif. Daeth cyfnod wedyn tua diwedd y 19eg ganrif lle nad oedd angen cychwyn achosion newydd gan fod Cymru yn llawn o eglwysi Cristnogol.

Y rheswn bod gennyf ddiddordeb yn hyn yw oherwydd y chwalfa ysbrydol bresennol yn ein plith fydd yn gadael ardaloedd mawr heb unrhyw  dystiolaeth Gristnogol Gymraeg. Sut ydym ni i ymateb i hyn? Golyga hyn y rheidrwydd i baratoi ar gyfer y dyfodol, ond hefyd rhaid torchi llewys heddiw wrth ymateb i’r argyfwng.

Ateb amlwg i’n sefyllfa bresennol, sy’n ein rhythu yn ein hwynebau, yw bod rhaid efengylu’n effeithiol a throi ein hadnoddau tuag at genhadaeth ac ennill pobl i ffydd yn Iesu. Elfen o hyn yw cychwyn achosion newydd. Roedd hyn yn rhywbeth a fu’n rhan o gynhysgaeth a dealltwriaeth ein rhagflaenwyr yma yng Nghymru. Efallai y gall eu hesiampl a’u dulliau hwy o weithredu ein cynorthywo a’n hysgogi i fynd ati i rannu‘r newyddion da gyda Chymry 2024.

Peth amlwg i’w nodi yma yw na allwn wneud hyn heb ddealtwriaeth bod Duw yn achub pobl o golledigaeth trwy Iesu a’i fod trwy yr Ysbryd Glân yn defnyddio pobl amherffaith fel ni i wneud ei waith. Os nad ydym yn gweld fod pobl angen Iesu Grist fel Gwardwr ac Arglwydd ni fydd tân digonol yn llosgi yn ein calonnau fydd yn ein gorfodi i weithredu’n genhadol.  

Ond sut oeddent yn cychwyn eglwysi newydd ym 1800? Yma, rwyf am gyfyngu fy sylwadau i gynulleidfaoedd o draddodiad Annibynnol. Mae’r maes yn llawer rhy eang i gynnwys y Bedyddwyr, y Methodistiaid Calfinaidd, yr Eglwys Sefydledig a’r Wesleyaid. (Mae cymaint o feysydd hanesyddol Cristnogol Cymreig sydd angen eu hastudio’n fanwl ac yn destynau graddau Meistr a Ph.D. dirifedi.)

Yma rwy’n canolbwyntio ar y gwaith wnaed ar gychwyn y 19eg ganrif. Y rheswm am hyn yw mai yn y cyfnod hwn yr oedd arloesi gwirioneddol yn digwydd a phobl ddewr yn mentro mewn ffydd gan wynebu erledigaeth a thlodi. Credaf y bu’r gwaith yn rhwyddach yn nes ymlaen yn y ganrif gan fod Anghydffurfiaeth wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a hynny ar draul yr eglwys Anglicanaidd.

Efengylwyr

Yn y cyfnod hwn roedd canran uchel o arweinyddion eglwysi Anghydffurfiol yn efengylwyr, yn yr ystyr Feiblaidd. Roeddent yn arwain a phregethu yn gyson i’w cynulleidfaoedd lleol ond roeddent hefyd yn cael eu rhyddhau er mwyn cynnal cyfarfodydd mewn ardal ehangach ac mynd yn rheolaidd ar deithiau pregethu am gyfnod o wythnosau. Roedd hyn yn digwydd hyd nes i weinidogaeth gyflogedig lawn amser ddod yn beth cyffredin wrth i aelodaeth eglwysi gynyddu.  Nodir efengylu fel un o’r doniau/ swyddogaethau a roddir i Gristnogion yn Llythyr Paul at yr Effesiaid.

“A dyma’i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon…… “  – Effesiaid 4:11 

Golygai hyn bod eglwysi lleol yn sylweddoli mai rhan o gyfrifoldeb gweinidog oedd efengylu yn eang a chychwyn achosion newydd.

