Yn fy nodiadau am yr wythnos gyntaf cyfeiriais at y ffaith fod rhywun wedi gofyn y cwestiwn hwn i mi. “Why don’t you hold your services in English, that is the lingua franca of Wales?” Gwnaeth hynny’n gwbl ddiffuant ac heb unrhyw falais yn ei lais ac ar yr achlysur hwn atebais y cwestiwn mor effeithiol ac y gallwn gan gyfeirio yn gyntaf at resymau Beiblaidd gan mai Cristion o Americanwr ofynnodd i mi.
- Tŵr Babel. Yn hanes tŵr Babel yn Genesis 11 roedd Duw yn anghymeradwyo ymddygiad trigolion Babel. Gorchmynnodd Duw i ddynoliaeth lenwi’r ddaear ac amlhau ond yn yr hanes hwn anufuddhaodd y bobl i’r Arglwydd gan ddweud, ““Dewch, gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni’n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i’r nefoedd. Byddwn ni’n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy’r byd i gyd.” Genesis 11: 4

O ganlyniad i hyn cymysgodd Duw eu hieithoedd fel nad oeddent yn deall ei gilydd ac o ganlyniad gwasgarasant. H.y., nid oedd Duw am iddynt gael un iaith nac un diwylliant gan fod hynny yn eu harwain at anufudd-dod. O ganlyniad gallwn ddweud mai ewyllys Duw yw i ddynoliaeth fod yn aml-ieithog.
- Y Pentecost. Actau 2:1-13. Rhoddodd yr Ysbryd Glân i’r disgyblion y ddawn i siarad mewn ieithoedd amrywiol fel bod y bobl oedd yn Jerwsalem yn eu clywed yn siarad yn eu mamiaith. Hynny yw, nid galluogi’r dorf i ddeall Hebraeg, Groeg neu Ladin a wnaeth yr Ysbryd. Felly o’r bru y mae Cristnogaeth yn amlieithog.
- Y mae pob cenedl, mawr a bach yn rhan o greadigaeth Duw ac felly eu hieithoedd. Fe’n rhoddwyd yma i fod yn stiwardiad doeth i’r greadigaeth gan gynnwys ieithoedd. (Gweler Actau 17:26)
- Yn ystod ei weinidogaeth ddaearol defnyddiodd Iesu Aramaeg, iaith leiafrifol i ddysgu am deyrnas Dduw.
- Yn llyfr y Datguddiad yn y weledigaeth ym mhennod 7 fe ddywedir fod tyrfa aruthrol yn moli’r oes; “Roedden nhw’n dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen.” – Datguddiad 7:9 Ac felly, nid un iaith fydd yn y gogoniant.
Yna, symudais ymlaen at resymau eraill. Cyfeiriais at y ffaith ein bod yn byw yng Nghymru a bod y Gymraeg yn cael ei siarad gan hanner miliwn o bobl. Ond yna, gwaetha’r modd, ar ôl ymateb yn gymharol dwt gyda rhesymau Beiblaidd gwneuthum rywbeth nad ydw i yn ei gymeradwyo. Gwisgais glogyn y dioddefwr Cymraeg. Euthum i sôn am y “Welsh Not” gan gyfeirio yn ddagreuol at y ffaith eu bod yn defnyddio’r nod gwarth hwn pan oedd taid fy ngwraig yn yr ysgol yn Llanrwst. Yr arfer oedd bod y plentyn oedd yn ei wisgo ar ddiwedd y dydd yn cael ei guro. (Er bod hyn yn wir, nid wyf yn argyhoeddedig fod cyfleu ein hunain fel dioddefwyr yn helpu’r achos.) Yn hytrach na cheisio cydymdeimlad fel Cymry Cymraeg mae angen inni fod yn dadlau ein hachos yn gryf, rhesymol a phwrpasol.
Hoffwn sgwennu ychydig rhagor am hyn, ond fe adawaf hynny tan yr wythnos nesaf pryd y byddaf yn ystyried elfen anos – sy’n oblygedig yn y cwestiwn – sef imperialaeth ieithyddol.


Gadael sylw