Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Porthi a Gorfoleddu. Y Mwynhad Crefyddol 2.

Dyma ail ran yr erthygl sy’n sôn am rai o nodweddion addoliad ymhlith Cristnogion Cymru ar ganol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.

Llun gan Mic Narra ar Unsplash

Porthi a Bloeddio

(Porthi oedd yr arfer cyffredin mewn oedfa lle’r oedd pobl yn y gynulleidfa yn gweiddi yn ddigymell gan ddweud pethau fel “Diolch iddo. Ar ei ben bo’r goron. Amen. Haleliwia. Bendigedig.” Neu ddyfynnu rhai adnodau ar lafar. Gwneid hyn yn gyson yn ystod pregethau.)

Gan fod y cyfarfodydd yn rhydd a chartrefol, ‘roedd ochneidio, porthi a bloeddio yn bethau cwbl arferol. Cadarnheid yr hyn a ddywedid gan y pregethwr gydag “Amen”, “Bendigedig, ” “Diolch iddo,” neu ymadroddion cyffelyb. Peth dieithr at ei gilydd fyddai oedfa gyfan gwbl dawel lle na byddai na siw na miw o gyfeiriad y gynulleidfa. Yng nghofiant John Evans, Eglwys-bach, ceir disgrifiad rhagorol o ymddygiad y blaenoriaid mewn oedfa gyffredin ar y Sul.

“Ychydig o swn a gynhyrchent yn gyffredin, serch fod y gwrandawiad bob amser yn fywiog. Yr oedd ganddynt ddull o wylio wynebau ei gilydd dan y bregeth, ac, os byddai achos, o deligraphio effaith y dylanwad o’r naill i’r llall; ond gwnaent hyn oll yn hynod ddirgelaidd, ac yn hollol foneddigaidd. Gollyngid allan ambell ‘Amen! ‘ a ‘Diolch! ‘ mewn llais cryf a pheraidd, gan wr Bryn-y-Frân, pan lenwid ei lygaid glas mawr â deigryn; ymollyngai gwr y Berllan Bach, pan wrth ei fodd, i ryw chwerthiniad dirwasgol a nefolaidd, a dyhidlai gawod o ddagrau i’w gadach (hances) goch, gan ymgrymu â’i ben yn isel wrth ochr y pwlpud…… Ymsirioli fel adlewyrchiad haul ar fryn y byddai gwr Tan-yr-Ywen dan y bregeth, gan ysgafnhau ei fron addolgar ag ambell ochenaid hyglyw mewn llais tenor mwyn a chlochaidd. Pan welid arwyddion teimlad ar y pedwar hyn, toddai C. Foulkes yn ei set, clywid ‘Amen! ‘graslyd, and hynod arwyddocaol, ar draws y llawr, o sêt deuluol Tan-yr-Alit, o bendraw y capel, ac ymollyngai brodyr llai amlwg yma ac acw, yn enwedig brawdoliaeth y set fawr, i borthi y gwasanaeth ac i gymysgu eu dagrau….. ” (10)

Roedd och-neidio yn rhan o addoliad.

Tu mewn i Ebeneser, Paradise Place, Caerdydd 1977 gan Owain Tudur Jones, Llanrwst.

Gorfoledd.

Hyd yn hyn yn yr erthygl hon, ‘rydym wedi cyfeirio at nifer o elfennau unigol, fel wylo, llewygu, neidio, bloeddio a phorthi oedd yn nodweddu’r addoliad. Ond y gwir yw fod y rhain yn aml yn digwydd ar yr un pryd mewn oedfa. Creai hyn oedfaon hynod swnllyd a chynhyrfus a allai ymddangos yn anhrefn llwyr. Yng nghofiannau a chylchgronau’r cyfnod defnyddid y gair ‘gorfoledd’ i gyfleu’r holl elfennau hyn, ac mae toreth o enghreifftiau o oedfaon gorfoleddus. Yma cyfeiriaf at ddim ond un enghraifft.

Cynhaliwyd Cymdeithasfa’r Methodistiaid Calfinaidd ym Mangor ym 1838, ac oherwydd y tywydd gwlyb bu’n rhaid cynnal yr oedfaon yng nghapeli’r ddinas. Ar un o nosweithiau’r Gymdeithasfa ‘roedd cyfarfod pregethu yn y Tabernacl a’r capel o dan ei sang. Y pregethwyr y noson honno oedd John Phillips a John Hughes, Pontrobert,  ac fel hyn y disgrifiai Henry Lewis yr oedfa, (Arfer ar y pryd oedd cael dau bregethwr mewn un oedfa.)

