Y Bridge, Dyfrig Rees, Owen Cotton a Jos Edwards.
Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Hefyd gellir gadael sylwadau cyhoeddus ar ddiwedd pob erthygl.
Gellir hefyd cael hysbys awtomatig o bob diweddariad ar Sabothal.blog trwy wasgu’r botwm cofrestru ar yr hafan a rhoi eich e-bost.

The Bridge – Addoliad
Eglwys a blannwyd rhyw 10 mlynedd yn ôl yw’r Bridge a hynny ym Mhontprennau, maestref gymharol newydd yn nwyrain Caerdydd i gyfeiriad Casnewydd. Gweledigaeth eglwys Highfields oedd y gynulleidfa newydd hon ac yn raddol tros y blynyddoedd y mae wedi tyfu. Rwyf wedi trefnu i gael paned gyda’r gweinidog yr wythnos nesaf.
Pan gyrhaeddais y gwasanaeth oedd am 10.00 bore Sul roedd fflyd o geir yn cyrraedd ar yr un pryd oedd yn awgrymu y byddai cynulleidfa swmpus. Cynhelir yr oedfa yn Ysgol Gynradd Pontprennau ac mae ganddynt glamp o neuadd sy’n ymdebygu i ganolfan chwaraeon. Wrth i mi gyrraedd roedd dau berson yn croesawu wrth y drws ac yn ysgwyd llaw yn frwdfrydig gyda phawb gyrhaeddent. Roedd y neuadd yn llawn cadeiriau porffor, llwyfan isel a lanlen (popup) oedd yn dynodi mai’r Bridge oedd yn ymgynnull yno. O fewn munud daeth Mat – y gweinidog – ataf er mwyn fy nghroesawu a dweud nad oedd yn cofio fy ngweld o’r blaen. Sylwgar iawn gan bod yna rhyw 150 o bobl yn bresennol. Mor bwysig yw rhoi croeso i ymwelwyr i’n cyfarfodydd er mwyn iddynt deimlo yn fwy cartrefol mewn lle sy’n gwbl ddieithr iddynt.

Nid oedd unrhyw luniaeth cyn i’r gwasanaeth ddechrau. Roedd naws yr oedfa yn groesawus ac nid yn anghyfarwydd i mi. Byddai llawer ohonoch, o gefndir traddodiadol, yn gyffyrddus yn y cyd-destun hwn. Wrth edrych o’m cwmpas yr oedd cyfartaledd oedran yr addolwyr yn ifanc gyda llawer o deuluoedd â phlant. Roedd yr addoliad yn llai carismataidd na Vineyard a Citizen Church. Arweiniwyd yr addoliad gan fand oedd yn cynnwys dwy gantores, bachgen ar y cajon a’r mawlweinydd ar yr allweddell. Canwyd rhyw 3 cân o fawl yn olynol, ni wyddwn yr un ohonynt, ond unwaith eto roeddent yn ddigon rhwydd i’w dysgu. Dyfynnai’r mawlweinydd adnod yn achlysurol gan roi brawddeg o esboniad am yn ail â gweddïau.
Darllenwyd o Genesis 14 a gweddïwyd gan ddau o’r aelodau hŷn. Wrth i’r plant a’r ieuenctid fynd i’r ysgol Sul fe ddaeth Dave ymlaen ar y llwyfan i bregethu. ( Er ei fod yn ŵr ifanc roedd Dave yn gwisgo trowsus llaes ac esgidiau ac nid oedd yn gwisgo het pêl fâs. Nodyn: Yr unig le dwi wedi gweld dyn yn gwisgo tei yn ystod y ddau fis diwethaf yw yn yr oedfa yn Potters House! Cofiwch. Fi yw’r unig un sy’n gwisgo tei yn oedfa foreol Ebeneser, Caerdydd. Falle bod cyfnod y tei boreol yn dirwyn i ben. Amser a ddengys.) Yr hyn o wnaeth Dave oedd pregethu trwy Genesis pennod 14 gan roi’r cefndir i’r digwyddiadau. Nid gwaith rhwydd oedd hyn, a rhaid dweud ei fod wedi gweithio’n galed er mwyn cyfansoddi’r bregeth. Yr arfer yn yr eglwys hon yw pregethu trwy adrannau o’r Beibl yn eu cyfanrwydd o wythnos i wythnos fel bod y gynulleidfa yn cael dilyniant. Rwy’n hoff o’r arfer hwn ond mae’n anodd i eglwysi sy’n cael pregethwyr gwadd o Sul i Sul. Wrth gwrs y mae rhai eglwysi’n rhoi testun i bregethwr gwadd gan ofyn iddo bregethu ar adran benodol. Trwy hynny fe gant ddilyniant. Pwyslais y bregeth oedd bod Duw yn cadw at ei addewidion beth bynnag sydd yn digwydd, o ganlyniad gallwn ymddiried ynddo yn llwyr. Amen

Ar ddiwedd yr oedfa daeth gwraig ataf i gael sgwrs. Mae’n amlwg ei bod yn rhan o’r tîm croesawu’r bore hwnnw.
