
Roedd ei thad Harri Edwards – o’r Felinheli – yn arfer darllen chwedlau Cymreig mewn Cymraeg canol iddi hi a’i brawd Tom cyn iddynt fynd i gysgu! Ni chyfarfyddais erioed â’m taid Harri Edwards gan iddo farw yn y 50au, ond clywais o fwy nac un cyfeiriad ei fod yn gymeriad hynod. Bu am gyfnod yn brifathro ysgol gynradd Porthmadog, pan oedd hi wedi ei lleoli ar Chapel Street. Ymddiddorai yn y Gymraeg ac enillodd radd ynddi ym Mhrifysgol Bangor wrth draed, Ifor Williams a John Morris Jones. Roedd hefyd yn dipyn o ffrindiau gyda’r bardd Eifion Wyn, (Eliseus Williams,1867 – 1926), ac ef ysgrifennodd y rhagdraeth i’w gyfrol “O Drum i Draeth”.

Harry a Selina Edwards ar ddydd eu priodas ym Mhenmachno
Hannai fy nain Selina (roedd y teulu yn Wesleyaid o argyhoeddiad) o Benmachno ac roedd ei thad hi Jared Evans yn of yn y pentref. Bu farw hi yn llofft ffrynt Henfryn, Coleg Bala-Bangor pan oeddwn oddeutu 11 oed. Yn ddiweddar darganfu Dr Dafydd Tudur, (ei gor-ŵyr) sy’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol bod Selina wedi llofnodi y ddeiseb heddwch gan ferched Cymru.

Rhain oedd rhieni fy mam.
Heddiw, 17 Medi 2023, byddai Gwenllïan Tudur Jones, fy mam, wedi bod yn 100 oed. Felly yn gwbl naturiol y mae atgofion amdani ac am ein magwraeth o dan ei hadain gynnes yn llifo i’r meddwl. Fi oedd y cyw melyn olaf mewn nythiad o 5 o blant, Nêst, Rhys, Geraint, Meleri ac Alun. Pob un ohonom wedi ein magu ar yr un aelwyd ond pob un gyda phrofiadau ac atgofion gwahanol iawn i’n gilydd. Fy nhad – R. Tudur Jones – yn sglaig a ysgrifennai o fore gwyn tan nos a mam yn sgwrsiwr hwyliog a thafolydd pobl heb ei hail a gadwai drefn ymarferol ar y teulu.

Bydd llawer ar gof a chadw gan fy nhad ac am fy nhad ond ychydig am mam. Gellid ysgrifennu cyfrol amdani ond y cyfan rwyf am ei wneud yma yw mynegi diolch i’r Arglwydd amdani.
Testun balchder i mam oedd ei bod yn perthyn trwy linach benywaidd ym mhob cenhedlaeth i Angharad James, Dolwyddelan. Roedd Angharad James (Gorffennaf 1677 – Awst 1794) yn enwog yn ei chyfnod fel bardd, amaethwr, trefnydd dawnsfeydd a thelynor. Oherwydd fod y pregethwr John Jones, Talsarn o’r un cyff y mae cyfeiriadau ati yn y cofiant iddo gan Owen Thomas. Ac un o ddirgelion hanesyddol llên Cymru yw diflanniad Llyfr Coch Angharad James, oedd yn ôl y sôn yn llawn hyd yr ymylon o’i gweithiau barddonol hi a beirdd eraill lleol. Ceir cyfeiriad at y llyfr coch hwn yng nghofiant Cynddelw. (Robert Ellis, 1812 – 1875 gan David Williams.)
Ta waeth am hynny. Roedd mam yn ystod fy mhlentyndod bob amser yno yn Nhreddafydd ac yna yna Henfryn hyd nes iddi ail afael yn ei gyrfa dysgu yn Ysgol Tryfan, Bangor. Rhoddodd drefn arnom i gyd trwy siarad, gwrando, cynghori, disgyblu, bwydo, golchi yn ogystal a rhedeg hostel Coleg-Bala Bangor yn ddi-dal am oddeutu 20 mlynedd, oedd yn llawn o fyfyrwyr bywiog ac afrywiog. Gyda theulu mawr roedd rhaid i bawb ohonom helpu gyda’r coginio, clirio, llnau ayb, ac o ganlyniad roedd pawb ohonom yn gwbl annibynnol a hunangynhaliol erbyn ein harddegau. Ychydig a wyddwn i ar y pryd wrth droi’r grefi ar fore Sul, smwddio crys, peintio yn yr hostel, golchi dillad rygbi, ateb y ffôn (Bangor, 3402) neu ridyllio’r Aga a’i llenwi gyda glo, fy mod yn dysgu sgiliau bywyd. Ond roedd mam wedi deall.
Lle rhyfeddol oedd Coleg Bala-Bangor (ym Mangor Uchaf) i gael fy magu ynddo yn y 60au, 70au ac 80au. Nyth morgrug o egni, prysurdeb a hwyl. Cyfnod o adnewyddiad ysbrydol a gweithredu gwleidyddol. Cofiaf gyrddau gweddi, cyfarfodydd nos Sul Bala-Bang, ysgol Basg, ymweliadau gan yr heddlu, yr awdurdodau’n tapio ein ffôn, dad yn sefyll ar drol mewn cae yn annerch torf, yr ymgyrch dros yr iaith, Nêst fy chwaer yn y carchar yn Llundain, y giarat yn llawn o arwyddion Saesneg, Black Maria yn cael ei pharcio tu allan, wythnos rag. Mae angen i rhywun grynhoi’r hanesion cyn ei bod yn rhy hwyr.
Testun rhyfeddod parhaus i mi erbyn hyn oedd y rhyddid yr oeddem yn ei gael fel plant wrth fyw ym Mangor Uchaf. Rhoddwyd llawer iawn o raff inni i ddatblygu ac aeddfedu fel unigolion wrth wynebu’r byd. Roedd gan ein rhieni ffydd rhyfeddol ynom ac yng ngallu Duw i’n hamddiffyn. Mae rhai yn meddwl oherwydd daliadau Cristnogol ein rhieni y byddem yn tyfu i fyny o dan hualau disgyblaeth lem. I’r gwrthwyneb. Wrth gwrs, roedd disgyblu a gwastrodi pan oedd raid ond atgofion o ryddid a hapusrwydd sydd gennyf o’m mhlentyndod a’m llencyndod.
Ac un peth arall wrth gloi. Chwerthin. Roedd mam yn chwerthinydd o’r radd flaenaf ac yn mwynhau bywyd a chwmni pobl. Gallaf ei gweld nawr yn llygad y cof yn dweud hanes yn fyrlymus am hwn a llall ac arall ac yn y diwedd y glana chwerthin. Diolch am y fagwraeth unigryw a gawsom gan ein rhieni. Mae’n rhyfedd, rhyfedd meddwl y byddai mam pe bai byw ar y ddaear yn 100 oed.
O.N. Ysgrifennodd Eifion Wyn gadwyn o englynion i mam ar achlysur ei geni, dyma’r cyntaf.
Eilyn wyt aned liw nos, – a’r eira
A’r oerwynt yn agos:
Aur fwynderau fo’n d’aros,
A hoedl hir, Wenllïan dos
O.N. 2 Pam yn fy arddegau dywedodd mam wrthyf un diwrnod, “Dyma frawddeg dda i’w rhoi mewn cân bop. ‘Co ci cas ar y cei ‘cw co!” Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach sgwennais gân yn cynnwys y frawddeg. Dyma hen recordiad ohoni.

Gadael sylw