“Pregethai (John Phillips) oddiar y geiriau, “Cymer addysg o Jerusalem ” &c. Yr oedd ei weinidogaeth yn dra effeithiol, a’r gorfoledd mor gyffredinol ac mor uchel, fel, cyn y diwedd, nas gellid clywed yr un gair o’r bregeth yn yr oriel. Yr Hybarch John Hughes, Pontrobert, oedd i bregethu olaf. Dywedir ddarfod iddo roddi pennill allan i’w ganu cyn cymeryd ei destyn, ac i’r pennill gael ei ganu gan y rhai oedd yn y sêt fawr a’i chyffiniau, ond na wyddai y rhai oedd yn y gallery, gan fod y gorfoledd yn boddi y cwbl. Gwelid yr hen batriarch yn dodi ei law agored wrth ei wefusau er cynnorthwy i’w lais, ond ni chyrhaeddai yr un gair a ddywedai glustiau neb oedd yn yr oriel na rhannau o’ r llawr. Rhoes y pregethwr i fyny’ r cais, a therfynodd y gwasanaeth, ond parhaodd y gorfoledd uchel yn hir ar ol hynny.” (11)

Nodwedd arbennig i’r gorfoledd oedd nad oedd gan unrhyw un rheolaeth arno; ni ellid ffrwyno cynulleidfa orfoleddus. Erbyn hyn fe welwn yn glir pa fodd yr oedd y gynulleidfa yn ymddwyn ac yn cymryd rhan weithredol yn yr addoliad. Nid oedd unrhyw ffurfioldeb yn perthyn i’r cyfarfodydd; i’r gwrthwyneb, ‘roedd rhyddid i’r addolwyr fynegi eu teimladau’n fyrfyfyr a digymell. Canlyniad hyn oedd bod cyfle i bob un gymryd rhan. Nid oedd y siarad yn gyfyngedig i un dyn, ac nid un llais o’r pulpud yn unig a glywid, gallai unrhyw un ddyfynnu adnod,  gweddïo neu ledio emyn. Dyma yn wir oedd offeiriadaeth yr holl saint.

‘Roedd cynnydd Pentecostaliaeth ymhlith pobl dlodion a gorthrymedig Cymru yn awgrymu fod gan y grefydd deimladol apêl neilltuol at y cyfryw rai. Wrth gwrs rhan o waith yr efengyl Gristnogol yw galluogi credinwyr i ddelio ag anawsterau bywyd, ac yn sicr yr oedd pobl yn troi’ n rhannol at Gristnogaeth am gysur oherwydd caledi eu bywyd pob dydd.

Ond erys y ffaith fod gwerin Cymru’n gweld atyniad yn y grefydd deimladol hon. Yr oedd cynnwrf emosiynol yn denu pobl anghrediniol i ymuno, ac yn foddion i’w hargyhoeddi. Yr oedd berw teimladol yn rhoi cyhoeddusrwydd dramatig i grefydd, ac ‘roedd rhywbeth heintus yn y gorfoledd a’r emosiwn a oedd yn denu eraill.

Llun gan Ernie A. Stephens ar Unsplash

Teimladau’ n lleihau

Er yr holl frwdfrydedd yn yr addoliad yn arbennig mewn cyfnodau o ddiwygiad, teimlai rhai fod amharodrwydd i ddangos teimladau’n dechrau codi ei ben a bod llai o ymateb i bregethu. Wedi iddo gyfeirio at gyfarfod gorfoleddus fu yn Llannerch-y-medd, ym 1825, ac ymateb y gynulleidfa o dan bregeth W. Roberts, Amlwch, ychwanega H. Jones, Bangor, y sylwadau hyn.

“Paham na welid teimladau cyffelyb yn awr, dan y gwrandawiad o’r un gwirioneddau? Ni ddywedwyd dim yn eglurach, nac yn fwy effeithiol, y pryd hwnnw, o ran y traddodiad ym mhob modd, nag a leferir yn fynych yn y dyddiau hyn. Efallai nad oes yr un cyfrif athronyddol a ellir ei roddi, mewn unrhyw sicrwydd, am y gwrandawyr na’ r pregethwr. Y mae ymarferiad yn newid ansawdd teimlad, er mai yr un yw’r gwirionedd.” (12)

Y gwir yw bod llawer o ddylanwadau’n rhoi pwysau ar yr addolwyr i newid eu hymddygiad. Gallwn nodi’r pwyntiau a ganlyn fel rhai o’ r ffactorau hynny.

