Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Plannu Eglwysi Newydd –

Gwersi o’r gorffennol

Llun gan Trent Erwin ar Unsplash

Cychwynnodd y rhan fwyaf o eglwysi Ymneilltuol Cymru ar ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif mewn cartrefi, tyddynnod a ffermydd. Roedd hyn yn wir yn hanes pob un o’r traddodiadau Cristnogol. Afraid dweud ar ddechrau’r 19eg ganrif y cynhelid mwy o gyfarfodydd Cristnogol mewn tai nac mewn addoldai. Roedd y cyfarfodydd hyn ar aelwydydd yn hynod bwysig yn lledaeniad Cristnogaeth yng Nghymru oherwydd eu bod yn dylanwadu yn uniongyrchol ar galon cymdeithas sef y teuluoedd yn eu cartrefi. Nid crefydd amhersonol y gellid ei gadael mewn capel neu eglwys ar derfyn y gwasanaeth ar y Sul oedd hi, ond ffydd bersonol a dreiddiai at fêr esgyrn ein cymunedau. Crefydd yr aelwyd oedd hi, ac o ganlyniad nid oedd yn bosibl gwahaniaethu rhwng bywyd seciwlar a bywyd ysbrydol, rhwng bywyd yr eglwys a bywyd y teulu. Yr oeddent yn asio’n un.

Cychwyn Achosion

O’r cyfarfodydd hyn roedd eglwysi newydd yn tyfu’n blith drafflith heb unrhyw drefn na chynllun penodol ond o ganlyniad i ffydd ddi-ildio Cristnogion cyffredin yn y ffaith fod Duw yn cyflawni ei waith o ddod a’i deyrnas i’n plith. Dyma pam fod lleoliadau capeli yn aml yn ymddangos mor flêr a di-drefn.

O’r dechrau felly roedd plannu achosion newydd yn rhywbeth oedd yn digwydd yn reddfol. Roedd Cristnogion am rannu’r newyddion da fod Duw yn achub pechaduriaid trwy Iesu Grist a’i bod yn hanfodol i Gymry glywed a chredu hyn.

Tro ar fyd

Hyd ddiwedd y 19eg ganrif roedd y syniad o gychwyn achosion newydd yn gwbl arferol ond ar ddechrau’r 20fed ganrif daeth y broses, i raddau helaeth, i ben. Rhesymau posibl am hyn oedd: 1. Llwyddiant rhyfeddol Ymneilltuaeth yng Nghymru; 2. Roedd digon o gapeli wedi eu hadeiladu ym mhob twll a chornel o’r wlad; 3. Datblygodd Ymneilltuaeth ddiwylliant mewnblyg oedd wedi ei ganoli yn y capeli. Yn y gorffennol roeddent yn mynd allan i’r priffyrdd a’r caeau ond yna ar ddechrau’r 20g ganrif roeddent yn dechrau gwahodd pobl i’r i’r capeli.

Wrth edrych yn ôl y mae’n amlwg mai camgymeriad oedd adeiladu’r holl gapeli gan fod gormod ohonynt a chan ei fod wedi marweiddio’r egwyddor genhadol yn ein plith.  Hefyd daethpwyd i feddwl mai rhywbeth i’w gynnal mewn capel oedd Cristnogaeth. Camgymeriad enfawr. 

Gwersi i’w dysgu

Er hynny, heddiw, wrth i’r achosion ddirwyn i ben ribidirês, y mae gennym wersi i’w dysgu gan ein rhagflaenwyr Cristnogol yn y 18fed a’r 19eg ganrif o ran eu sêl genhadol yn rhannu Iesu Grist fel yr unig Arglwydd a Gwaredwr a’u brwdfrydedd wrth gychwyn achosion newydd. Daeth yr awr i ninnau gychwyn achosion newydd ribidirês.

Ebeneser, Paradise Place, Caerdydd. Dymchwelwyd er mwyn adeiladu canolfan siopa Dewi Sant oddeutu 1978. Llun: Tudur Jones, Llanrwst.

