Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Pedr yn gwadu Iesu

Nos Iau Cablyd Ioan 18: 15 – 27

Mae’r darlleniad wnaed o Efengyl Ioan yn adrodd hanes Pedr yn gwadu Iesu Grist dair gwaith. Wrth gwrs roedd Iesu wedi darogan y byddai hynny’n digwydd cyn i’r ceiliog ganu. Beth allwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn?

Fel arfer canolbwyntiwn ar y ffaith fod Pedr yn gwadu Iesu a hynny ar yr union amser pan oedd angen cefnogaeth ei ffrindiau. Roedd wedi ei arestio ac yn cael ei gam gyhuddo gan yr awdurdodau. Ond nid oedd ei ffrindiau yn ffyddlon iddo. Tueddwn i feddwl yma am wendidau Pedr,  ei fod yn llwfr ac yn ddi-asgwrn cefn.

Ond hefyd rhaid ystyried dewrder Pedr yn gwneud yr hyn a wnaeth. Aeth i bresenoldeb yr awdurdodau, y tu allan i gyntedd yr archoffeiriad. Ble’r oedd y disgyblion eraill? Nid oes siw na miw amdanynt hwy. Roeddent yn rhy lwfr i fynd gyda Pedr. O leiaf roedd Pedr wedi mentro hyd yr eithaf i fod yn agos at Iesu.

Mae rhybudd yma fod dilyn Iesu’n gallu mynd a ni i fannau peryglus ac i sefyllfaoedd lle mae’n anodd sefyll yn gadarn dros ein ffydd. Yma mae Pedr yn wynebu perygl a phwysau i gyfaddef ei fod yn un o’r disgyblion. Oni ddywedodd Pedr wrth Iesu, “Hyd yn oed petai’n rhaid imi farw gyda thi,” ….. “ni’th wadaf byth.”?

Ond ar yr achlysur hwn mae’n methu aros yn gryf ac yn gwadu ei Arglwydd. Y  gwir yw fod hanes Pedr yn tynnu tant yng nghalon pob Cristion. Mae pawb ohonom yn gyson yn gwadu’r Iesu. Yn gwrthod cydnabod ein bod yn ddisgyblion iddo pan rydym dan bwysau cymdeithasol.  Yn mynd hefo’r lli yn lle sefyll, Fel y canodd Morgan Rhys.

Gwnes addunedau fil i gadw’r llwybyr cul,

Ond methu’r wy’ Preswylydd mawr y berth,

Chwanega eto nerth i ddringo’r creigiau serth, Heb flino mwy.”

O ganlyniad rydym yn gorfod troi at yr Arglwydd nerth i ddal ati ac am faddeuant. Ac oherwydd ei gariad a’r hyn a gyflawnodd trwy farw dros ein pechodau y mae maddeuant i’w gael a chyfle newydd.

Cofiwn sut y mae Iesu yn rhoi cyfle arall i Pedr wedi’r atgyfodiad trwy ofyn iddo 3 gwaith iddo. “A wyt yn fy ngharu i?” Ddyla ni byth ddigalonni oherwydd ein methiant. Diolch i’r drefn mae Iesu dro ar ôl tro yn rhoi cyfle i ni i gredu ynddo, ac i ail gysegru ein bywyd i’w wasanaethu.

Pererindod yw’r bywyd Cristnogol a da ni ar daith gyda’n gilydd fel disgyblion i’r Arglwydd ac fel Pedr byddwn yn syrthio a methu. Ond y mae’r Iesu yn galw arnom ni i godi yn ôl ar ein traed ac ysgwyd y llwch oddi arnom gan dderbyn ei faddeuant a cherdded ymlaen ar y daith..

Dilynaf fy Mugail drwy f’oes,      er amarch a gw’radwydd y byd;
a dygaf ei ddirmyg a’i groes,  gan dynnu i’r nefoedd o hyd;
mi rodiaf, drwy gymorth ei ras, y llwybyr a gerddodd efe;
nid rhyfedd os gwawdir y gwas,     cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’.

BENJAMIN FRANCIS 1734-99