Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Aer-pod

Mae technoleg wedi dod yn rhan allweddol o’n bywydau ac mae pawb ohonom yn ei ddefnyddio yn ddyddiol. Un teclyn glasddant poblogaidd yw Air-Pods sy’n ein galluogi i wrando ar gerddoriaeth a sgyrsiau. Mae nifer o nodweddion rhyfeddol i’r cibion (pods) hyn yn cynnwys Technoleg Tawelu Sŵn (Noise Cancellation Technology). Pwrpas hwn yw tawelu’r sŵn allanol sy’n tarfu ar yr hyn rydych yn gwrando arno. O fewn i’r cib rydych yn ei roi yn eich clust mae meicroffon sy’n gwrando ar y synau allanol. Yna, trwy ddadansoddi’r wybodaeth anfonir tonnau sain i’ch clust sy’n gwrthweithio’r sŵn cefndirol gan eich galluogi i glywed eich rhaglen/ cerddoriaeth yn well. Onid yw technoleg yn rhyfeddol.

Rhyfeddod arall yw bod William Williams, Pantycelyn, wedi deall yr egwyddor hon yn bell cyn yr Air-pod, gan ei gymhwyso i fywyd y Cristion. Yn rhan gyntaf ei bennill dywed fel hyn,

“O llefara’ addfwyn Iesu,
     mae dy eiriau fel y gwin,
oll yn dwyn i mewn dangnefedd
     ag sydd o anfeidrol rin;”

I’r Cristion mae gwrando ar eiriau’r Iesu, ei addoli a’i ddilyn yn llenwi ein calonnau gyda hyfrydwch a thangnefedd. Ar ben hynny mae hyn yn digwydd,

“mae holl leisiau’r greadigaeth,
     holl ddeniadau cnawd a byd,
wrth dy lais hyfrytaf, tawel
     yn distewi a mynd yn fud.”

Mae llais yr Iesu yn mudo lleisiau’r byd ac yn gwrthweithio’r hyn sy’n andwyol a chelwyddog ynddo. Mae gwrando arno Ef yn ein helpu i beidio â syrthio i demtasiwn nac i fateroliaeth niweidiol ond i’w ddilyn ef yn driw. Sut mae gwneud? Darllen y Beibl, gweddïo ac addoli gan fod yn rhan o eglwys. Ydy lleisiau’r byd yn dy ddrysu? Mae llais arall yn galw arnat.

Rydym angen y dechnoleg ysbrydol hon mewn byd lle mae cymaint o leisiau a sŵn cefndirol yn bloeddio arnom a’n drysu.