  1. Parch tuag at gapeli fel adeiladau “sanctaidd” yn cynyddu a phwyslais ar wedduster yn nhŷ Dduw.
  2. Yr awydd cynyddol i gael trefn ar bopeth gan gynnwys gwasanaethau; canlyniad gorfoledd oedd anhrefn.
  3. Roedd y niferoedd yn y cyfarfodydd yn cynyddu a phobl yn analluog i ymlacio i’r un graddau yng nghwmni ei gilydd, gan nad oedd yr un agosatrwydd rhwng aelodau mewn cynulleidfaoedd mawr ag oedd mewn cynulleidfaoedd bychain.
  4. Yn ystod ail hanner y ganrif ‘roedd llawer mwy o arweinwyr cymdeithasol yn aelodau o’r Cyrff, e. e., cyfreithwyr, ynadon, perchnogion busnesau. Nid gweddus oedd i bobl o statws golli arnynt eu hunain wrth addoli.
  5. Roedd dyfodiad addysg yn dysgu pobl i ddisgyblu eu hunain lawer mwy, ac i fynegi eu hunain mewn ffyrdd llawer llai emosiynol.
  6. Yn sgil y Diwygiad Cerddorol ganol y ganrif a dyfodiad y Sol-ffa daeth canu cynulleifaol i fod yn llawer mwy trefnus a disgybledig. Cyn hynny roedd canu yn yr addoliad yn bur symol.

Oherwydd y rhesymau hyn, ac eraill, roedd teimladrwydd yn lleihau a ffurfioldeb a threfnusrwydd yn prysur ennill y dydd.

Gwelwn felly newid ym mhatrwm addoliad erbyn diwedd yr 19eg ganrif. Erbyn hynny ‘roedd aelodau’r Cyrff Ymneilltuol yn llawer mwy tawedog nac y buont yn gynt yn y ganrif, ac yn fwy amharod i fynegi eu teimladau. A yw hyn yn arwydd eu bod yn prysur droi’n enwadau? A yw enwadau yn profi diwygiadau cyffredinol? Cyhyd ac yr oedd gorfoledd diwygiadol o dan arweiniad yr Ysbryd yn rhan o fywyd y Cyrff Ymneilltuol Cymreig fe gedwid nodweddion sectyddol. Oherwydd ‘roedd y diwygiadau’n atal ffurfioldeb gaeth a threfnusrwydd ddefodol. Ai peth da yntau peth drwg oedd ein bod wedi colli’r elfennau teimladol o’n haddoliad? Efallai mai Diwygiad ’04 – ’05 oedd yr ebychiad olaf o’r gorfoledd Cymreig, am y tro.

Ond dwi’n gwybod hyn. Gallwn fod yn llawer rhy dideimlad yn ein haddoliad heddiw wrth feddwl ein bod yn dathlu cariad Duw yn Iesu a’r iachawdwriaeth ryfeddol y mae yn ei roi yn rhad ac am ddim inni trwy ei Fab. A yw’r Haleliwia yn ein heneidiau ni?

(Gwn y gellir rhoi rhesymau cymdeithasegol a seicolegol am rai o’r nodweddion a geir uchod ac ar gyfer trafodaeth ddyfnach rhaid mynd i’r bennod “Y Cartref a’r Capel” yn fy nhraethawd ymchwil doethuriaeth sef  “O’r Sect i’r Enwad: Datblygiad Enwadau Ymneilltuol Cymru, 1840 – 1870. Tudalennau 215 – 235.)

Troednodyn

10.  John Price Roberts & Thomas Hughes, Cofiant y Parch John Evans. Eglwysbach, (Bangor, 1903), 66-67. Gw., Owen Thomas & J. Machreth Rees, Cofiant Y Parchedig John Thomas, D. D. Liverpool, (Llundain, 1898), 167.

11. Henry Lewis, Canmlwyddiant y Tabernacl, (Conwy, 1907), 85.

12.  H. Jones, Cofiant y Parch. W. Roberts, Amlwch, (Llannerch-y-medd, 1869), 59.



Gadael sylw