Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Paid â Chau y Drws

Mae cruglwyth o weithgareddau’n cael eu trefnu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel ei bod, gwaetha’r modd, yn amhosibl mynychu hyd yn oed ddeg y cant ohonynt. Felly, mae’n rhaid dewis a dethol yn ofalus beth i’w mynychu. Gan i mi fethu cyrraedd Maes y Brifwyl ym Modedern mewn pryd i weld aduniad y grŵp Pererin, penderfynais fynd i wrando ar derfyn y dydd ar Arfon Wyn yn cyflwyno detholiad byr o’i ganeuon yn y Babell Lên. Dewis da oedd y dewis hwnnw.

Arwr

Rhaid i mi gyfaddef fod Arfon Wyn, er na ŵyr ef ddim am hyn, yn ddylanwad mawr arnaf  yn fy mhererindod ysbrydol. Cofiaf pan oeddwn yn Ysgol Uwchradd Friars, ym Mangor, fynd yn achlysurol i gyfarfodydd Nos Sul gynhelid yng Ngholeg Bala-Bangor yn y dyddiau pan oedd toreth o fyfyrwyr yn heidio yno i wrando ar siaradwyr Cristnogol. Ar un o’r nosweithiau Sul gwlithog hynny, a’r Ysbryd ar waith, daeth Arfon Wyn (Y clerwr, guitarog, clên, hirwalltog, byrlymus, blêr o Fôn)  i siarad am ei dröedigaeth ac am y ffordd roedd Duw wedi ymyrryd yn ei hanes ef, ac eraill, ar Ynys Tysilio, Porthaethwy. Daeth bywyd newydd ar y dydd tyngedfennol hwnnw ymhlith y beddau. Caeodd Arfon ben y mwdwl y noson honno drwy ganu geiriau, Pantycelyn, “Boed fy nghalon i ti’n demel”, a geiriau Ann Griffiths,”Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd,” i alaw wreiddiol a gyfansoddodd ef ei hun. Cofiaf y wefr o wrando ar y geiriau hynny tra byddaf a sylweddolaf bellach fod Duw ar waith yn galw glaslanc i gredu yn Iesu fel Gwaredwr ac i’w ddilyn a’i wasanaethu gydol ei oes. Yn aml nid trwy genllif y mae Duw yn gweithio arnom i’n hargyhoeddi ond trwy ddiferion hwnt ac yma sydd maes o law yn ennyn ffydd ddofn yn yr Arglwydd.

Credaf

Yn y Babell Lên, cyflwynodd Arfon y gân “Credaf” a enillodd wobr cân y flwyddyn yn un o nosweithiau gwobrwyo Sgrech yn yr wythdegau. Comisiynwyd y gân gan HTV ym 1982 pan ymwelodd y Pab â Chymru. Roeddent yn awyddus i gael cân oedd yn crynhoi’r Credo. Os cofiwch chi fe aeth Arfon Jones, oedd yn weithiwr ieuenctid gyda’r Annibynwyr ar y pryd, ati i gael caniatâd i gyhoeddi’r gân ar feinil a hynny yn enw Mudiad Ieuenctid yr Annibynwyr. Mae angen copi digidol o hon er mwyn i ni ei chwarae eto.

Paid cau y drws

Cân arall a gyfansoddwyd gan Arfon Wyn oedd yr un a genir gan Elin Fflur, sef “Paid â chau y drws.” Dywedodd mai’r ysbrydoliaeth i’r gân hon oedd darlun Holman Hunt o Iesu Goleuni’r Byd sy’n crogi erbyn hyn ar fur yng Ngholeg Keble, Rhydychen. Wel, cnociwch fi lawr gyda phluen drudwy! Gwrandewais droeon ar y gân hon heb sylweddoli bod unrhyw arwyddocâd Cristnogol iddi. Gwrandewch chi ar y gân eto gyda’r wybodaeth hon ac y mae’n cael ei gweddnewid yn weddi ddwys.

Harbwr Tawel

Cân arall a ganwyd oedd “Harbwr Diogel” a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002. Er na ddywedodd Arfon fawr ddim am y gân hon, y mae’n amlwg mai cyfeirio y mae at yr Arglwydd Iesu Grist, pwy arall y gellid dweud fel hyn amdano.

“Mae na rhywbeth amdanat ti na fedra i  egluro
Rhywbeth amdanat ti sy’n gwneud i nghalon i guro
Mae na rhywbeth amdanat ti na fedrai ddianc rhagddo
Rhywbeth amdanat ti na fedrai byth anghofio

Wrth weld y casineb ym mhob gwlad
A gweld y diniwed yn nofio yn y gwaed
Wrth weld y nos yn cau allan y dydd
fyddai ddim yn colli ffydd
Amser hynny fyddai’n diolch.

Wrth weld y tyrrau yn syrthio i’r llawr
A chlywed gelynion yn herio gyda’i geiriau mawr
Wrth weld y byd ‘ma ar dân ac yn mynd o’i go
Fyddai ddim yn anobeithio,
Amser hynny fyddai’n diolch.

Ti yw’r harbwr diogel ynghanol y storm
Ti yw’r breichiau cadarn i’m cadw rhag ofn.”

Diolch i Arfon Wyn am ei gyfraniad i ganu poblogaidd Cymraeg a chanu Cristnogol dros y degawdau.

O! Ia, gyda llaw, gorffennwyd y sesiwn hon yn y Babell Lên trwy i Arfon ganu geiriau, Pantycelyn, “Boed fy nghalon i ti’n demel”, a geiriau Ann Griffiths, “Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd,” i alaw wreiddiol a gyfansoddodd ef ei hun. Alaw a geiriau a glywais am y tro cyntaf oddeutu 38 o flynyddoedd yn ôl ac oedd yn rhan o waith Duw i’m hargyhoeddi mai Iesu yw ein hunig obaith a’n hunig Arglwydd a Gwaredwr. Ni ŵyr neb ohonom sut y mae Duw yn ein defnyddio ni i fod yn offeryn yn ei law i alw cenhedlaeth newydd i fod yn ddisgyblion i Iesu Grist. Daliwch ati yn yr oes ddreng hon, tystiwch i’w gariad ac i’w Efengyl mewn gair a gweithred a thasgwch y diferion hynny y mae Duw yn eu defnyddio i argyhoeddi eraill.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Y Tyst.



Gadael sylw