Bythefnos yn ôl ysgrifennais bwt am y cwestiwn hwn sy’n cael ei ofyn yn gyson i Gristnogion Cymraeg eu hiaith a dwi’n siŵr i bawb sy’n tystio i Iesu Grist trwy gyfrwng iaith leiafrifol. “Why don’t you hold your services in English, that is the lingua franca of Wales?” Yn yr erthygl gyntaf atebais y cwestiwn mewn cyd-destun Beiblaidd ond yma hoffwn ehangu ychydig ar fy ymateb, oherwydd mae cymaint o elfennau ynghlwm wrth y cwestiwn.
Tros y blynyddoedd gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi yn gyson gan bobl sy’n siarad dim ond Saesneg. Cofiaf yn 2019 i Gristion o Faesteg, mewn cyfarfod i drefnu ymweliad y Logos Hope (Llong O.M.) â Chaerdydd, ofyn y cwestiwn hwn i mi gyda’r atodiad crafog, “Your giving priority to the Wesh language and hindering the work of the Gospel.” Weithiau gofynnir y cwestiwn yn ddiniwed ond dro arall fe’i gofynnir gydag oblygiadau annymunol yn perthyn iddo.
Pawb yn siarad Saesneg
Pan oeddwn i’n iau roedd y cwestiwn hwn yn fy ngwneud yn gandryll i’r fath raddau fel nad oeddwn yn gallu ei ateb yn rhesymol gan fy mod wedi fy nghynddeiriogi cymaint. Ond bellach rwy’n hŷn, a gobeithio, ychydig bach yn ddoethach. Wrth ystyried y cwestiwn fe sylweddolwn fod cymhlethdod mawr yn perthyn iddo. Ar un llaw mae’n swnio’n gwestiwn cwbl resymol. “Onid yw pawb yn siarad Saesneg?,” ac felly wrth ddefnyddio’r Saesneg rydym yn cyrraedd mwy o bobl. Pawb mewn gwirionedd sy’n deall Saesneg?
Ond mae gofyn y cwestiwn hefyd ynddo’i hyn yn dirmygu pob un sydd yn rhannu Efengyl Iesu Grist trwy gyfrwng iaith leiafrifol. Mae’r gofynnwr yn gosod ei hun a’i ddiwylliant (mwyafrifol) uwchlaw diwylliannau eraill (lleiafrifol) ac yn awgymu fod rhai Cristnogion trwy ddefnyddio eu hiaith ac yn gweithredu’n groes i ewyllys Duw. Yn syml, ni ddylai Cristnogion wneud hyn yn eu perthynas â Christnogion eraill. Credaf y gofynnir y cwestiwn ran amlaf mewn anwybodaeth sy’n adlewyrchu diffyg dealltwriaeth. Rhaid cofio fod rhai Cristnogion yn credu mai melltith yw amlieithrwydd oherwydd hanes Tŵr Babel. Yno, yn Genesis 11 melltithiodd Duw ddynoliaeth a chymysgu eu hieithoedd. Ond camddealltwriaeth yw hyn oherwydd roedd unieithrwydd yn groes i ewyllys Duw gan ei fod yn atal i dynoliaeth ufuddhau i’w orchymyn yn Genesis 1: 28, sef, “Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear.”
Trafodaeth Fyd-eang
Yr hyn sy’n eithriadol o ddifyr wrth grafu o dan yr wyneb yw bod cymaint o erthyglau yn trafod y pwnc hwn yn fyd-eang, a llawer mwy rwy’n siŵr mewn ieithoedd na allaf fi eu deall. Mae angen i rywun wneud PhD ar hyn yng nghyd-destun Cristnogaeth Gymraeg!
Dyma ddyfyniad o “Let Every Tongue Confess, Language Diversity and Reformed Public Theology” gan JAMES EGLINTON wrth iddo drafod diwinyddiaeth y Calfinydd cymhedrol Herman Bavinck.
“One of Bavinck’s critical contributions to a Reformed theology of language is in placing Calvin’s earlier Genesis-based reflections on linguistics into conversation with eschatology and the book of Revelation. In the fourth volume of his Dogmatics, Bavinck reflects on Revelation 7 and the many diverse nations of the earth being gathered into the new Jerusalem:
““Undoubtedly the divisions of the church of Christ are caused by sin; in heaven there will no longer be any room for them. But this is far from being the whole story. In unity God loves the diversity. Among all creatures there was diversity even when as yet there was no sin. As a result of sin that diversity has been perverted and corrupted, but diversity as such is good and important also for the church. Difference in sex and age, in character and disposition, in mind and heart, in gifts and goods, in time and place is to the advantage also of the truth that is in Christ. He takes all
these differences into his service and adorns the church with them. Indeed, though the division of humanity into peoples and languages was occasioned by sin, it has something good in it, which is brought into the church and thus preserved for eternity. From many races and languages and peoples and nations[,] Christ gathers his church on earth.””
(Gw. Herman Bavinck, Reformed Dogmatics, vol. 4, Holy Spirit, Church, and New Creation, ed. John Bolt, trans. John Vriend (Grand Rapids: Baker Academic, 2008), 318.)