Ebeneser, Caerdydd

Fel enghraifft o hyn hoffwn rannu gyda chi waith Ebeneser, Caerdydd, yn plannu achosion newydd yn y 19eg ganrif. Un esiampl yw Ebeneser o gannoedd o enghreifftiau  eraill ar hyd a lled Cymru ond yn naturiol hwn yw’r un sydd agosaf at fy nghalon i.

Yr hyn sy’n drawiadol yw’r modd yr oedd eglwys fel Ebeneser yn ymateb i’r newidiadau cymdeithasol oedd yn digwydd yn frawychus o sydyn o’i chwmpas. Pan sefydlwyd Ebeneser ym 1826  roedd poblogaeth tref Caerdydd oddeutu 3,500. Ar y pryd roedd poblogaeth Abertawe a Merthyr Tudful yn fwy. O ganlyniad i’r chwyldro diwydiannol a masnachu glo, erbyn 1891 roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 128,915. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd Ebeneser – ac eglwysi eraill – yn ymateb fel lladd nadroedd i’r twf trwy gychwyn achosion newydd mewn maestrefi oedd yn tyfu fel caws llyffant. Bu cynulleidfa Ebeneser yn gyfrifol am gychwyn 5 achos newydd yn y dref rhwng 1857 a 1894. Un pob 8 mlynedd am gyfnod o 40 mlynedd. Dyma grynodeb o’r hyn wnaethpwyd yn seiliedig ar Hanes Ebeneser Caerdydd 1826 – 1926 gan y Parch. H. M. Hughes.

Y tu mewn i Ebeneser, Paradise Place. Llun: Tudur Jones, Llanrwst

Eglwys Mount Stuart

“I gyfeiriad y dociau y tyfai’r dref bennaf rhwng y 40au a’r 60au ac yr oedd llawer o aelodau Ebenezer yn preswylio yn y parthau hynny. Teimlai amryw ohonynt, a rhai yn aelodau a swyddogion blaenllaw yn yr eglwys, ei bod yn hen bryd i sefydlu achos yno, a buasent wedi symud yn gynt onibae am ddyled o £600 a gweinidogaeth effeithiol y Parch. J. D. Williams.

Wedi marwolaeth Mr. Williams ystyrid ei bod yn adeg cyfleus i sylweddoli’r dymuniad. Y tri oedd ar y blaen yn y mudiad oedd T.B. Evans, Anchor House, David Jones, Coal Merchant a T. Davies, Crichton Street, Ysgrifennydd Ebenezer. Ymgymerodd y tri hyn a sicrhau tir, a chawsant ef mewn man hynod gyfleus ac amlwg gan Ardalydd Bute yn y sgwâr newydd a elwid ar enw ei balas yn yr Alban, Mount Stuart Square. Yn y gymdogaeth hon yr oedd canolfan masnach y dref, ac heb fod nepell yr oedd preswylfeydd rhai o ‘r prif farsiandwyr. Loundoun Square y pryd hwnnw oedd trigias (lle byw) mawrion y môr.” (Tud.48)

Wedi sicrhau tir dechreuwyd adeiladu yn ddi-oed. Gosodwyd y garreg sylfaen yn Hydref, 1857, ac agorwyd ef Mai 23ain a’r 24ain, 1858, pryd y gweinyddwyd gan y Parchg. D. Rees, Llanelli a Hugh Jones (Cromwel o Went) Caerfyrddin……. Eithr ar y 30ain o Fai, ar ôl gwyl yr agoriad, y corffolwyd yr Eglwys yn ffurfiol. Daeth y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn, yno i gyflawni’r gorchwyl hwn, a darllenodd lythyrau a gollyngodd 38 o aelodau Ebenezer i ffurfio’r eglwys newydd.” (Tud. 49)

“Ond i ddychwelyd at y fam eglwys, Ebenezer: cafodd hithau gryn golled yn ymadawiad heddychol y saint i Mount Stuart Square ym 1858. Yr oedd rhif yr eglwys yn ôl cyfrif a wnaed yn 1855 yn 221, ond daeth i lawr i 180 ar ôl i’r cyfeillion fyned allan i Mount Stuart Square.” (Tud. 50)