Yn y traddodiad Annibynnol gallwn gyfeirio at William Williams o’r Wern (1781 – 1840), Benjamin Jones, Pwllheli (1756 – 1823) a Lewis Rees, Llanbrynmair a Mynyddbach (1710 – 1800), fel enghreifftiau o’r cyfryw, ymhlith llawer mwy. Ond yma rwyf am ganolbwyntio ar ddau berson sef Azariah Shadrach a Dafydd Williams, Troedrhiwdalar. Roedd yn ddau yn efengylwyr a gychwynnodd nifer o achosion newydd ond roedd cyd-destun eu gweithgarwch yn wahanol. Roedd A. Shadrach yn fwy teithiol a D. Williams yn sefydlog mewn un ardal trwy gydol ei oes.

Tabernacl Llanrwst sefydlwyd gan Azariah Shadrach

Azariah Shadrach.

Roedd A. Shadrach yn byw o 1774 – 1844 ac bu’n gweinidogaethu yn bennaf yn Nyffyrn Conwy a chyffiniau Aberystwyth ac yn ystod ei oes fe gychwynnodd lawer o achosion Annibynnol yn y ddwy ardal.

Dyma ddisgrifiad Josiah Jones o’i ddull o weithredu yn Nyffryn Conwy,

“Arferai Dr. Chalmers ddweyd fod Cristionogaeth i fod yn ymosodol, yn gystal ag yn amddiffynol;—rhaid iddi fyned i’r prif ffyrdd a’r caeau, i gymhell rhai i ddyfod i mewn, yn gystal a cheisio cadw yr hyn sydd ganddi. Ac yn sicr, os na wna hyn, buan iawn y dirywia, neu y derfydd yn hollol. Y mae bod yn ymosodol, nid yn unig yn beth unol âg ysbryd Cristionogaeth, ond hefyd yn hanfodol er ei pharhad. Felly hefyd y teimlai Shadrach, debygem; oblegyd gwnai bob lle y byddai yn aros ynddo fel gorsaf Genadol i dori allan o honi ar y ddeheu ac ar yr aswy; neu, mewn iaith filwrol, ystyriai y lle y byddai yn byw ynddo fel basis of operations er darostwng y cymydogaethau cylchynol. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn agos i Lanrhochwyn, a Llanddoged, a thu cefn i dŷ tafarn yn yr Eglwysfach. Bu hefyd yn pregethu yn Nolyddelen; ac er nad oedd ei gyflog addawedig ond pum punt yn y flwyddyn, eto, yr oedd yn talu swllt i hen wraig yn y pentref hwn bob tro y deuai iddo, am gael pregethu yn ymyl drws ei thŷ. Bu hefyd yn pregethu yn Ngholwyn, a thalodd swllt yma hefyd i ryw hen -wraig, am gael pregethu yn ymyl ei drws hithau. Yn mhen amser wedi hyn, sefydlwyd eglwys yn nhŷ yr hen wraig hon, gan y Parch. T. Jones, Moelfro.” (1)

Pan symudodd A. Shadrach i Dalybont, Aberystwyth, fe aeth ati unwaith eto i gynnal llu o gyfarfodydd mewn anedd-dai. Dywedaf hyn oherwydd nad oedd capeli bryd hynny yn yr ardaloedd hyn.

“Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn y Foelgolomen, Nantyperfedd, Cwmsymlog, Lluest- newydd, Ty’nycoed, Coedgruffydd, Pentrebach, Penybont, Cwmygeulan, Penybanc, Bryngwyn-bach, Ceulan, Caregestynllath, a’r Cwmerebach; a bu rai troion yn pregethu yn, Nhre’rddol, y Borth, ac Aberdyfi.” (2)

Cyn dyddiau’r Ysgol Sul yr arfer, fel y gwelir uchod, oedd cychwyn cyfarfodydd mewn cartrefi, tyddynnod, ffermydd neu dafarndai. Rhaid cofio nad oedd neuaddau na chanolfannau cymunedol hwylus ar gael, dim ar wahân i’r eglwys Anglicanaidd. (Pan ddaeth yr Ysgol Sul yn boblogaidd dechreuwyd cynnal ysgol Sul mewn adeiladau cyfleus fel cyfrwng i ddenu cynulleidfa a chychwyn gwaith Cristnogol mewn ardal newydd.)