Yr hyn am trawodd i yw bod yr eglwys hon wedi tyfu o ddim mewn 10 mlynedd trwy antur a menter ffydd y rhai a’i plannodd. Deuaf yn fwy a mwy argyhoeddedig fod yr Arglwydd yn bendithio ei bobl mewn ffordd arbennig pan maent yn mentro mewn ffydd ynddo Ef ac yn camu allan i’r anwybod.
Diolch i’r Bridge am eu croeso.
3 Sgwrs
Yn ystod yr wythnos cefais sgyrsiau difyr gyda’r Parch. Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parch Owen Cotton, Grace Church a Jos Edwards, Blaenau Ffestiniog. Dyma beth o’r hanes;

Dyfrig Rees
Cefais sgwrs ddifyr a sylweddol gyda Dyfrig yn trafod ein sefyllfa fel eglwysi Annibynnol gan geisio dyfalu beth fydd ein dyfodol. Cyfeiriodd DR at y ffaith bod mwy a mwy o gynulleidfaoedd yn gweld eu capeli fel baich. Erbyn hyn i lawer mae’r capeli yn adeiladau anghyffyrddus ac anaddas i gynnal gweithgareddau yn ein hoes ni. Maent mor Fictorianaidd ei naws ac yn gymdeithasol rydym wedi symud ymlaen o’r math hwn o bensaernïaeth. Ar ben hynny y mae’r capeli/eglwysi wedi colli eu lle fel adeiladau cymunedol. Cynhelir mwy a mwy o angladdau yn yr amlosgfa yn unig erbyn hyn ac y mae llu o leoliadau hwylus eraill i gynnal priodasau. Am gyfnod hir fel Ymneilltuwyr fe fuom yn ceisio amddiffyn – yn aflwyddiannus – yr hyn oedd gennym o ran traddodiad a chapel. Bellach mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben ac mae rheidrwydd arnom i ymestyn allan.
Un peth sy’n peri gofid yw bod cyn lleied o eglwysi yn gwneud cais am grant gan gynllun Buddsoddi ac Arloesi Undeb yr Annibynwyr. Felly os oes unrhyw un ohonoch gyda gweledigaeth am waith Cristnogol arloesol, yn aelod o eglwys Annibynnol neu yn barod i gydweithio cysylltwch gyda Dyfrig Rees. Ewch i wefan Undeb yr Annibynwyr am ragor o fanylion.
Buom hefyd yn trafod strwythurau amgen o eglwys. Nid strwythurau newydd mewn gwirionedd ond patrymau gwahanol sydd wedi eu defnyddio yn ein gorffennol. E.e., Eglwys sirol neu eglwys o fewn i gyfundeb. Erbyn hyn y mae’n llawer hwylusach i deithio o fan i fan ac felly mae’n haws i Gristnogion deithio ymhellach i le o addoliad nac yr oedd i’n cyn-deidiau. Hefyd gallai eglwys fyw fabwysiadu capeli eraill sydd o fewn cyrraedd er mwyn cynnal gweinidogaeth a gweithgareddau cenhadol.
Cyfeiriwyd at gynlluniau Derwen, Daniel Rowlands a 100 Cymru wrth basio a gofynnwyd y cwestiwn a oes eglwysi mwy rhyddfrydol sy’n gwneud gwaith efengylu a chenhadu. Nid oeddem yn ymwybodol fod unrhyw un ohonynt yn ceisio plannu cynulleidfaoedd newydd.
Diolch i Dyfrig am ei waith ac am roi o’i amser i mi.