Capel Severn Road

Eglwys Severn Road, Canton

“Un o’r pethau cyntaf o bwys a ddaeth i ran Mr. Evans – y Parch. J. Morgan Evans oedd gweinidog Ebeneser ar y pryd – i’w wneuthur oedd sefydlu eglwys newydd yn Severn Road, Canton. Fel y crybwyllwyd, cynhelir cyfarfodydd gweddi ac Ysgol Sul, ac odfeuon pregethu, yn y rhanbarth hon o’r dref ers cryn dro, ond yn 1867 y corffolwyd eglwys reolaidd yno. Mae y “llythyr gollyngdod” gwreiddiol a roddodd eglwys Ebenezer, ac a arwyddwyd drosti gan Mr. Evans, i 23ain o aelodau yn awr ger fy mron, ac wedi ei ddyddio Chwefrol 17eg 1867. O’r 23ain yr oedd 16eg yn chwiorydd, a dim ond 7 o frodyr.” (Tud.58)

“Cafodd yr Eglwys ieuanc dir rhydd-ddaliadol i adeiladu arno, ond cynhalient eu cyfarfodydd ar y pryd yn nghapel Saesneg Llandaff Road, hyd nes delai’r addoldy yn barod. Rhoddodd yr eglwys ieuanc alwad yn ddi-oed i Mr. T. C. Williams, myfyriwr yng Ngholeg Aberhonddu, a chafwyd benthyg Capel y Methodistiaid, Salem, i gynnal yr urddiad yn niwedd 1867. Agorwyd y capel newydd yn Severn Road yn 1868, ac ystyrid ef yn gapel hardd a chryno. Costiodd dros £1,500, ac o’r swm hwn ymgymerodd Ebenezer a thalu £200, a chyfrannodd rhai o’i haelodau yn bersonol yn bur hael at yr eglwys wan, dros ben y swm uchod.” (Tud. 59)

Minny Street, Cathays (Waunddyfal)

“Yn gynnar yn yr wyth degau tyfai Caerdydd yn gyflym i gyfeiriad Cathays – rhanbarth ogledd-ddwyreiniol y dref. Ers cryn dro yr oeddys wedi rhagweled hyn i raddau, ac Ysgol Sul yn cael ei chynnal yno yn nghwr isaf Cathays Terrace. Eithr erbyn hyn yr oedd nifer o aelodau yn byw yn y gymdogaeth, a’r pellter oddiwrth Ebenezer yn cael ei deimlo’n fwyfwy o rwystr, yn enwedig ynglŷn a’r plant a’r bobl hynaf, fel yr euthpwyd at y gwaith o drefnu i gael ysgoldy pwrpasol mewn man cyfleus ac addawol. Gwnaeth popeth, fel arfer ynglŷn a changhennau Ebenezer, yn weddaidd a rheolaidd. Daeth 20 o’r aelodau a breswyliai yn y cylch yn ddirprwyaeth at eglwys Ebenezer i geisio ganddi gychwyn, ac wedi rhybudd priodol cynhaliwyd Cwrdd Eglwys nos Iau, yr 17eg o Fai, 1883, a phenderfynwyd bod achos Cymraeg i gael ei sefydlu yn Cathays mor fuan ag y byddai yn bosibl. Cadarnhawyd hyn gan yr holl eglwys y nos Sul dilynol, Mai’r 20fed, gyda chryn lawer o frwdfrydedd. ” (Tud. 67)

“Ni buwyd yn hir cyn sicrhau tir i ysgoldy a chapel ar gongl Minny Street, a phenodwyd Mr. J. P. Jones, yn bensaer, i dynnu allan gynllun o ysgoldy, a thŷ annedd cysylltiedig ag ef. Mr. D. J. Davies oedd yr adeiladydd, a chostiodd y cyfan £585 11s.” (Tud. 68)

“Nid hir y buwyd cyn cynnal odfeuon pregethu rheolaidd yn yr ysgoldy, ac ar y 18fed o Chwefror 1885, corffolwyd eglwys yno gan y Parch. J. Alun Roberts B.D., yr hwn erbyn hyn oedd gweinidog newydd Ebenezer. Gollyngwyd 69 o aelodau o Ebenezer, ac yr oedd 21 o aelodau o fannau eraill wedi cysylltu eu hunain a’r achos, fel yr oeddynt yn 90 o rif ar sefydliad yr eglwys.” (Tud.69)