Seion, Baker Street, Aberystwyth, sefydlwyd gan Azariah Shadrach

Wrth gwrs ni ddatblygodd pob un o’r cyfarfodydd hyn i fod yn eglwysi ond roeddent yn fodd i brofi’r dyfroedd mewn amrywiol leoliadau. Weithiau roedd cynulleidfa yn aros am gyfnod fel cangen o eglwys gan ddatblygu maes o law i fod yn eglwys annibynnol. Dro arall roedd cangen yn aros yn barhaol fel rhan o’r fam eglwys. Yn achlysurol cynhelid cyfarfod mewn lleoliad am gyfnod o flynyddoedd heb fynd ati i adeiladu capel parhaol.  Adeiladwyd capel pan oedd nifer y mynychwyr yn cynyddu i’r fath raddau fel bod y lleoliad yn mynd yn rhy fychan iddynt. Cryfder cynnal cyfarfodydd ar aelwydydd  oedd eu bod yn mynd i galon y gymuned gan ddod i gysylltiad uniongyrchol â’r teulu, morynion a gweision ynghyd â chymdogion. Hefyd wrth gwrs roedd y costau yn llawer llai na phe baent yn cynnal adeilad. Crefydd yr aelwyd a’r teulu oedd Anghydffurfiaeth ar ddechrau’r 19eg ganrif.

David Williams, Troedrhiwdalar

Bu David Williams fyw o 1779 – 1874 ac yr oedd yntau yn efengylydd a weithiodd yn bennaf yn ein filltir sgwar yn nghantref Buellt yng nghyffiniau Llanwrtyd. Roedd yn gymeriad unigryw a doniol. Meddai ar ddyfnder ysbrydol tra roedd ar yr un pryd yn mwynhau bywyd. (Er roedd yn gwylltio weithiau yn ddirybudd.) Teithiodd  ddydd a nos trwy fro ei febyd, gyda’r het wen am ei ben, (3) yn cyhoeddi y newyddion da am Iesu gan arwain pobl newydd i ffydd ac adeiladu’r credinwyr.  Gweithiodd am gyfnod fel crydd ym Merthyr Tudfyl ond dychwelodd yn ôl i’w gartref ym 1799. Derbyniodd alwad ym 1803 gan eglwysi unedig Llanwrtyd a Throedrhiwdalar i fod yn gyd-weinidog â’r hybarch Isaac Price ar gyflog o £15.00 y flwyddyn. Nid oedd yn cael ei gyflogi llawn amser fel gweinidog dim ond derbyn cydnabyddiaeth. Ffynnoellau eraill o gynhaliaeth oedd ei waith fel crydd a fferm Tan-yr-allt rhwng afonydd Dulas a Gwenwst.  Yn syth wedi cychwyn ar ei weinidogaeth pydrodd arni i blanu eglwysi newydd. (4) Dywedir yn ei gofiant gan D. Avan Griffith,

