Rŵan, dwi’n gwneud yma yr union beth mae’r cwmni am i mi ei wneud sef cael myll am eu cynnyrch. Nid oes dim gwell gan rai na gwrthwynebiad i’r hyn y maent yn ei wneud. Mae’n tynnu sylw at eu cynnyrch ac efallai yn codi eu gwerthiant. Ond go brin y bydd pwt ar Sabothal yn gwneud y naill beth na’r llall, ond ta waeth am hynny!

Yn ddiweddar fe es i mewn i siop nid anenwog ar y stryd fawr i weld os gallwn gael ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig. Cwmni yw hwn sydd wedi ei ail lansio gan fod yr hwch wedi mynd trwy’r siop ychydig yn ôl. Roeddwn yn awyddus felly i weld beth oeddent yn ei werthu wrth atgyfodi. Edrychais ar anialwch o bob math, gemau cyfrifiadurol, calendrau a rhai CDiau cerddorol. Yna cerddais heibio i adran oedd yn gwerthu dillad. Roedd yn amlwg nad oeddent ar gyfer pobl fel fi oherwydd nid oedd maint 3XL ar gael. Ond cefais fy nghythruddo gan yr hyn oedd ar rai o’r crysau T.

Credaf mai’r enw ar y dilladach yw “Ddy Sombie Mêceowt Club”. Fel y gwelwch yn y lluniau mae’r negeseuon ar y crysau yn dywyll. Arnynt dywedir “Team Witch – Spell Book; Heartless from the Cradle to the Grave; I Hate Everything; Devil’s Music Sing Along, (gyda llun o blant bach. Beth ddiawch ydy ystyr hynny, ni wn?), ac un gyda llun o ferch ifanc yn dal gwn (dryll) wrth ei phen fel pe bai am wneud amdani ei hun. (suicide). Lol ddiniwed? Na, rhywbeth cwbl annerbyniol. Ai copa rhewyn (iceberg) yw hyn sy’n adlewyrchu’r tywyllwch sydd o fewn i enaid cymdeithas? Ai dyma sut yr ydym am annog ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gwerthfawr? Os yw’r rhain ar silffoedd siopau’r stryd fawr pa bethau dieflig sydd ynghudd yng nghilfachau’r we? O ddifri, onid llawer mwy buddiol fyddai cael crysau T gyda negeseuon fel, câr dy gymydog, fi yw goleuni’r byd neu Duw cariad yw? Ond, wrth gwrs, ni fyddai pethau felly yn gwerthu.

Mae’n amlwg bod y cwmni’n meddwl y gallant wneud tipyn o arian wrth werthu’r rhain ac y bydd gwerthiant da. Tybiaf fod arbenigwyr ffasiwn wedi bod wrthi’n trafod a chynllunio. Ond a yw hyn yn dderbyniol fel negeseuon ar ddillad pobl ifanc? Pa fath o gwmni sy’n credu ei bod yn iawn cynhyrchu’r fath rwtsh pan fo cymaint o ieuenctid yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, iselder ac yn cyflawni hunan laddiad? Dwi’n gwybod mai tuedd rhai pobl ifanc yw cicio yn erbyn y tresi gan wrthod confensiynau a safonau sy’n dderbyniol gan y “sefydliad”.

Ond twyll yw’r math yma o beth lle mae cwmni cyfalafol yn cynnig anarchiaeth ffug i ieuenctid er mwyn manteisio arnynt a gwneud elw. Ac yn ein cyfnod ni mae llu o bobl yn cael eu twyllo gan hyn. Credant eu bod yn rebeliaid ac yn llanciau oherwydd eu bod yn prynu nwyddau gan gwmni arbennig ond y cyfan ydynt yw “gwrthryfelwyr amser hamdden.” (Llion Williams.) Yr irony yw mai’r cwmnïau pwerus sy’n rheoli eu hymddygiad, eu meddyliau a’u blaenoriaethau. Credant eu bod yn rhydd ac annibynnol ond caeth ydynt i brynwriaeth (consumerism) ormesol. Nid rebeliaid ydynt ond pypedau yn y system gyfalafol faterol a’r llinynnau yn cael eu tynnu gan yr awch am elw digydwybod. Ac o safbwynt Cristnogol maent yn cael eu twyllo i addoli eilunod disylwedd, twyllodrus ac nid y Duw byw trwy’r Arglwydd Iesu.
Y gwir yw, erbyn hyn y gwrthryfelwyr yng Nghymru yw’r ychydig ffyddlon sy’n dilyn Iesu Grist gan wrthod mynd gyda llif anffyddiaeth. Mae rhain yn sefyll yn erbyn y tywyllwch a materoliaeth, yn brwydro yn erbyn diafol, cnawd a byd ac yn rhannu a gweithredu cyfiawnder gan wrando ar Lais eu Meistr.
Felly os yw’r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.
(Joh 8:36)
Ac felly derfydd (endeth) y myll…….. am y tro.