“Yn y flwyddyn 1886 gwnaed ymdrech i glirio cyfran o’r ddyled ymaith ar unwaith a thalwyd £200 heb golli amser. O’r £400 oedd yn aros cymerodd y fam-eglwys £300 arni ei hun, gan adael y £100 gweddill ar yr eglwys ieuanc, a thalodd y swm hwn yn gynnar yn 1886. Yr un adeg rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i’r Parch. O. L. Roberts, Bethlehem, Pentyrch, i ddod yn fugail cyntaf arni. Dan ei arweiniad ef a’i swyddogion selog codwyd capel hardd yn 1887, a thyfodd yr achos yn sicr a graddol o hynny hyd yn awr……” (Tud.69)

Capel yr Annibynwyr Saesneg ar Richmond Road, lle saif Capel y Crwys heddiw

Richmond Road, Eglwys Annibynnol Saesneg.

“Tua’r un adeg y plannwyd achos Saesneg Richmond Road, a chan eglwys Ebenezer yr oedd y llaw bennaf yn y mudiad. Yr oedd ym mryd y Parch. J. Morgan Evans i gael achos Saesneg yn ogystal ag un Cymraeg yn ardal gynhyddol Cathays. Ac un o’i ddymuniadau olaf yn 1882 oedd cael gan ei gyfeillion, Dr. Edgar Jones a Mr. Noah Rees, un o’i ddiaconiaid, i addo cychwyn achos Saesneg yn y rhanbarth hon o’r dref. Cytunasant hwythau a chawsant ddiaconiaid ac aelodau Ebenezer i’w pleidio yn selog. Daeth eraill o eglwysi Charles Street a Hannah Street i helpu yn egniol hefyd. Dewisasant fan yng nghanol Richmond Road fel y lle mwyaf cyfleus i godi ysgoldy arno fel cartref cyntaf yr achos. Yr oedd yn adeilad eang, a digon o dir ynglyn ag ef i godi capel helaeth a theilwng pan ddeuai’r amser cyfaddas. Yr oedd mwyafrif yr ymddiriedolwyr o fysg swyddogion Ebenezer. Costiodd yr ysgoldy £1, 600. Agorwyd ef Gorffennaf 13 a 1884, a chorffolwyd yr eglwys gan Dr Rees, Abertawy, 3ydd o Awst. Erbyn hyn y mae capel hardd ac eang wedi ei godi gan yr eglwys trwy draul o £6,300 – un o’r addoldai harddaf yn y ddinas. Agorwyd ef yn 1898, ac mae ynddo eglwys weithgar.” (Tud. 69 – 70)

Capel Bethlehem Splott sydd bellach wedi ei ddymchwel

Bethlehem, Sblot.

“Yn awr deuir at sefydlu eglwys Bethlehem. Yn gynnar yn yr wyth degau yr oedd gwaith dur mawr Dowlais wedi symud i ardal y Moors – y rhan bellaf o Splotlands – a’r boblogaeth yn cynyddu yn gyflym yno. Yn eu plith yr oedd llawer o Gymry crefyddol o Dowlais, ac amryw ohonynt yn Annibynwyr selog, ac wedi ymuno ag eglwys Ebenezer. Eithr daethant cyn hir i deimlo bod y ffordd yn rhy bell iddynt ddyfod deirgwaith i’w capel ar y Sul – yn enwedig i’w plant – ac aeth y swyddogion ati rhag blaen, yn ôl hen arfer yr eglwys, i ymorol am le cyfleus i gynnal Ysgol Sul yn yr ardal……. Cafwyd ystafell at y pwrpas yn Pearl Street yn 1892, a buan y casglwyd yno Ysgol Sul lewyrchus.”

