Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Yr ail Wythnos 10 – 16 Medi 2023

Dyma’r prif bethau

Mae croeso i ti ymateb, fy nghywiro neu ychwanegu at yr hyn rwy’n ddweud trwy sabothyddiaeth.@gmail.com

Cychwynnais yr ail wythnos o’r cyfnod Sabothol trwy fynd i addoli gydag eglwys Vineyard. Cynhelir eu gweithgareddau yng Nghanolfan y Gate, nid nepell o City Road, Caerdydd. Er bod hon yn eglwys gymharol newydd y maent eisoes wedi plannu dwy gynulleidfa arall yng Nghaerdydd un i’r gorllewin yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Lecwydd a’r llall yn Ysgol Gynradd Hawthorn, Ystum Taf. (Sefydlwyd eglwys gyntaf Vineyard gan Kenn Gulliksen,  yng Ngorllewin Los Angeles ym 1974. Ar ddechrau’r 80au ymunodd John Wimber gyda Gulliksen, daeth yn ddylanwadol iawn o fewn y mudiad ac fe aethpwyd ati i blannu eglwysi niferus. Tybiaf mai’r un Vineyard sydd yn Y Gate, Caerdydd. Neu efallai fy mod yn anghywir! All rhywun fy ngoleuo?)

Cefais groeso mawr wrth y drws gan y croesawyr a chynigiwyd toesen (doughnut) i mi.  (Oherwydd fy maintioli presennol ymatalais gan benderfynu mai dim ond paned fyddai ddoethaf.) Mae croesawu pobl i oedfa yn arfer ardderchog.   Roedd tua 130 yn yr oedfa, y rhan fwyaf ohonynt yn deuluoedd ifanc ac roedd awyrgylch gynnes o addoliad. Arweiniodd y band ni i ganu mawl am ryw 20 munud. Nid oeddwn yn gyfarwydd ag unrhyw un o’r caneuon ond roeddent yn hawdd iawn eu dysgu. Cafwyd cyfnod o weddi, aeth y plant a’r ieuenctid i’w gweithgareddau ac fe bregethwyd gan y prif-arweinydd James Rankin. Rhoddodd gyflwyniad i gyfres o bregethau fydd yn parhau am 6 wythnos ar y testun “Foundations”. Roedd yn brofiad braf cael bod yno ynghanol y bwrlwm. (Un peth cwbl ddibwys a sylwais arno oedd fod y pregethwr yn droednoeth. Tybed a oedd yn efelychu Moses yn Exodus 3:5?)

Trefnais i gael paned cyn diwedd y mis gyda J Rankin, er mwyn cael cyfle i’w holi yn fanwl. Oherwydd dau beth ddigwyddodd, tybiaf fod hon yn eglwys garismataidd. 1. Roedd llawer yn dyrchafu eu dwylo mewn mawl. 2. Fe rannwyd gair/gweledigaeth gan yr arweinydd. ( Dwi ar y funud yn sgwennu erthygl am arddull addoliad Anghydffurfwyr Cymru yn y 19eg ganrif. Mae’n astudiaeth ddifyr iawn sy’n agoriad llygad.) Diolch i Gareth a Catrin am eu cwmni.

Sgyrsiau

Cefais sgwrs ardderchog gyda Dr Eilir Jones, dros baned o goffi, yn gwyntyllu rhai o’r materion oedd wedi codi dros yr wythnos ddiwethaf. Buom yn trafod dwyieithrwydd yng nghyd-destun eglwysi Cymraeg a’r ffaith fod cenhedlaeth newydd o bobl sy’n siarad Cymraeg ond wedi eu magu mewn teuluoedd di-gymraeg. Eu hiaith gyntaf yw Saesneg er eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Sut y gallwn fel eglwys ddarparu ar gyfer y bobl hyn? Oni fyddent hwy yn reddfol am addoli Duw trwy gyfrwng Saesneg? Mae hwn yn faes diddorol sydd angen ei drafod ymhellach.

Symudodd y sgwrs yn ei blaen i drafod dysgwyr Cymraeg. Rydym wedi ein bendithio yn fawr yn Ebeneser gyda dysgwyr ardderchog sy’n caru’r Arglwydd ac yn eithriadol o ymroddedig. Ein tuedd yw credu os yw person yn dysgu siarad Cymraeg eu bod wedyn yn Gymry. Ond camsyniad yw hyn yn enwedig os ydynt o genedl arall. Rhaid felly bod yn ddoeth a meddylgar wrth ddarparu ar eu cyfer. Weithiau gallwn fod yn ansensitif gan ddieithrio pobl.

Wrth gloi ddaru ni drafod y weinidogaeth gyflogedig llawn amser. Ymddengys yn y dyfodol y bydd rhaid newid yr arfer hwn, oherwydd y dirywiad, a datblygu patrymau gwahanol, lle bydd arweinyddion eglwysi yn gweithio rhan amser ac yn ennill bywoliaeth trwy yrfa amgen. (Fel Paul y gwneuthurwr pebyll Actau 18:3.)   Ac wrth gwrs mewn cyd-destun hanesyddol, dyma oedd yn digwydd yn nyddiau cynnar Ymneilltuaeth.