Owen Cotton
Yn IKEA y cyfarfyddais ag Owen lle mae’r coffi yn rhad a’r olygfa o Grangetown yn ysblennydd. Owen oedd un o’r ceffylau blaen gychwynnodd gynulleidfa newydd Grace, Grangetown, Caerdydd yn 2015. Gofynnais iddo i adrodd ei hanes yn plannu eglwys newydd. Deuai yn wreiddiol o’r Fenni ac fe ddaeth yma i’r coleg yng Nghaerdydd. Yr oedd eisoes wedi dod i ffydd a bu’n weithgar gyda’r undeb Cristnogol yn y coleg. Yno cyfarfu â Charolette, sydd bellach yn wraig iddo, ac yn fuan fe deimlodd y ddau alwad i wasanaethu’r Arglwydd. Gweithiodd am gyfnod fel gweithiwr ieuenctid yn eglwys Fedyddiedig Rhiwbeina ond eto roedd atyniad i wneud gwaith Cristnogol arloesol. Yn y cyfnod hwn fe gafodd air proffwydol gan yr Arglwydd. Aeth ef a Charolette i’r Wenallt, (bryn sydd yn edrych i lawr dros ddinas Caerdydd), i feddwl ac i weddïo. Daeth Dameg yr Hedyn Mwstard i’w meddwl a gwelsant eu hunain fel dau hedyn mwstard fyddent yn cael eu plannu gan yr Arglwydd i wneud gwaith ei deyrnas.
Felly yn 2015 cychwynnwyd ar waith Grace, Grangetown. Symudwyd yno i fyw a dechreuwyd cyfarfod mewn tai. Ymunodd rhai ffrindiau o eglwys fedyddiedig Rhiwbeina â hwy yn y gwaith. O dipyn i beth aeth y tŷ yn rhy fach a symudwyd y cyfarfodydd i ganolfan Yr Hyb, Grangetown. Wedi i hwnnw fynd yn rhy fychan symudwyd i Ganolfan Hamdden Channel View. Yno, bellach ar fore Sul y mae rhyw 80 – 100 yn cyfarfod gyda nifer o blant. Yn ystod yr wythnos hefyd fe gynhelir gwpiau tai a chwrdd gweddi.
Yn ddiweddar mae cynulleidfa Grace Grangetown wedi penderfynu cychwyn gwaith newydd yn Canton ac y mae 14 o aelodau wedi eu neilltuo i wneud hynny.
Cwestiwn rwy’n ei ofyn i bob un o’r arweinyddion hyn yw faint o dröedigaethau y maent yn eu gweld trwy gyfrwng eu tystiolaeth? Credaf fod hwn yn gwestiwn digon teg oherwydd weithiau yr hyn sy’n digwydd yw bod Cristnogion yn symud o eglwys arall i fod yn rhan o rywbeth newydd. Dywedodd Owen eu bod wedi gweld cyfartaledd o 4 – 5 yn dod i ffydd yn flynyddol.
Diolch Owen am roi amser i gael sgwrs gyda mi.

Jos Edwards
Ar Facetime y cefais sgwrs gyda Jos tra roedd ef ym Mlaenau Ffestiniog a finnau yma ym Mhenylan, Caerdydd. Yn tydi technoleg yn beth rhyfeddol. Y mae Jos a’i wraig Lydia wedi symud i fyw i’r Blaenau gyda’r bwriad o gychwyn gwaith Cristnogol yn y dref honno. Mae ef yn un o’r Cristnogion ifanc mwyaf brwdfrydig rwyf yn ei adnabod a bendith yw cael treulio amser yn ei gwmni. Y mae’n llawn cariad at yr Arglwydd ac y mae ei egni a’i afiaith dros waith Ei Deyrnas yn heintus.
Gofynnais iddo rannu ei hanes gyda mi. Daw Jos yn wreiddiol o’r Bala a chafodd ei fagu yng Ngholeg y Bala lle mae ei rieni yn wardeiniaid. Mae’r coleg yn ganolfan Ieuenctid i’r Presbyteriaid lle mae cymaint o waith gwych yn cael ei wneud a phobl ifanc yn dod i ffydd. Daeth Jos i argyhoeddiad yn ifanc trwy ddylanwad teulu, Y Coleg ac arbennig ymweliadau â gŵyl Gristnogol Springharvest yn Ffrainc. Yno daeth i sicrwydd ei fod i rannu’r newyddion da gydag eraill. Ar un achlysur clywodd siaradwr yn cyflwyno hanes Philip a’r Ethiopiad yn Actau 8 ar gorchymyn i fynd i rannu’r Efengyl. Dywedodd yr angel wrth Philip yn Actau, “Cod,” meddai, “a chymer daith tua’r de, i’r ffordd sy’n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa.” Ffordd anial yw hon. (Act 8:26)
Am gyfnod bu’n gweithio gyda Christians in Sports yn Chichester ac yno y gwelodd sut y mae’r Efengyl yn gallu newid bywydau unigolion. Am gyfnod daeth i Gaerdydd gan weithio i Gymdeithas y Beibl, ond roedd yr alwad i genhadu yn dal i losgi yn ei galon. Priododd gyda Lydia a phenderfynodd y ddau ohonynt trwy ddarllen y Beibl, gweddïo ac ymgynghori â chyd Gristnogion symud i Flaenau Ffestiniog. Mae ganddynt gysylltiad gyda mudiad Derwen sy’n rhoi hyfforddiant i gychwyn cynulleidfaoedd newydd.