“Yno yr oeddynt pan ddeuthum (Y Parch. H.M.Hughes) yma yn 1894, ond yr oeddys (oeddent) eisys (eisoes) wedi sicrhau tir i adeiladu arno ar gongl Eyre Street a Railway Street. Euthpwyd ati yn ddi-oed i godi ysgoldy eang a hardd yno, ac agorwyd ef Mehefin 18fed, 1895. ……. O’i agoriad cynhaliwyd gwasanaeth llawn ar y Saboth yn yr ysgoldy newydd, gan fod yr achos yn cynhyddu yn gyflym. Teimlid felly mai’r peth doethaf oedd sefydlu eglwys gyflawn ac annibynnol yno yn ddioed, a hyn a wnaed ar nos Iau Ionor (Ionawr) 16eg 1896…..” (Tud. 86)

“Darllenais 132 o lythyrau aelodaeth y noson honno, ac o’r rhain yr oedd 117 o eglwys Ebenezer. Yr oedd yr ysgoldy newydd wedi costio £800, ac ymgymerodd eglwys Ebenezer a £500 o’r ddyled hon….. Galwyd yr eglwys, “Bethlehem,” a bu dan fy ngofal gweinidogaethol am ychydig amser.” (Tud. 87)

“Bethlehem yw merch ieuengaf Ebenezer (hyd yn hyn), a phery i weithio yn llwyddiannus yn y rhan hon o’r ddinas. Yn Ebrill 1908 gosodwyd cerrig sylfaen eu capel newydd presennol….. Agorwyd ef yn Hydref yr un flwyddyn, ac y mae’n addoldy hardd ac eang.”

Gair i gloi

Wrth ddarllen yr hanes uchod gwelwn yn gwbl amlwg 6 peth pwysig i’w nodi.

  1. Eglwys sy’n plannu cynulleidfa newydd. Trwy hynny mae’n gweithredu trwy ffydd ac yn rhoi cefnogaeth i’r gwaith newydd trwy weddi ac yn ymarferol.
  2. Roeddent yn gweld angen tystiolaeth Gristnogol mewn cymuned ac yn gweithredu’n syth i ddarparu hynny. Dim tindroi.
  3. Roeddent yn cychwyn ysgol Sul oedolion a phlant yn gyntaf i weld os oedd potensial.
  4. Roeddent yn rhyddhau aelodau i fynd at y gynulleidfa newydd fel bod sylfaen gadarn i adeiladu arni.
  5. Roeddent yn noddi’r prosiect newydd yn hael yn ariannol gan leihau eu dyled.
  6. Roeddent yn fuan yn rhyddhau’r gynulleidfa newydd i fod yn eglwys annibynnol. Nid oeddent yn gweld hyn fel bygythiad i’r fam-eglwys.

Yma mae gwersi ac anogaeth inni yma ar gyfer y cyfnod nesaf yn hanes Cristnogaeth yn ei gwlad. A ydym ni mor ddewr â’n rhagflaenwyr? A oes gennym ni ddigon o ffydd yn yr Arglwydd i fentro?

Cwestiwn sy’n codi yn fy meddwl i y dyddiau hyn yw, a oes angen i eglwys berchnogi capel?

Ymestyn allan diweddar

Yn y 1980au o dan arweiniad y Parch. Dr. Geraint Tudur, fe sefydlodd Ebeneser ysgol Sul lwyddiannus yng Nghanolfan Hamdden Llaneirwg. Daeth y fenter hon a ni i gysylltiad gyda theuluoedd newydd ac fe ddaeth nifer ohonynt yn aelodau o’r Eglwys. I rai, yr oedd dod yn ôl at eglwys wedi blynyddoedd o absenoldeb yn anodd, ond gyda chefnogaeth garedig yr aelodau a’u croeso cynnes, llwyddwyd i wneud eu dychweliad mor gyfforddus a diffwdan â phosibl, rhywbeth y bu iddynt ei werthfawrogi’n fawr.

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf -2018 – 2023 -y mae teuluoedd o Ebeneser wedi sefydlu Angor yn ardal Grangetown o’r ddinas gyda chefnogaeth a nawdd yr eglwys er mwyn cyrraedd teuluoedd newydd. Yn ddiweddar mae’r gwaith hwn, sy’n cael ei gynnal pob pythefnos yng Nghanolfan Reach, wedi tyfu gyda hyd at 30 o oedolion a 10 o blant yn mynychu. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld sut bydd y fenter hon yn datblygu a gweddïwn am fendith Duw ar y weledigaeth.