Fideos Blogiau a Llyfrau
Cadw’r gwenith a chwalu’r us.
Mae hon yn bregeth arbennig gan T. Keller ar gyfer tymor yr Adfent, lle mae’n esbonio hanes Iesu’n atgyfodi Lasarus a’r modd y gwelir dyndod a dwyfoldeb Iesu yn ei ymateb i’r hyn sy’n digwydd. “Dwy natur mewn un person yn anwahanol mwy.” A.G. Seiliedig ar Ioan 11:32-44.
https://podcast.gospelinlife.com/e/the-furious-love-of-jesus-1699883337/
Rydym ni yn darllen hanes y Nadolig trwy lygaid ein diwylliant cyfoes. Ni anwyd Iesu mewn stabl – ydy hyn yn bwysig? Darllenwch hwn.
Os oes gennych ddiddordeb yn hanes Cristnogaeth Cymru nid oes unman yn well na gwefan y Welldigger. Diolch iddo am yr holl waith yn paratoi deunydd.
https://daibach-welldigger.blogspot.com/
Hefyd mae gwefan debyg ar gyfer y Deyrnas Gyfunol.
Nid at ddant pawb ond mae’n rhaid cymryd golwg goeglyd ar bethau yn achlysurol. (Rhy Americanaidd i mi). Byddai’n ddifyr cael tipyn o ddychan Cristnogol yn Gymraeg. Rhywle rhwng Lol a BabilonBee! Ynteu a ydym yn rhy groendenau “fel ein bod yn teimlo planedau yn troi”? (Steve Eaves)
Llyfrau
Wedi gorffen darllen Cranogwen, J. Aaron bydd adolygiad yn ymddangos yn fuan.

Wedi darllen Hanes Eglwys RADNOR WALK CHELSEA: LLUNDAIN 1859 – 1959, (Llandysul), golygwyd gan y Parch. Ifor O. Hughes. Ysgrifennaf bwt byr toc.
Wedi dechrau darllen Stepping into the Impossible: The story of Healing on the streets, (River Publishing, 2015), Mark Marx.
Wedi darllen Cristion Tachwedd/ Rhagfyr 2023. Diolch amdano.
Wedi cael copi o Priscilla, Where Are You?: A Call to Joyful Theology, Natalie Brand. Edrych ymlaen i’w ddarllen.