“Teithiai yn aml dros fynyddoedd Eppynt i gymdogaeth Merthyr Cynog, i bregeth, mor fuan  ag y dechreuodd ar ei weinidogaeth…. Gwnaeth barhau i fyned  i Ferthyr Cynog yn fisol, drwy bob tywydd, am ysbaid o ddeng-mlynedd-ar-hugain … Elai yn aml dros y Sugar-loaf i flaenau sir Gaerfyrddin, i bregethu…. Yr oedd amryw aelodau o Lanwrtyd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw. Pregethai yntau iddynt yn achlysurol yn Gwenwinau. Yn y fan hon y cychwynwyd yr achos sydd yn awr yn Bethel, yn mhlwyf Llanfairarybryn…..Teithiodd gryn lawer hefyd tua chwm y Towy, uwchlaw Cilycwm, i gymdogaeth Ystradffin, yn nechreuad ei weinidogaeth, cyn adeiladu capel y Methodistiaid yno, a chychwyniad yr achos yn Abergwesyn….. Sefydlodd gangen o eglwys Troedrhiwdalar, yn y Beulah, yn y flwyddyn 1822. Ni chafodd ei chorffori yn eglwys ar ei phen ei hun yr adeg honno, ond adeiladwyd capel yno i gadw gwasanaeth wythnosol a Sabbothol. Deuant i Droedrhiwdalar i gymundeb, ac unwaith yn Sabbothol; ond heb fod yn hir ffurfiwyd yno eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, fel yn y fam eglwys….. Adeiladwyd yn ganlynol i hyn, gapel yn Abergwesyn, a galwyd ef, Moriah. Cangen o Lanwrtyd oedd yr eglwys fechan hono…. Y capel nesaf  fu’n foddion i’w adeiladu ydoedd y Gelynos, Llanwrtyd, yn y flwyddyn 1837.  Yn y flwyddyn 1847, sefydlodd gangen arall o eglwys Troedrhiwdalar, rhyngddi a mynyddoedd Eppynt, yn nyffryn Irfon…. Dolemin ydoedd y man yr arferai bregethu y blynyddoedd cyntaf. Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn y gymdogaeth, a chynhelid cyfarfodydd gweddi ar gylch o gwmpas y tai; erbyn hyn yr oedd amryw o aelodau o eglwys Troedrhiwdalar ar hyd y gymydogaeth, a theimlwyd angen am gapel yno. Cafwyd dernyd o dir i’r perwyl …. ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn a nodwyd. Galwyd ef Olewydd….Pregethai bob dau fis am flynyddoedd yn Cwmdulas. Ffurfiwyd yno ysgol Sabbothol yn bur foreu, a chynhelid cyfarfodydd gweddi o gylch y tai; ac yn y flwyddyn 1860, adeiladwyd capel bychan yn y cyfryw gyfeiriad, ar Rosycapel, a gelwir ef capel y Rhos.” (5)

Gwelwn felly o’r dyfyniad uchod y bu D. Williams yn ddiwyd yn cychwyn achosion lleol newydd trwy gydol ei oes. Ymatebai i’r angen ar y pryd a gweithredai’n gyflym gyda’i gyd Gristnogion i gyflenwi yr angen hwnnw a lledaenu gwaith teyrnas Dduw.      

Olewydd, Treflys, Powys sefydlwyd gan David Williams, Troedrhiwdalar

Gwersi o’r Hanes

Mae’n dyled yn fawr i’r genhedlaeth hon o arloeswyr a fu mor ddygn yn rhannu’r newyddion da gan sefydlu achosion newydd. Rhaid tynnu sylw at yr hanes hwn er mwyn i bobl sylweddoli nad oes dim newydd dan haul. Y mae cenhedlaeth yn codi yn ein gwlad sy’n gwybod dim am yr arwyr Cristnogol hyn ac yn edrych yn unig ar Gristnogion America a Lloegr am ysbrydoliaeth. Gwae ni fel Cristnogion yng Nghymru os anghofiwn ein hanesion Cristnogol ein hunain. Mae cyfoeth o ddoethineb, gweledigaeth ac arweiniad i’w weld yn ein hanes ni ein hunain.

Ond pa wersi sydd i ni heddiw o’r hanes uchod? Hoffwn awgrymu’r canlynol.

Bydd rhai eglwysi byw Cymraeg yn goroesi’r cyfnod anodd hwn ac yn parhau i dystio i Iesu Grist. Y tebygolrwydd yw y bydd mwy o eglwysi gwledig yn goroesi na rhai trefol. Ar yr un pryd bydd ardaloedd yn datblygu fydd heb dystiolaeth Gristnogol Gymraeg. Wrth edrych tua’r dyfodol mae’n hanfodol ein bod o dan arweiniad Duw, yn mynd ati i gychwyn gwaith newydd allai ddatblygu’n eglwysi. Nid oes amser i ddilidalio a hel meddyliau, os na wnawn ni hyn bydd rhywbeth arall, yn llenwi’r gwagle ysbrydol sydd o fewn ein cymdeithas. Mae’n hyfryd gweld bod mudiadau fel Cant i Gymru a Derwen eisoes yn planu ac yr ydym ni am fod yn rhan o’r bennod newydd yn y dystiolaeth Anghydffurfiol. Gwych yw fod Undeb yr Annibynwyr, Undeb y Bedyddwyr, Yr Eglwys Bresbyteriadd, Yr Eglwys Fethodistiadd a’r Eglwys Anglicanaidd yn symud i’r un cyfeiriad.

