Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Church Planter – Y Dyn

Adolygiad o Church Planter. The Man, The Message, The Mission, (Crossway, 2010), Darrin Patrick.

Brwydrais i ddarllen y gyfrol hon oherwydd nad oedd yn cyfeirio llawer at blannu eglwysi sef y prif reswm pam yr oeddwn wedi ei benthyg. Tybiais y byddai llyfr gyda’r teitl Church Planter yn sbowtio yn helaeth am gychwyn achosion newydd. Nid felly y mae. I ddweud y gwir mae’r teitl yn gamarweiniol iawn oherwydd hyd nes i rhywun gyrraedd y tudalennau olaf cyfeirio y mae at addasrwydd dynion i arwain eglwysi, neges yr Efengyl a chomisiwn yr Iesu.

Roeddwn yn ymwybodol bod y rhagair wedi ei ysgrifennu gan Mark Driscoll, Mars Hill gynt, arweinydd Cristnogol arall oedd â thraed o glai. Bu’n arwain ei fega-eglwys yn yr Unol Daleithiau yn  hyf, llwyddiannus, hyderus a llawdrwm ond yn y diwedd dirfawr fu ei gwymp. Er hynny ymddengys ei fod yn codi ei ben unwaith eto yn raddol ar y cyfryngau torfol. Un o’r podlediadau mwyaf difyr a dirdynnol rwyf wedi gwrando arno yw “The Rise and Fall of Mars Hill,” yn olrhain camgymeriadau a chwymp yr arweinydd.

Roeddwn felly yn disgwyl i’r gyfrol – gan ei fod yn cael cymeradwyaeth Driscoll – gynnwys elfennau o Gristnogaeth y Congrinero (Macho)  a arddelir ganddo – ac ni chefais fy siomi. Mae hyd yn oed y llun ar y clawr yn awgrymu hynny! Weithiau, mae tystiolaeth rhai Cristnogion gwrywaidd Americanaidd o’r Efengyl mor bell o’m dealltwriaeth i ohoni wrth ddarllen yr un Beibl, fel eu bod yn codi fy ngwrychyn.

Ta beth am fy rhagfarnau personol i, beth am y gyfrol ei hun?

Mewn gwirionedd yr hyn a wna’r awdur yw cyflwyno dysgeidiaeth Feiblaidd am arweinydd eglwysig, y neges Gristnogol a chenhadaeth. Y ddealltwriaeth ganddo yw mai dim ond dynion sy’n cael bod yn weinidogion ar eglwysi a phlanwyr, egwyddor nad wyf yn cytuno gyda hi o gwbl a hynny ar sail Beiblaidd.

Y Cynnwys

Cyflwynir y ddysgeidiaeth o dan dri pennawd sef, yn gyntaf,

  1. The Man

Yn yr adran hon cyflwynir nodweddion y dyn sydd i arwain gan dynnu ar adrannau fel 1 Timotheus 3: 1-7, 2 Timotheus 1: 13-14, Actau 20: 20, 27. Rhai o’r is benawdau yw, A rescued Man, A Called Man, A Qualified Man, A Dependant Man.

  • Yn ail, The Message

Yma y mae neges sylfaenol Cristnogaeth yn cael ei chyflwyno. Gellir crynhoi yr hyn a ddywedir gyda’r adnod, “Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16)

  • Ac yn drydydd, The Mission

Fe’n harweinir i ystyried y genhadaeth Cristnogion sy’n cael ei chrynhoi yng nghomisiwn yr Iesu, “Rhoddwyd i mi,” meddai, “bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser.” (Mat 28:18-20)

Yr adran olaf hon oedd fwyaf diddorol i mi wrth ystyried ymestyn allan fel Cristnogion yng Nghymru a chychwyn cynulleidfaoedd newydd. Mae yma sylwadau gwerthfawr am yr elfen ysbrydol a chymdeithasol i genhadaeth leol a’r modd y mae’r newyddion da Cristnogol yn newid bywydau unigolion a chymdeithas. Mae’n werth darllen y bymthegfed bennod sef, The How of Mission: Contextualisation, sy’n ymdrin â chyflwyno Cristnogaeth mewn diwylliannau a chyd-destunau  amrywiol.

Os ydych yn chwilio am straeon, canllawiau ac ysbrydoliaeth i blannu cynulleidfaoedd newydd, ni allaf gymeradwyo “The Church Planter” fel llyfr i’w ddarllen. Rwy’n siwr bod llyfrau gwell wedi eu cyhoeddi ar y testun hwn.

Unrhyw awgrymiadau?

Llun gan Jackson Simmer ar Unsplash

Problem

Wrth ddarllen cyfrol Americanaidd fel hon rwy’n sylweddoli fwyfwy ein bod angen cynhyrchu ein llenyddiaeth Gristnogol ein hunain sy’n adlewyrchu ein sefyllfa benodol yng Nghymru. Os na allwn fforddio argraffu llyfrau, mae angen gwefannau, podlediadau a blogiau sy’n mynd i’r afael o ddifrif â diwinyddiaeth, athroniaeth ac athrawiaeth Gristnogol o’n safbwynt ni. Oni ddylai Cristnogion Cymraeg gael eu comisiynu i feddwl a datblygu syniadaeth Feiblaidd gyfoes ar gyfer heddiw yn hytrach na dibynnu ar weledigaeth ail-law eraill? Dylem fod yn hyderus fod yr Ysbryd Glân yn gweithio ynom. Mae angen inni annog Cristnogion ifanc i wneud hyn a’u rhyddhau i blymio yn ddyfnach i ddiwinyddiaeth ac elfennau sylfaenol ein ffydd. Rhaid gweddïo y bydd Duw yn codi cenhedlaeth newydd yn ein plith fydd yn cael eu gwefreiddio gan y pethau hyn.

Er bod gwirioneddau, ysbrydoliaeth, enghreifftiau, cyngor ac ambell i syniad da i’w cael yn y llyfrau hyn, nid ydynt yn taro deuddeg yn ein cyd-destun ni. Oherwydd tarddu y maent o ddiwylliant cwbl wahanol gydag anghenion amgen. Ac weithiau y canlyniad o’u darllen yw gwneud inni deimlo’n annigonol fel Cristnogion yng Nghymru oherwydd na allwn wneud yr hyn y maent hwy yn ei wneud. Ond camddealltwriaeth ar ein rhan ni o natur Duw a’r ffordd mae’r Ysbryd Glân yn gweithio sy’n achosi hyn.

Y mae’r Arglwydd yn gweithio yn uniongyrchol trwy ei bobl yn eu milltir sgwâr eu hunain, trwy eu profiadau, eu hiaith, eu hamgylchiadau, eu brwydrau a’u heriau penodol. Dyma pam fod rhaid i bob eglwys unigol geisio arweiniad Duw trwy astudio’r Beibl a gweddïo. Mae’n rhoi arweiniad uniongyrchol iddynt yn y man lle y maent trwy’r Gair a’r Ysbryd a chymdeithas yr eglwys leol. I raddau ni ellir benthyg atebion Cristnogion eraill i’n cwestiynau ni. Ar un llaw y mae Duw yn gweithio’n dragwyddol ac ar raddfa enfawr o fewn i’r cread maith ond hefyd y mae’n gweithio yn y lleol a thrwy’r bychan. Mae Duw yn meicro-arwain ei bobl.