Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Calan Gaeaf 2023

Unwaith eto y mae nwyddau Halloween wedi ymddangos yn “frawychus” o niferus ar silffoedd ein   siopau yn barod i “ddathlu” Calan Gaeaf. Maent yn ddigon i godi braw ar y dewraf ohonom.  Y mae nifer o dai yma yng Nghaerdydd wedi eu haddurno gydag addurniadau tymhorol fel sgerbydau a gwe pry cop. Mewn un ardd leol, yn gwbl ddi-chwaeth,  y mae efelychiad o berson wedi ei groeshoelio! 

Yn 2020 aeth y Metrau Iaith ati i geisio gwrthweithio’r Halowîn masnachol Americanaidd, sydd wedi ei hwrjo arnom  ers cenhedlaeth a mwy, a hynny trwy dynnu sylw at draddodiadau a chwedlau Cymreig sy’n gysylltiedig â Chalan Gaeaf. Y mae’r chwedlau hyn yn cynnwys straeon am Gwyn ap Nudd, Brenin Annwfn, mangre’r meirwon. Mae rhywun yn canmol yr awydd i wrthsefyll y diwylliant Eingl Americanaidd sy’n cael ei arllwys arnom yn un cenllif beunyddiol oherwydd os na wnawn, difodiant fydd ein hanes fel cenedl fregus.

Ond beth a wnawn o’r dathliadau hyn fel Cristnogion, mewn gwirionedd, sy’n mynd yn ôl i chwedloniaeth baganaidd ac ofergoelus ein gorffennol.  Y pwyslais hwn ar frawychu, bwci bo, penglogau, sgerbydau, ystlumod, bwganod, pryfaid cop, ellyllon, ysbrydion, coblynnod, bwbachod, cythreuliaid a’u tebyg. Ai rhywbeth cwbl ddiniwed ydyw, y gallwn ei ddysgu yn hwyliog i’n plant yn gwbl ddigydwybod? Yntau a oes elfennau tywyll a pheryglus iddynt? Ys gwn i beth yw dy farn di am hyn? Anfon neges ataf, byddai’n eithriadol o ddiddorol clywed gen ti.

Gwyddom fod ein rhagflaenwyr Cristnogol yng Nghymru ers y dechrau wedi gweithio’n galed i ddileu ofergoeliaeth caethiwus a’r ofn oedd yng nghalonnau’r werin o’r goruwchnaturiol. Y mae’n anodd i ni ddirnad erbyn hyn y modd yr oedd coelion mewn bwganod, tylwyth teg, gwrachod, melltithion a.y.b. yn rheoli meddyliau ac ymddygiad pobl yn y gorffennol hyd nes i egwyddorion Cristnogol eu rhyddhau.  Mae’r ddealltwriaeth Gristnogol yn deillio wrth gwrs o’r rhybuddion sy yn y Beibl fod yna bwerau tywyll ar waith yn y byd, (Deut. 8: 10-11; Ioan 14: 30 – 31; Ioan 17: 15; Effesiaid  6: 11-12)  ond eu bod yn bwerau sydd wedi eu concro gan Iesu. Nid yw’r Beibl yn gwadu bodolaeth pwerau’r tywyllwch ond yn hytrach yn ein cynghori i gadw yn bell oddi wrthynt. A yw dathliadau Calan Gaeaf modern yn ymhél â’r pwerau hyn?

Un peth sy’n sicr, wrth i ddylanwad Cristnogaeth leihau yn ein gwlad, y bydd dylanwad credoau ysbrydol amgen paganaidd a chaethiwus yn cynyddu. Rhaid bod yn wyliadwrus o hyn oherwydd arwain pobl y maent oddi wrth oleuni cariad Duw yn Iesu i dywyllwch.



Un ymateb i “Calan Gaeaf 2023”

  1. Gas gen i Galan Gaeaf! Teimlaf bod peryg mewn agosau at unrhyw ‘ddrwg’ a thywywch. Wastad wedi meddwl hefyd bod angen osgoi gwneud ein hunain yn agored wrth wylio ffilmiau arswyd ac ati (a dwi’n cynnwys ffilmiau fel ‘The Seven Deadly Sins’). Angen inni fel Cristnogion fod yn fwy llafar efallai ynglyn â chyfeirio pobl tua’r golau o gwmpas tymor yr hydref a throad y rhod (gwn fod hyn yn fy ‘iselhau’ i). Mae mis Tachwedd yn gallu bod yn anodd, tywyll, llai o oriau o oleuni dyddiol, etc etc. Mae pobl angen cynhaliaeth. A ydym fel eglwysi yn darparu’r cynhaliaeth anghenrheidiol? Dyna’r cwestiwn! Diolch am y blog.

    Hoffi

Gadael sylw