Y dull o gychwyn gwaith newydd yn yr hanesion uchod oedd defnyddio cartrefi cymwynaswr a fyddai’n fodlon cynnal cyfarfod. Gellid cael mwy nag un cartref fel canolfan o fewn i ardal neu dref. Gallai’r cyfarfod fod yn ysgol Sul, cwrdd gweddi, astudiaeth Feiblaidd neu oedfa bregethu. Y nod fyddai cael criw bychan o bobl at ei gilydd i ddysgu am sylfeini’r ffydd Gristnogol. Roedd yn hanfodol bod pobl nad oedd yn credu yn bresennol. Rhaid ystyried sut allwn ni addasu hyn fel rhan o’n gwaith o ymestyn allan.

Heddiw, rhaid rhoi o’r neilltu’r syniad o gael cynulleidfaoedd mawr i fod yn eglwys. (Wrth mawr golygaf 40 a mwy o bobl.) Mae criw bychan o 8 – 20 yn ddigon i fod yn eglwys. Mantais eglwysi bach yw bod pawb yn adnabod ei gilydd, maent yn hyblyg ac maent yn gwbl hunangynhaliol.

Yn yr un modd nid oes angen adeilad neu gapel parhaol sy’n eiddo i’r gynulleidfa. Y mae hynny’n faich ariannol mawr i aelodaeth fechan. Mae gennym gartrefi a hefyd bellach y mae digonedd o adeiladau pwrpasol y gellid eu defnyddio ym mhob ardal.

Nid oes rhaid cael gweinidogaeth gyflogedig. Gellir cynnal eglwys fechan yn gwbl wirfoddol heb fawr ddim costau. Roedd A. Shadrach a D. Williams yn cael cydnabyddiaeth gan yr eglwysi ond roedd ganddynt ffynhonnell ariannol arall hefyd.

Wrth blannu cynulleidfa newydd y mae Duw heddiw fel erioed yn rhoi arweiniad trwy’r Ysbryd a’i Air i’w bobl. Rhaid ymateb i amgylchiadau ac anghenion yn ein cymunedau lleol gan gofio nad capeli sy’n bwysig ond y gymuned o bobl sy’n ddisgyblion i Iesu. Hefyd wrth wneud dylid ystyried sut y gallwn gydweithio gyda Christnogion eraill er mwyn osgoi dyblygu gwaith mewn ardal. Yn ddelfrydol byddai eglwys sydd eisoes yn bodoli yn cychwyn gwaith newydd. Mae hyn, fe gredaf, yn bwysig oherwydd gallant fentora, gweddïo a chefnogi’r gwaith a bod yn gefn i’r rhai sy’n arloesi.

Felly, beth amdani, oes yna weledigaeth ac egni yn ein plith i wneud hyn? Y mae’r Arglwydd yn ein galw i gyfnod cyffrous.

  1. Josiah Jones, Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach (Machynlleth 1863), tud., 9. Mae copi o’r cofiant hwn i’w gael ar Wicidestun (Diolch i Alwyn ap Huw am fy nghyfeirio at hwn ac am y gwaith pwysig a wneir gan y tim ar Wicipidia.) – Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach – Wicidestun (wikisource.org)
  2. Ibid., tud. 13.
  3. Griffiths, D. Avan, Cofiant y Parch David Williams, Troedrhiwdalar, (Llandilo, 1877), tud. 90.
  4. Ibid., tud., 89.
  5. Ibid., tud., 90 – 96.