Cychwyn y mae’r gwaith yn y Blaenau ac y maent wedi treulio amser yn dod i adnabod y bobl, eu hanghenion a’r ardal. Mae’r achosion Cristnogol traddodiadol bellach yn wan iawn yno a llawer o’r gymdogaeth yn teimlo eu bod yn amherthnasol. Yn wir edrychir ar Gristnogion fel pethau od, weird. Y mae dau gwpl arall sy’n rhannu eu gweledigaeth wedi ymuno â nhw sef Siôn a Meg a Jo a Carys. Dywedodd Jos rhywbeth nad oeddwn wedi ei glywed erioed o’r blaen, sef, y byddai’n braf cael Cristnogion hŷn i ymuno gyda hwy! Derbyniodd Jos swydd ran amser yn Ysgol y Moelwyn a hefyd y mae wedi bod yn helpu yng Nghlwb Rygbi’r Blaenau. Yn y clwb ddaru nhw gychwyn clwb Ieuenctid CIC sy’n llwyddiant ysgubol. Eleni y maent wedi gorfod cychwyn sesiwn ar gyfer plant blynyddoedd ysgol 4-6. Rhwng y ddau glwb mae oddeutu 120 yn mynychu.
Dau beth pwysig a ddywedodd Jos y dylai pob eglwys eu hystyried o ddifrif.
- Pwysleisiodd Jos fod yna anghenion cymdeithasol dwys yn yr ardal, tlodi a llawer yn gorfod byw ar fudd-daliadau oherwydd nad oes swyddi ar gael. Y maent felly yn ystyried sut y gallant wasanaethu’r gymuned gan ddangos cariad Duw yn ymarferol. Pa brosiectau y gellid eu cychwyn fyddai’n dod a budd i’r economi yn lleol gan ddod a gobaith a gwaith? Cyfeiriodd fi at lyfr dylanwadol Tim Keller sef Unreached.
Er mwyn ennill pobl mae’n rhaid eu gwasanaethu yn enw Iesu. Dyma wnaeth Iesu trwy gydol ei fywyd ar y ddaear. “Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” – Mathew 20:28; hefyd Philipiaid 2: 1-11.
Mae’n rhaid cael cydbwysedd yn ein tystiolaeth rhwng yr ysbrydol ar ymarferol ac yn aml mae’r ddau wedi eu plethu trwy’i gilydd.
2. Cyfeiriodd hefyd ei bod yn bwysig cynnal gwaith Cristnogol sy’n deillio o ddoniau, sgiliau a diddordebau y bobl sydd gennym. Nid gorfodi Cristnogion i wneud gwaith nad oes ganddynt ddoniau na diddordeb eu gwneud. Mae hyn wedi bod yn wendid gyda gwaith Cristnogol Cymraeg. Oherwydd ein bod wedi etifeddu cyfarfodydd, strwythurau, cymdeithasau ayb., yr hyn a wnawn yw stwffio rhywun rhywun i mewn i swyddi i gynnal y strwythur. Yr hyn a ddylai ddigwydd yw ein bod yn cymryd cam yn ôl yn ein heglwys yn gyson a gofyn 2 beth. 1. A yw’r cyfarfod/ gymdeithas hon yn berthnasol heddiw ym mywyd yr eglwys? Os nad yw, dylid ei diddymu. 2. Ac yn ail, beth yw diddordeb ein haelodau heddiw a oes ganddynt ddoniau a diddordebau y gallwn eu defnyddio er mwyn cychwyn gweithgareddau newydd? Torri’r got yn ôl y brethyn
Diolch Jos am roi amser o’r neilltu i siarad hefo fi.
Dwi’n edmygu yn fawr eich menter tros yr Arglwydd ac yn gweddïo y byddwch yn llwyddiannus wrth rannu Iesu fel Gwaredwr, y bydd yr Ysbryd yn eich arfogi a’ch donio ac y bydd yr Arglwydd byw yn cerdded gyda chi bob dydd.