Erthygl arall ddiddorol sy’n ymwneud ag ieithoedd yw “From Babel to Pentecost via Paris and Amsterdam: Multilingualism in neo-calvinist and revolutionary thought,” eto gan James Eglinton.
Hefyd y mae trafodaeth secwlar am imperialaeth ieithyddol yn y traethawd hwn “Linguistic Imperialism: Colonial Violence through Language”, Ananya Ravishankar (Trinity College, Hartford Connecticut)
Sylwadau
Wrth gloi dyma rai sylwadau a ddaw i fy meddwl
- Weithiau ym meddwl Cristnogion sy’n siarad iaith fwyafrifol, y mae’n haws iddynt hwy i gael pawb arall i siarad eu hiaith yn hytrach na dysgu iaith leiafrifol. Yna, nid oes rhaid darparu ar gyfer ieithoedd lleiafrifol na pharatoi deunyddiau ychwanegol. Wrth gwrs mae rhai Cristnogion wedi gwneud camgymeriadau enbyd dros y canrifoedd trwy uniaethu Cristnogaeth gyda diwylliant. E.e., yr arfer fu i Gristnogion gefnogi polisiau’r Ymerodraethau Ewropeaidd wrth goloneiddio gwledydd eraill. Wrth wneud hynny roeddent yn rhoi blaenoriaeth i iaith yr Ymerodraeth, boed Ffrangeg, Almaeneg, Portiwgieg neu Saesneg. Tra ar yr un pryd israddoli ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau brodorol.
Ond nid oes y fath beth â diwylliant unffurf Cristnogol. A diolch i’r drefn fe geir nifer o enghreifftiau o genhadon a geisiodd addsau i ddiwylliannau y cenhedloedd yr oeddynt yn gweithio yn eu plith e.e, John Davies, Tahiti, Gruffydd John yn Tseina.
Mae James Eglington yn gosod y peth fel hyn yng nghyd-destun prynwriaeth ac economi,
“Today a large part of humanity has taught itself to grasp, monetize, and devour both creation and human culture for its own economic purposes. The existence of diverse trees, animals, landscapes, peoples, and languages is justified in brute economic terms. As a case in point, generations of Scottish children were historically told that their own Gàidhlig language was not “worth” speaking because it was not an economically “useful” language. After all, why learn a language spoken only by “peasants” when one could learn the language of merchants.”
(Allan o – Let Every Tongue Confess Language Diversity and Reformed Public Theology, JAMES EGLINTON.)
I wybod mwy am J. Eglington, cliciwch yma
Mae’n drawiadol sut y mae Eglington yma yn tynnu ein sylw at duedd y byd secwlar i roi gwerth ariannol ar bopeth. Ac oni bai bod modd gwneud elw allan o iaith a diwylliant nid oes gwerth iddynt. Nefoedd i wladwriaethau, sefydliadau gwleidyddol a chwmnïau mawr byd-eang fyddai cael ond un iaith. Byddai’n haws wedyn i gadw trefn ar boblogaethau ac i wneud elw enfawr.
Ond mae iaith yn llawer mwy na ffordd i ymelwa. Mae pob iaith yn rhan o greadigaeth Duw ac yn allwedd i agor drysau diwylliannau unigryw, yn allwedd i ddod at Dduw, i ddeall y newyddion da a mynegi moliant, yn allwedd i farddoniaeth, yn allwedd i gerddoriaeth, yn allwedd i lenyddiaeth, yn allwedd i hanes, yn allwedd i draddodiadau, yn allwedd i fyd-olwg arbennig, yn allweddol i fodolaeth cenedl, ac yn aml mae iaith yn cysylltu pobl gyda’r tir y maent yn byw arno. Felly mae difodiant iaith yn dwyn yr allwedd i agor y drws i’r holl bethau hyn.
2. Mewn cymdeithas amlddiwylliannol y mae iaith gyffredin yn fendith fawr a hwylus iawn er mwyn cyfathrebu a chyd-weithio ond a yw hi yn ddisgwyliedig i holl weithgareddau eglwysi i fod yn unig drwy gyfrwng yr iaith honno? Na ddim o gwbl. Haerllugrwydd yw awgrymu’r fath beth. Braint a dyletswydd Cristnogion yw addasu i ddiwylliant y wlad maent yn byw ynddi.
Yn bersonol
Mae gwaith teyrnas Dduw yn fwy nac un iaith ac yn cael ei weithredu trwy bob iaith. Mae Duw wedi fy rhoi fi yma yng Nghymru a dwi wedi fy mendithio a’r gallu i siarad Cymraeg. Y mae wedi fy ngalw i weinidogaeth – yn bennaf – trwy gyfrwng y Gymraeg i rannu Iesu Grist gyda’m cyd Gymry am Iesu, a dyna a wnaf yn llawen hyd fy medd.
O.N., Gwn mai dysgu pader i berson yw ysgrifennu’r erthygl hon yn y Gymraeg. Bydd rhaid i mi ei chyfieithu i’r hen lingua franca er mwyn i eraill weld!!

Gadael sylw