Ar ddydd Gwener y Groglith y mae’n sicr bod nifer ohonom wedi bod mewn gorymdaith gyda chyd-Gristnogion o amgylch eglwysi lleol neu i leoliad priodol. Ar y gorymdeithiau hynny rydym yn canolbwyntio ar farwolaeth aberthol yr Iesu trosom ar groes Calfaria. Yna, ar ddydd Sul y Pasg byddwn yn dathlu atgyfodiad bendigedig yr Arglwydd a’i fuddugoliaeth dros angau a’r tywyllwch. Er ein bod yn gwahaniaethu rhwng y ddau ddigwyddiad mewn gwirionedd un digwyddiad ydynt, y naill yn llifo i’r llall. Ni allwn iawn amgyffred y groes heb yr atgyfodiad ac ni ddeallwn yr atgyfodiad heb y groes. Y mae’r naill a’r llall yn annatod glwm. Mae’r atgyfodiad yn gwrireddu proffwydoliaeth Iesu amdano ei hyn gan ddangos fod y gwaith gyflawnodd i ddod a iachawdwriaeth yn ddilys. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion,

“Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’r prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw’n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna’n fy rhoi yn nwylo’r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, fy chwipio a’m croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i’n dod yn ôl yn fyw!” – Mathew 20:18-20
Annisgwyl
Er i’r Iesu ddweud wrth y disgyblion o flaen llaw am yr atgyfodiad yr oedd yr hyn a ddigwyddodd yn gwbl annisgwyl i bawb. Mae hynny yn gwbl ddealladwy oherwydd yn ôl eu profiad a’u dealltwriaeth hwy nid oedd neb yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. Ynfydrwydd fyddai meddwl yn wahanol i hynny. Ond dyma yn union ddigwyddodd yn hanes Iesu ac mae’r digwyddiad hwn wedi newid hanes dynoliaeth. Mae’r atgyfodiad yn profi mai Iesu yw Mab Duw a’r Meseia yr oedd y proffwydi wedi ysgrifennu amdano. Profa bod yr Iesu yn berffaith, oherwydd canlyniad pechod yw marwolaeth. Ni phechodd Iesu ac felly nid oedd gan farwolaeth hawl arno. Profa hefyd bod yr iawn a dalodd Iesu am ein pechodau ar y groes yn ddigonol i ddod a maddeuant inni.
Dywedodd Iesu wrth Martha,
“Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti’n credu hyn?” – Ioan 11:25 – 26
Dyma’r addewid trwy Martha i bawb ohonom a thrwy gyfrwng yr atgyfodiad mae’r addewid yn troi’n ffaith.
Haleliwia, Iesu yw’r Atgyfodiad, concwerwr angau, ac y mae bywyd tragwyddol i bob un sy’n credu ynddo. Dathlwn yn orfoleddus dros y Pasg gan ddiolch i Dduw am ei gariad rhyfeddol tuag atom a’r gobaith sicr sydd gennym o ganlyniad i hynny.
“Myfi yw’r Atgyfodiad mawr, Myfi yw gwawr y bywyd:
Caiff pawb a’m cred, medd f’Arglwydd Dduw er trengi, fyw mewn eilfyd.”
Ellis Wynne