Da oedd cael sgwrs hefyd gyda Dr. Rhodri Glyn. Mae Rhodri’n dechrau ar gyfnod newydd yn ei hanes fel gweinidog i’r Arglwydd Iesu yn eglwys y Ffynnon, Bangor a Chyfarwyddwr cynllun Daniel Rowlands ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Coleg Union, Pen-y-bont yn noddi cynllun D.R. er mwyn datblygu hyfforddiant i Gristnogion Cymraeg i blannu cynulleidfaoedd newydd. Y mae’n ddyddiau cynnar iawn ar hyn o bryd ac y mae Rhodri yn rhwydweithio, creu cysylltiadau ac ymchwilio oherwydd ei fod yn awyddus i’r cwrs adlewyrchu ein hanes a’n treftadaeth fel Cristnogion Cymraeg. Y weledigaeth yw bod y cyrsiau o gymorth i gyhoeddi’r newyddion da am Iesu mewn cyd-destun cyfoes yng Nghymru.

Datblygodd ein sgwrs i drafod tystiolaeth Gristnogol mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol. Rhywbeth sydd yn berthnasol i ni fel Cymry ac i gannoedd o genhedloedd eraill ledled y byd. Mae cymaint o leiafrifoedd ieithyddol – os nad pob un – yn dioddef oherwydd grym diwylliannol a masnachol iaith fwyafrifol. E.e., Mewn cyd-destun ffydd mae cymaint o adnoddau Cristnogol gwych i’w cael trwy gyfrwng y Saesneg a chyn lleied yn y Gymraeg. Y perygl yw bod Cristnogion ifanc Cymraeg yn defnyddio’r adnoddau hyn ac yn darllen ei Beibl yn Saesneg. Un o’r anawsterau yw nad yw’r adnoddau hyn yn adlewyrchu ein sefyllfa, ein cefndir, ein diwylliant ac felly fe gawn ein Hamericaneiddio/Prydaineiddio/Seisnigeiddio gan golli golwg ar y ffaith fod Duw yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i bob Eglwys a Christion ddeall y Beibl yng nghyd-destun yr amgylchiadau penodol y maent yn byw ynddynt er mwyn canfod arweiniad Duw. Nid yw’n ddigon da i Gristnogion Cymraeg i fabwysiadu syniadau a dadansoddiadau Beiblaidd o America, Corea, Tseina er mor rhagorol y gallant fod. Diogi ysbrydol yw hynny. Y mae Duw yn siarad yn benodol gyda ninnau hefyd. Rhaid meithrin ein Cristnogion ifanc i sylweddoli fod tystio i’r ffydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn alwad gan yr Arglwydd. Roeddwn wedi dechrau edrych ar hyn yn ystod yr wythnos diwethaf, ac fe ddaw pwt yr wythnos nesaf fydd yn rhannu ffrwyth fy myfyrdodau am “Imperialaeth Ieithyddol.” Diolch i Rhodri am y sgwrs ac am fy nghyfeirio at erthyglau perthnasol.

13/09

Dathlu 37 mlynedd y weinidogaeth ers cael fy ordeinio yn was i Iesu Grist gan eglwys Ebeneser, Wrecsam.

Rhys fy mrawd, Robert Tudur Jones (fy nhad), myfi a Vikki Tudur, (fy ngwraig), y tu allan i ddrws cefn Ebeneser, Wrecsam 13/09/1986. Tynnwyd y llun gan Geraint fy mrawd arall. Mae’n rhaid fod fy mam, Gwenllïan, yn siarad gyda rhywun!

Cwestiwn yr Wythnos

Gofynnwyd i mi “How have you persevered in the Christian ministry for so long in Wales?”  Da chi isho ateb gen i?

Llyfrau

Acts. The Church Afire, (Crossway, 1996), R. Kent Hughes. (Yn ddiweddar dwi di bod yn edrych ar Lyfr yr Actau yn ystod fy nyletswydd ddyddiol, gan ddefnyddio’r esboniad hwn. Tros y blynyddoedd dwi di cael bendith wrth ddefnyddio esboniadau R. Kent Hughes.  Er eu bod yn Americanaidd, y maent yn Feiblaidd, difyr a rhwydd eu darllen. Pwt ar y tro.)

Darllen pytiau

Darllenais Lythyr Paul at y Colosiaid drwyddo. Rhyfeddol beth mae’n ddweud am Iesu.

15Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig –

y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan.

16Cafodd popeth ei greu ganddo fe:

popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear,

popeth sydd i’w weld, a phopeth sy’n anweledig –

y grymoedd a’r pwerau sy’n llywodraethu a rheoli.

Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i’w anrhydeddu e.

17Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy’n dal y cwbl gyda’i gilydd.

Dwisho Darllen hwn

Tell Me the Dream again gan Tasha Jun. Llyfr am Gristnogaeth yn ei berthynas â diwylliant cynhenid.

God’s Gift of Culture:  A Book Review of “Tell Me the Dream Again” by Tasha Jun

Gwefannau a Fideos – Cadw’r gwenith a chwalu’r us.

Apêl Ffynhonnau Byw- Columbia, Undeb yr Annibynywr Cymraeg

https://vineyardusa.org/about/history/

My problem with religion https://podcast.gospelinlife.com/e/my-problem-with-religion-an-open-forum-1693342415/

Darlith gan y diweddar Tim Keller yn trafod 2 beth sy’n atal pobl i  gredu yn Nuw. 1. Dioddefaint y diniwed. 2. Bod Cristnogaeth yn dweud mai ganddi hi yn unig y mae’r gwir.



2 ymateb i “Yr ail Wythnos 10 – 16 Medi 2023”

  1. Diolch am hwn eto! Difyr dros ben.

    Hoffi

    1. Diolch yn fawr i ti

      Hoffi

Gadael ymateb i alunemrys Diddymu ymateb